a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Dechrueodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 10am.
  2. Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
  3. Nesaf: Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
  4. Nesaf: Cynnig i fabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig i Aelodau
  5. Nesaf: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ofal demensia
  6. Nesaf: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y gwasanaeth iechyd
  7. Nesaf: Dadl Plaid Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol
  8. Nesaf: Dadl Fer ar glefydau'r croen

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni gan Ddemocratiaeth Fyw am heddiw.

    Fe fyddwn ni nol Dydd Mawrth 23 Mehefin, nos da.

    Siambr
  2. Dadl Fer

    Mae'r aelodau wedi cyrraedd eitem olaf y diwrnod, y ddadl fer wedi'i harwain gan y Ceidwadwr Nick Ramsay ar y teitl 'Clefydau'r croen: Blaenoriaethu anghenion pobl yng Nghymru sydd â chlefydau sy'n effeithio ar y croen.'

  3. Pleidleisio

    Os oes angen atgoffa aelodau o bwysigrwydd canolbwyntio yn ystod y cyfnod pleidleisio, dylent wylio'r fideo hwn o fis Mehefin 2006. Roedd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Dr Brian Gibbons wedi arwain dadl y llywodraeth yn erbyn cynnal ymchwiliad cyhoeddus i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ond fe wnaeth e gamgymeriad wrth bleidleisio gan bleidleisio gyda'r wrthblaid am ymchwiliad.

  4. Ymateb

    Gofynnodd Leighton Andrews i Rhodri Glyn Thomas (llefarydd llywodraeth leol Plaid Cymru) a yw'n cytuno gyda barn Elin Jones ar ad-drefnu llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru. Atebodd Mr Thomas fod Ms Jones wedi mynegi ei barn "bersonol" mewn llythyr at y gweinidog.

    Dyma oedd ymateb y gweinidog:

    Leighton Andrews
  5. Tryloywder

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn galw ar lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr "agenda diwygio llywodraeth leol yn arwain at fwy o dryloywder ac atebolrwydd democrataidd mewn llywodraeth leol."

    Janet Finch-Saunders
  6. Pleidlais

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black yn galw am gyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

  7. Dadl Plaid Cymru

    Wrth arwain Dadl Plaid Cymru, mae Leanne Wood yn nodi bwriad llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, ac yn galw ar y llywodraeth "i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn cwrdd ag anghenion dinasyddion Cymru."

    Leanne Wood
    Image caption: Leanne Wood
  8. Diwygio Llywodraeth Leol

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl Plaid Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.

  9. Ymgysylltu â'r cyhoedd

    Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, yn dweud fod y llywodraeth "yn cydnabod yr angen am ymgysylltu â'r cyhoedd yn fwy cyson ar draws y byrddau iechyd", ond yn gwrthod yn gryf yr angen am gomisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol.

    Vaughan Gething
    Image caption: Vaughan Gething
  10. Erthygl

    Golwg 360

    "Dyma'r tro cyntaf i Aelod Cynulliad ymuno gyda phlaid arall - er bod Rod Richards, wedi gadael y Ceidwadwyr i fynd yn annibynnol."

  11. Oscar

    Mohammad Asghar yn ddiamynedd gydag ymyriad gan ei gyn-gydweithiwr, yr aelod Plaid Cymru Llŷr Gruffydd.

    Roedd Mr Asghar yn cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru dros Blaid Cymru o fis Mai 2007 hyd at fis Rhagfyr 2009, cyn gadael i ymuno â'r Ceidwadwyr.

    Dywedodd Mr Asghar ar y pryd ei fod yn teimlo "allan o diwn", gyda pholisïau Plaid yn enwedig ei hawydd am Gymru annibynnol.

    Mohammad Asghar
  12. 'Amheus'

    Mae Kirsty Williams yn dweud ei bod yn "amheus iawn, iawn o'r syniad o gomisiynwyr iechyd."

    Mae hi'n amcangyfrif y byddai'r gost, yn seiliedig ar gynsail y comisiynwyr heddlu, tua £5.6 miliwn.

  13. Comisiynwyr iechyd

    Mae Mr Millar yn galw ar lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu comisiynwyr iechyd wedi'u hethol yn uniongyrchol ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.

    Mae'n cyhuddo Llafur o "ddim ond eisiau cadw eu dwylo ar lifrau seimllyd" pŵer.

  14. 'Gwarthus'

    Mae Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, yn dweud bod "diffyg democrataidd gwarthus yn y broses o wneud penderfyniadau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru."

    Darren Millar
    Image caption: Darren Millar
  15. Symud ymlaen

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ail ddadl y Ceidwadwyr heddiw, y tro hwn ar arweinyddiaeth effeithiol yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.

  16. Syr Jeremy Beecham

    Mae Alun Davies yn cyfeirio at yr alwad yn adroddiad Beecham yn 2006 ar gyfer "gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd."

    Roedd yr adroddiad yn galw am "egwyddorion cyffredin am wasanaethau effeithlon ac atebol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd mewn gwlad fach."

  17. Hyfforddiant dementia

    Dywed Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, y "dylai ystad y Gwasanaeth Iechyd fod mor dementia-gyfeillgar â phosibl."

    Mae hi'n dweud y dylai pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.

    Kirsty Williams
    Image caption: Kirsty Williams
  18. Arferion gorau

    Mr Isherwood yn galw ar lywodraeth Cymru i "ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

    Mae'n cyfeirio at ystadegau sy'n dangos ar y cyfraddau presennol, y bydd un o bob tri o bobl dros 65 oed yn datblygu math o ddementia.

    Mae'n ychwanegu, o holl wledydd y DU, bod "gan Gymru'r gyfradd diagnosis isaf ar gyfer dementia - cyfradd a gododd 2.8% yn y pedair blynedd diwethaf o gymharu â 8.7% yn Lloegr."

    Mark Isherwood
    Image caption: Mark Isherwood
  19. Dementia

    Aelodau symud ymlaen at Ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddementia.

    Mark Isherwood yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia.

    Delwedd Cymharol o ymennydd Alzheimer a ymennydd iach
    Image caption: Delwedd Cymharol o ymennydd Alzheimer a ymennydd iach
  20. Dim gwrthwynebiad

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo'r cynnig heb wrthwynebiad.

  21. Côd Ymddygiad

    Mae Mick Antoniw yn symud y cynnig "i gymeradwyo'r Canllawiau i Aelodau'r Cynulliad ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill a mabwysiadu'r Côd Ymddygiad diwygiedig."

  22. Gwahaniaethu

    Rhun ap Iorwerth yn dweud bod angen gwahaniaethu rhwng plwyfoldeb a'r angen am wir ddemocratiaeth leol.

  23. Cost

    "Beth yw'r gost o ddarparu'r map hwn?", Yn un o gyfres o gwestiynau gan Peter Black.

    "Mae gwaith pellach i'w wneud ar hynny nawr bod gennym fap llywodraeth Cymru ffafriol" atebodd Mr Andrews.

    Peter Black
    Image caption: Peter Black
  24. LLUN

    Mae disgwyl y byddai opsiwn arall yn cynnwys uno siroedd Conwy a Dinbych gan greu naw awdurdod lleol
    Image caption: Mae disgwyl y byddai opsiwn arall yn cynnwys uno siroedd Conwy a Dinbych gan greu naw awdurdod lleol
  25. LLUN

    Map posib ar gyfer cynghorau Cymru, fyddai'n cynnwys wyth sir
    Image caption: Map posib ar gyfer cynghorau Cymru, fyddai'n cynnwys wyth sir
  26. Ymchwil

    Mae ymchwil a gomisiynwyd gan lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn canfod fod 'ymwybyddiaeth o gynlluniau ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn gymysg.'

    Dydy 40% o'r bobl a holwyd 'ddim yn ymwybodol o gwbl' o gynlluniau llywodraeth Cymru i ad-drefnu llywodraeth leol.

    Dywedodd un o bob pump eu bod yn 'ymwybodol iawn' o'r newidiadau arfaethedig.

    Dywedodd 86% nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw fath o weithgareddau ymgynghori fel arolygon, digwyddiadau ymgynghori neu gyfarfodydd y cyngor.

    Am gopi o'r adroddiad llawn, cliciwch yma.

  27. Ymatebion i'r ymgynghoriad

    Llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol, Janet Finch-Saunders, yn dweud na ddylai cynghorau "cael eu gorfodi i uno."

    Mae hi'n gofyn am sicrwydd y bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi.

    Mr Andrews yn ateb y byddant.

    Janet Finch-Saunders
    Image caption: Janet Finch-Saunders
  28. Cost gwleidyddiaeth

    Leighton Andrews yn dweud fod yr achos dros lai o awdurdodau lleol yng Nghymru yn "gymhellol", ac yn ychwanegu ei fod yn "benderfynol o ostwng cost gwleidyddiaeth."

    Leighton Andrews
  29. Llywodraeth Leol

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru.

  30. Cartrefi hygyrch

    Mae'r gweinidog yn cytuno i gais Eluned Parrott i ysgrifennu at bob awdurdod lleol, i ofyn iddynt beth maen nhw'n ei wneud "er mwyn nodi safleoedd ar gyfer cartrefi hygyrch" i bobl ag anableddau.

    Eluned Parrott
    Image caption: Eluned Parrott
  31. Undebau credyd

    Lesley Griffiths yn dweud ei bod yn "awyddus iawn bod undebau credyd yn codi eu proffil."

    Lesley Griffiths
  32. Tai fforddiadwy

    "Mae'r llywodraeth Dorïaidd yn defnyddio Hawl i Brynu i deneuo'r stoc tai fforddiadwy", meddai Jeff Cuthbert.

    Dywed y gweinidog ei bod hi'n cytuno.

    Jeff Cuthbert
    Image caption: Jeff Cuthbert
  33. Cymunedau

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at gwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths.

    I weld rhestr o'r cwestiynau, cliciwch yma.

  34. Undeb Ewropeaidd

    Mae'n "anodd gor-ddweud" pwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd i ffermwyr a busnesau bwyd yng Nghymru, meddai Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd.

  35. Treulio anaerobig

    Andrew R T Davies yn dweud bod diffyg cysylltiadau grid cenedlaethol yn "atal" prosiectau treulio anaerobig.

    Treulio anerobig yw'r broses o ailgylchu gwastraff bwyd a gwastraff amaethyddol i mewn i danwydd adnewyddadwy i gynhyrchu trydan, gwres a gwrtaith ar gyfer tir fferm.

    Mae'r gweinidog yn mynegi syndod ei fod yn cytuno ag arweinydd y Ceidwadwyr ar y pwynt hwnnw, ac mae'n gobeithio y gall llywodraeth y DU helpu gyda materion isadeiledd o'r fath.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  36. 'Real Madrid Ewrop'

    Dywed y gweinidog, ar ôl buddugoliaeth 1-0 Cymru yn erbyn Gwlad Belg nos Wener ddiwethaf i adennill eu safle ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016, mae angen iddo ddiweddaru ei ddisgrifiad o Gymru fel "Real Madrid Ewrop o ran ailgylchu" i "Gymru Ewrop o ran ailgylchu."

    Gareth Bale celebrates
    Image caption: Gareth Bale celebrates
  37. Ynni'r Fro

    Dywed y gweinidog ei fod yn "ystyried rhaglen i olynu Ynni'r Fro, yn ofalus", sef rhaglen llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol.

  38. Strategaeth ddŵr

    Llyr Gruffydd yn dechrau trwy ofyn am ddatganiad am weithredu'r strategaeth ddŵr i Gymru.

    Mae'r Strategaeth Ddŵr i Gymru yn tynnu sylw at weledigaeth llywodraeth Cymru i sicrhau bod "Cymru yn parhau i feddu ar amgylchedd dŵr sy'n ffynnu ac sy'n cael ei reoli'n gynaliadwy i gefnogi cymunedau iach, busnesau sy'n ffynnu, a'r amgylchedd."

  39. Croeso nôl

    Bydd cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant yn dechrau mewn 10 munud!

  40. Diwedd y pwyllgor

    A dynai ni am bore 'ma! Ymunwch â ni am 13:30 ar gyfer cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant.

  41. Gwasanaeth dewisol

    Kirsty Williams yn gofyn pam fod y Gwasanaeth Iechyd yn "brwydro i gynnal gwasanaeth dewisol am 12 mis o'r flwyddyn?", gan nodi amseroedd aros yn ystod y gaeaf.

    Dywed y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething fod "natur y galw yn newid", gyda phoblogaeth hŷn, a mwy eiddil na rhannau eraill o'r DU.

    Kirsty Williams
    Image caption: Kirsty Williams
  42. Gwariant cyfalaf

    John Griffiths yn codi gwariant cyfalaf yn ei etholaeth.

    Y mae'r gweinidog yn ateb fod y "toriad o 30% ar gyfer gwariant cyfalaf ar gyfer Cymru yn cael effaith uniongyrchol iawn ar wariant cyfalaf ym maes iechyd."

    O ganlyniad, mae'n dweud ei fod wedi blaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf sy'n newid y gwasanaeth, yn hytrach na dim ond cynnal y gwasanaeth.

    Mae'n cyfeirio at brosiect Cylch Caron fel enghraifft o fuddsoddiad sy'n hybu'r ddarpariaeth iechyd.

    John Griffiths
    Image caption: John Griffiths
  43. Dyledion

    Dywed Darren Millar nad ydy "diddymu bron i £20m o ddyledion yn annog cyfrifoldeb ariannol" ymysg byrddau iechyd lleol.

    Y mae'r gweinidog yn ateb bod diddymu dyledion diwedd y flwyddyn 2013/14 wedi ei wneud cyn cyflwyno'r drefn bresennol lle y mae rhaid i'r byrddau iechyd gydbwyso eu llyfrau dros gyfnod o dair blynedd.

    Darren Millar
    Image caption: Darren Millar
  44. Nyrsys arbenigol

    Lindsay Whittle AC yn dweud ei fod yn aml yn clywed gan sefydliadau elusennol y gallent arbed arian i'r Gwasanaeth Iechyd.

    Mae hefyd yn galw am bolisi "buddsoddi i arbed" gyda'r defnydd o nyrsys arbenigol.

    Y gweinidog iechyd yn ateb ei fod yn "awyddus iawn i gynyddu nifer y nyrsys arbenigol yng Nghymru."

    Lindsay Whittle
    Image caption: Lindsay Whittle
  45. Gofal sylfaenol

    Y gweinidog iechyd yn dweud ei fod yn anelu i "hybu gofal sylfaenol" fel nad ydy ysbytai yn dwyn yr holl bwysau ychwanegol yn y gaeaf.

    Mae'n ychwanegu bod peirianneg y gwasanaeth prif gyswllt gofal sylfaenol yng Nghymru yn "anodd iawn."

  46. Pwysau'r gaeaf

    Mr Drakeford yn cadarnhau mewn ymateb i Gwyn Price AC fod pob bwrdd iechyd wedi cael cyfran o'r £40m ychwanegol a ddyrannwyd i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn 2014-15 i gefnogi pwysau'r gaeaf.

    Mae'r buddsoddiad ychwanegol yn dod o gronfeydd wrth gefn llywodraeth Cymru meddai.

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford
  47. Craffu

    Mae'r pwyllgor yn cynnal sesiwn graffu gyffredinol a sesiwn graffu ariannol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Mark Drakeford a'r Dirprwy Weinidog Iechyd - Vaughan Gething.

  48. Bore da

    Croeso i ddarpariaeth BBC Democratiaeth Fyw o'r Cynulliad.

    Mae'r Pwyllgor Iechyd yn dechrau am 10am.

    Senedd
    Image caption: Senedd