a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9:15am: Pwyllgor Menter a Busnes.
  2. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eistedd am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r gweinidog cyllid.
  3. Nesaf: Cwestiynau i'r gweinidog gwasanaethau cyhoeddus.
  4. Nesaf: Dadl brys ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.
  5. Nesaf: Dadl Mesur Lefelau Diogel Staff Nyrsio.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Diwedd y dydd

    Y Senedd

    A dyna ni, diwedd prynhawn hir yn y Senedd. Ymunwch â ni nesaf ar Ddydd Mawrth 9 Mehefin, nos da!

  2. Hanes

    Mae Ynys Môn yn cael ei adnabod fel Môn Mam Cymru oherwydd roedd cred bod ei diroedd ffrwythlon yn gallu darparu digon o fwyd ar gyfer Cymru gyfan.

    Mae Mr ap Iorwerth yn galw am fwy o gefnogaeth i gynhyrchwyr bwyd, ac yn dweud y byddai'n hoffi gweld parc busnes ar gyfer cynhyrchwyr bwyd ar yr ynys.

    Arwydd yn eich croesawi i'r ynys
    Image caption: Arwydd yn eich croesawi i'r ynys
  3. Dadl Fer

    Eitem olaf y diwrnod yw'r ddadl fer gan aelod Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ar y teitl 'Môn Mam Cymru: ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd.'

  4. Blinder?

    "Chi yw'r rhai sy'n cau'r drws yn wyneb y llaw sydd eisiau siarad â chi", Andrew RT Davies yn dweud wrth Lesley Griffiths.

  5. Gwrthwynebu

    Wrth ymateb, dywed y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths y bydd llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu unrhyw ymgais gan lywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf.

    Lesley Griffiths
    Image caption: Lesley Griffiths
  6. Cydsyniad

    Dywed yr aelod Plaid Cymru, Simon Thomas, fod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol i ddiddymu, diwygio neu amnewid y Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

    Simon Thomas
  7. Ymrwymiad maniffesto

    Mae Andrew RT Davies yn dweud fod gan y Ceidwadwyr fandad gan y gwnaethpwyd ymrwymiad maniffesto yn ystod yr etholiad cyffredinol i gyflwyno Deddf Hawliau Dynol Brydeinig.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  8. Addo

    Mae llywodraeth y DU yn lansio ymgynghoriad ar gyflwyno Deddf Hawliau Dynol Brydeinig yn lle y Ddeddf Hawliau Dynol, a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur yn 1998.

  9. 'Cam yn ôl'

    Wrth agor y ddadl, dywed Kirsty Williams fod ei phlaid yn gwrthwynebu yn gryf unrhyw ymgais gan lywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf.

    Mae'n esbonio y byddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru ac yn "gam yn ôl wrth hyrwyddo a diogelu hawliau dynol."

  10. Symud ymlaen

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr 'ymgais gan lywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.'

  11. Deniadol

    Aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud fod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi ynddynt.

    "Rydym ar y trywydd iawn, nid ydych chi" mae hi'n gwawdio Llafur.

    Janet Finch-Saunders
  12. Cysylltiadau trawsffiniol

    Eluned Parrott yn galw ar lywodraeth Cymru i "ddatblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru."

  13. Treth gorfforaeth

    Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru yn galw ar lywodraeth y DU i ganiatáu i lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth gorfforaeth yng Nghymru.

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  14. Cydweithio

    William Graham yn galw ar lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i "sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi."

    William Graham
    Image caption: William Graham
  15. Symud ymlaen

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl y Ceidwadwyr ar fewnfuddsoddiad i Gymru.

  16. Diffiniadau

    Dywed y gweinidog ei fod yn cytuno â'r Pwyllgor Iechyd ei bod diwygiadau yn ofynnol i osgoi canlyniadau anfwriadol, a dylid mwy o ddiffiniadau gael eu gosod ar wyneb y Mesur.

    Mae'n ychwanegu os bydd y Mesur yn methu cyrraedd y llyfr cerflun, "gellir cyflawni llawer hebddo."

    Serch hynny, bydd y mesur yn symud ymlaen i Gyfnod 2.

    Mark Drakeford
    Image caption: Mark Drakeford
  17. Buddiol

    David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dweud bod y dystiolaeth a gyflwynwyd wedi'u harwain at y casgliad "y gallai deddfwriaeth sylfaenol ar lefelau diogel staff nyrsio fod yn fuddiol er mwyn adeiladu ar yr offer a'r pwerau sydd gan y Gweinidog yn y maes hwn eisoes".

  18. Niferoedd digonol

    Y diben a nodir ar gyfer y Mesur, a gynigir gan Kirsty Williams, yw ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau iechyd wneud darpariaeth ar gyfer lefelau diogel o staff nyrsio, a sicrhau bod nyrsys yn cael eu lleoli mewn niferoedd digonol i wneud y canlynol:

    • galluogi gofal nyrsio diogel i gael ei ddarparu i gleifion bob amser;
    • gwella amodau gwaith staff nyrsio a staff eraill; ac
    • cryfhau atebolrwydd ynglŷn a diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio a rheoli'r gweithlu.
  19. Lefelau Diogel Staff Nyrsio

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl Cyfnod 1 ar y Mesur Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

  20. Cyfarfod brys

    Bydd "cyfarfod brys" yn cael ei gynnal i drafod a ddylai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael eu gosod o dan fesurau arbennig, dywed y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

    Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd Mr Drakeford y bydd Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn trafod "statws" y bwrdd iechyd gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddydd Llun nesaf.

  21. 'Arswydo'

    Dywed Ann Jones ei bod yn "arswydo i ddarllen bod teuluoedd wedi codi pryderon gwirioneddol a gafodd eu wfftio gan weithwyr proffesiynol."

    Galwodd Ms Jones, y mae ei hetholaeth yn Nyffryn Clwyd yn cynnwys Ysbyty Glan Clwyd, am roi Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig.

    Mae hi'n galw ar y gweinidog i gwrdd â'r teuluoedd.

    Ann Jones
    Image caption: Ann Jones
  22. Mesurau arbennig

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am i'r bwrdd iechyd gael ei roi mewn mesurau arbennig.

    "Faint mwy? Sawl un arall? " gofynnodd Kirsty Williams.

    Pam ymyrryd mewn addysg Blaenau Gwent, gwasanaethau cymdeithasol Abertawe, ond nid ym Mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? meddai.

  23. Diogelwch

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn dweud y dylai ward ysbyty "fod yn lle diogel."

    Mae hi'n dweud ei bod bellach yn bryd i gomisiynwyr gael eu dwyn ​​i mewn i reoli bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

    "Mae'r bwrdd iechyd mewn argyfwng ac mae angen help" meddai.

    Kirsty Williams
  24. Atebol

    Elin Jones yn esbonio bod meddygon a nyrsys i gyd yn atebol i gyrff rheoleiddio pan fyddant yn methu â chyrraedd y safonau a ddisgwylir ganddynt, ac yn yr un modd, dylai rheolwyr hefyd fod yn atebol ac yn cael eu diarddel os oes angen.

  25. Statws cyfredol

    Y mae'r gweinidog yn ychwanegu bydd cyfarfod yr wythnos nesaf i adolygu "statws cyfredol" bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr - sydd eisoes yng ngham 3 o 4 o'r broses ymyrraeth o'r tu allan.

  26. 10 aelod o staff

    Daeth i'r amlwg yn gynharach heddiw fod 10 o aelodau o staff o'r ward iechyd meddwl wedi cael eu cyfeirio at eu cyrff proffesiynol.

  27. Ymddiheuriad

    Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford yn dweud "Rwyf hefyd yn ymddiheuro am yr ymadawiadau llwyr o safonau sylfaenol o ofal y mae'r adroddiad yn gosod allan mor ddiysgog."

  28. Methiannau

    Mr Millar hefyd yn galw am fwy o "arolygiadau dirybudd ar y mathau hyn o wardiau yn y dyfodol i atal y methiannau hyn rhag digwydd."

  29. Mesurau arbennig?

    Mr Millar yn dweud nad oes gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr y "cymhwysedd" i wneud y "newid sylweddol mewn perfformiad" angenrheidiol, ac yn galw ar lywodraeth Cymru i roi'r bwrdd mewn mesurau arbennig.

  30. Arolygaeth iechyd

    Mae llefarydd iechyd yr wrthblaid, Darren Millar yn dweud fod angen diwygio'r arolygiaeth iechyd oherwydd ei fod wedi methu â sylwi ar broblemau yn Ysbyty Glan Clwyd.

    Dywedodd adroddiad damniol ar uned Tawel Fan, Ysbyty Glan Clwyd fod cleifion wedi dioddef o "gam-drin sefydliadol."

  31. Dadl brys

    Mae'r ACau yn symud ymlaen i ddadl frys a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr ddoe ar y sgandal yn ward Tawel Fan.

    Tawel Fan
    Image caption: Tawel Fan
  32. Uno cynghorau

    BBC Cymru Fyw

    Ms Finch-Saunders yn cyfeirio at Mr Andrews yn gwrthod pob un o'r tri chynnig i uno cynghorau yng Nghymru yn wirfoddol ym mis Ionawr.

    Cliciwch yma am y stori.

  33. Methiannau cyfathrebu?

    Mr Andrews yn gwadu y bu "methiannau cyfathrebu" gan lywodraeth Cymru ynghylch y gofynion ar gyfer uno gwirfoddol awdurdodau lleol, fel yr awgrymwyd gan Janet Finch-Saunders.

    Janet Finch-Saunders
    Image caption: Janet Finch-Saunders
  34. Ymgynghoriad

    Dywed y gweinidog fod yr ymgynghoriad ar ddiwygio llywodraeth leol yn "un o'r ymgynghoriadau mwyaf llwyddiannus a gynhaliwyd erioed gan lywodraeth Cymru, o ran y lefel o ymatebion."

  35. Toriadau

    Mr Andrews yn cytuno â chyn-weinidog y llywodraeth John Griffiths bod angen "ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus" mewn awdurdodau lleol oherwydd toriadau i gyllid.

  36. Gwasanaethau Cyhoeddus

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at gwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews.

    Leighton Andrews
  37. Economi lleol

    Yr aelod Democratiaid Rhyddfrydol, William Powell yn dweud y bydd cau Ysgol Pantycelyn yn Llanymddyfri "yn cael effaith niweidiol ar yr economi leol" , ac yn galw am gefnogaeth i Bartneriaeth Llanymddyfri.

  38. Nyrsys asiantaeth

    Altaf Hussain AC, sydd wedi ymddeol fel llawfeddyg orthopedig yn pwysleisio'r angen i leihau gwariant ar nyrsys asiantaeth yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

    Altaf Hussain
    Image caption: Altaf Hussain
  39. Dull SQuID

    Ms Hutt yn cyfeirio at y "dull SQuID."

    I'r anghyfarwydd, dyma'r Cronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr.

    Nid oedd Ms Hutt yn cyfeirio at yr anifail yma.
    Image caption: Nid oedd Ms Hutt yn cyfeirio at yr anifail yma.
  40. Trethi

    Nick Ramsay yn gofyn faint y bydd yn ei gostio i gasglu trethi yng Nghymru, a'r gweinidog yn ymateb y bydd hi'n gwneud cyhoeddiad "cyn bo hir".

    Mae hyn yn dod â gwen gan Mr Ramsay a Ms Hutt!

    Nick Ramsay gyda'i ben yn ei ddwylo
    Image caption: Nick Ramsay gyda'i ben yn ei ddwylo
  41. Amrywiaeth

    Amrywiaeth yn y cwestiynu cychwynnol, gan John Griffiths ar ddatganoli cyfrifoldeb ariannol, i Rhun ap Iorwerth ar drosglwyddo asedau cymunedol.

    Jane Hutt
    Image caption: Jane Hutt
  42. Cyllid

    Prynhawn da! Mae cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, Jane Hut yn dechrau am 13:30pm.

  43. 13:30pm

    A dyna ni o'r Pwyllgor Menter a Busnes y bore ma'. Ymunwch â ni am 13:30 ar gyfer y sesiwn lawn, eitem gyntaf ar yr agenda yw cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid.

  44. Pontydd Hafren

    Mae'r Pontydd Hafren yn "dipyn o rwystr" o ran datblygu'r economi meddai Ms Hart.

    Mae'r ddwy bont yn cael eu rhedeg gan gwmni preifat ac mae llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai gymryd rheolaeth pan fyddant yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

    Mae pontydd yr M4 a'r M48 dros yr Hafren - yn cael eu gwethredu gan gwwmni preifat Severn River Crossings Plc - yn cael eu defnyddio gan tua 80,000 o gerbydau bob dydd.

    Daw consesiwn y cwmni i ben pan fydd enillion o'r tollau yn cyrraedd £996m ar brisiau 1989, amcangyfrifir y bydd hyn yn digwydd tua 2018.

    Pont Hafren
  45. Caffael

    Yr Athro Kevin Morgan yn dweud bod caffael yn faes lle y mae angen i'r sector cyhoeddus "rhoi trefn arni", ac yn draddodiadol mae swyddogion caffael wedi cael statws isel o fewn sefydliadau.

    "Mae grym prynu yn bŵer rhyfeddol " ychwanega.

    Yr Athro Kevin Morgan
  46. Rhannu ffyniant

    Christine Chapman yn dweud bod yr her fawr wrth sefydlu dinas-rhanbarth llwyddiannus yw sicrhau ffyniant a rennir.

    Kevin Morgan yn ateb ei bod yn bwysig bod yn onest y bydd "pawb yn elwa, ond nid yn gyfartal. "

    Mae'n ychwanegu "nid yw'n neges hawdd i wleidyddion i'w gwerthu. "

    Kevin Morgan
    Image caption: Kevin Morgan
  47. Metro

    Ms Hart yn dweud ein bod yn awr "yn y cymal olaf" mewn trafodaethau ar ddatblygu system drafnidiaeth Metro yn ne Cymru.

    Mae trydaneiddio yn rhan allweddol o'r prosiect Metro, sydd wedi'i anelu at wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Caerdydd a gweddill de-ddwyrain Cymru.

    Byddai'r rhwydwaith cyfan, a allai gael ei hadeiladu erbyn 2030, yn golygu trenau, bysiau a thramiau, ac wedi cael ei amcangyfrif i gostio rhwng £1 biliwn a £4 biliwn.

    Mae mwy na 77,000 o bobl yn cymudo i Gaerdydd bob dydd gyda mwyafrif mawr yn teithio ar y ffordd, gan achosi tagfeydd.

    Mae Bae Caerdydd yn un maes lle y gallai tramiau gymryd lle trenau a bysiau, dyma argraff gan artist.
    Image caption: Mae Bae Caerdydd yn un maes lle y gallai tramiau gymryd lle trenau a bysiau, dyma argraff gan artist.
  48. Lagwn Bae Abertawe

    Steve Phillips, Ysgrifennydd y Bwrdd, Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn dweud ei fod "yn hynod o gyffrous gan y syniad o lagŵn ym Mae Abertawe."

    Cafodd y cynigydd a ffafrir ar gyfer y contract i adeiladu rhan o'r forlyn ynni gwerth £850 miliwn, ei henwi'r wythnos diwethaf sef Laing O'Rourke.

    Datblygwyr yn gobeithio y gallai'r morlyn llanw fod yn weithredol erbyn 2018
    Image caption: Datblygwyr yn gobeithio y gallai'r morlyn llanw fod yn weithredol erbyn 2018
  49. Trenau Tube

    Edwina Hart yn dweud nad yw hi'n ymwybodol o unrhyw drafodaethau ynghylch y defnydd posibl o hen drenau Tube ar reilffyrdd y Cymoedd.

    Mae hi'n dweud y dylai cerbydau ar reilffyrdd y Cymoedd ar ôl eu trydaneiddio "fod o'r safon uchaf".

    Tren 'Tube'
  50. Tystiolaeth

    Mae'r pwyllgor yn parhau gyda'i thystiolaeth.

    Yn bresennol mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, yr Athro Kevin Morgan a Steve Phillips, Ysgrifennydd y Bwrdd, Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

    Evidence session
  51. Egwyl fer

    Bydd y pwyllgor yn ailddechrau mewn 10 munud.

  52. Dinas-rhanbarth

    Mr Bale yn dweud ei fod yn anelu at gyflwyno achos busnes i'r Trysorlys erbyn diwedd y flwyddyn.

  53. Metro

    Rhun ap Iorwerth yn gofyn a yw'r arweinydd yn teimlo'n rhwystredig gan gyflymder y cynnydd ar y system Metro.

    Mr Bale yn dweud bod angen "amserlen cyflenwi glir", ac yn ychwanegu ei fod yn "hanfodol i fuddsoddi yn y seilwaith hwnnw."

    Rhun ap Iorwerth
    Image caption: Rhun ap Iorwerth
  54. 'Arweiniad clir'

    Mr Bale yn dweud ei fod yn disgwyl "arweiniad clir" oddi wrth y bwrdd yn fuan, ac mae'n dweud fod gan y dinas-ranbarth botensial i fod yn " chwaraewr mawr yng nghyd-destun y DU. "

  55. 'Cyflymiad'

    Christine Chapman yn gofyn a ydy'r bwrdd dinas-rhanbarth wedi bod yn gwneud cynnydd araf, dywed Mr Bale y bu "cyflymiad" o dan arweiniad Roger Lewis - Cadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

  56. Arweinydd Cyngor Caerdydd

    Mae'r Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn rhoi tystiolaeth ar Ddinas-ranbarthau.

    Mae Dinas-ranbarth Caerdydd yn edrych i sicrhau'r Gronfa Bargen Ddinas a Seilwaith gyntaf yng Nghymru.

    Phil Bale

    Goroesodd Mr Bale her arweinyddiaeth yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol o grŵp Llafur y ddinas mis diwethaf.

  57. Bore Da

    Bore da a chroeso i wasanaeth BBC Cymru Democratiaeth Fyw ar 3 Mehefin 2015.

    Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn dechrau am 9.30am.