a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eistedd am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Llysgenhadon Cyllid yr UE.
  4. Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Strategaeth Dŵr.
  5. Nesaf: Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Deddfwriaeth Digartrefedd.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    A dyna ni am heddiw! Ymunwch â ni am 09:30am bore fory ar gyfer y Pwyllgor Amgylchedd.

  2. Pasiwyd y Mesur

    Cytunodd aelodau i'r cynnig bod "Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47 : Yn cymeradwyo'r Mesur Cynllunio ( Cymru )"

  3. 'Egwyddorion clir'

    Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol David Melding yn dweud y "dylid creu awdurdodau newydd a'r trefniadau etholiadol sy'n cydfynd â hwy yn unol ag egwyddorion clir a nodir mewn deddfwriaeth".

    Ychwanegodd, "yn anffodus, nid oes unrhyw egwyddorion o'r fath ar wyneb y Mesur".

  4. Costau

    Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Jocelyn Davies "yn bryderus y bydd y Mesur yn rhoi'r pŵer i lywodraeth Cymru gymeradwyo uno gwirfoddol heb i gostau a manteision yr uno fod yn hysbys".

    Jocelyn Davies
    Image caption: Jocelyn Davies
  5. Darpariaethau

    Bwriedir i ddarpariaethau'r Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) ganiatáu ar gyfer "gwaith paratoi penodol i alluogi rhaglen o uno a diwygio llywodraeth leol ac mae'n cynnwys darpariaethau i hwyluso'r broses o uno gwirfoddol cynnar rhwng dau neu ragor o Brif Awdurdodau Lleol erbyn mis Ebrill 2018" yn ôl llywodraeth Cymru.

  6. Mesur Llywodraeth Leol

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru).

  7. Ymateb

    Mae Llŷr Gruffydd yn dweud er y bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r Mesur, "credwn mai tasg ar ei hanner yw'r Mesur hwn. Mae'r system gynllunio yn gweithio ormod o'r brig i lawr o hyd, a rhaid i gymunedau gael mwy o rym i benderfynu ar eu blaenoriaethau datblygu eu hunain".

    Mae'r aelod Democratiaid Rhyddfrydol William Powell yn croesawu'r gwelliant bod yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol, ond yn dweud y gallai'r mesur fod wedi mynd ymhellach i gefnogi'r iaith.

    Mae'r Ceidwadwyr yn dweud na fyddant yn pleidleisio o blaid y mesur. Dywedodd Russell George, "Er mwyn llwyddo, roedd angen i'r Mesur hwn symleiddio'r broses gynllunio, a sicrhau bod y system gynllunio yn fwy democrataidd. Yn anffodus i bobl Cymru, yr hyn sydd gennym ger ein bron yw'r gwrthwyneb llwyr".

  8. Mesur Cynllunio

    Mae aelodau yn symud ymlaen at gyfnod 4 y Mesur Cynllunio (Cymru).

    Mae'r Mesur Cynllunio yn rhoi pwerau i weinidogion Cymru i benderfynu ar geisiadau am ddatblygiadau a ystyrir eu bod o bwys cenedlaethol.

    Mae hefyd yn anelu at sefydlu system fwy cyson ar draws awdurdodau cynllunio Cymru.

  9. Cynllun gweithredu

    Bydd cynllun gweithredu'r cyfnod sylfaen yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2016 meddai Mr Lewis, ond yn pwysleisio na fydd yn aros tan hynny i wneud gwelliannau.

  10. Anghydraddoldeb

    Mae polisi blaenllaw addysg llywodraeth Cymru wedi methu â lleihau anghydraddoldeb addysgol rhwng disgyblion o deuluoedd tlotach a'r rheini well eu byd, yn ôl adroddiad i weinidogion ym mis Ionawr 2015.

    Dywed yr adroddiad fod lefelau absenoldeb wedi gwella mewn ysgolion sydd wedi cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen, ond nad yw gwelliannau ym mherfformiad yr ysgolion hynny yn gwbl bendant.

    Plant ysgol
  11. Cefndiroedd tlawd

    Ei nod yw annog plant i fod yn greadigol, yn ddychmygus ac yn anelu i wneud dysgu'n fwy pleserus ac yn fwy effeithiol.

    Y llynedd fe wnaeth Mr Lewis gyfaddef nad yw'r Cyfnod Sylfaen wedi'i "gynllunio i ffafrio" plant o gefndiroedd tlawd.

  12. Cyfnod Sylfaen

    Mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis yn gwneud datganiad ar werthuso'r Cyfnod Sylfaen, y cwricwlwm statudol ar gyfer plant oedran 3 i 7 yng Nghymru.

  13. LLUN

    Digartrefedd
    Image caption: Digartrefedd
  14. 56 diwrnod

    Daeth deddf sy'n ceisio gostwng nifer y bobl ddigartref yng Nghymru i rym fis diwethaf, meddai'r gweinidog.

    Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gydweithio gyda phobl sy'n wynebu colli eu cartrefi o fewn 56 diwrnod, a hynny er mwyn ceisio datrys eu problemau.

  15. Deddfwriaeth Digartrefedd

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths ar y Deddfwriaeth Digartrefedd.

  16. 'Llygrwr yn talu'

    Mae'r gweinidog hefyd yn cytuno gyda sylwadau Llŷr Gruffydd fod "y llygrwr sy'n talu yn egwyddor allweddol."

  17. 'Dŵr o'r radd flaenaf'

    Ychwanegodd "Rydym am i bobl Cymru dderbyn dŵr o'r radd flaenaf, gyda gwasanaethau dŵr â gwerth am arian sy'n cael ei ddefnyddio'n effeithlon, yn ddiogel ac yn barchus gan bawb."

  18. 'Agwedd integredig'

    Dywed y gweinidog bod "y strategaeth derfynol yn amlygu pwysigrwydd cymryd agwedd integredig at reoli dŵr."

  19. Deddfwriaeth

    Mae'r DU ac Ewrop wedi pasio nifer o ddeddfau ynghylch dŵr.

    Darllenwch ragor am ddeddfwriaeth gyfredol sy'n ymwneud â dŵr yma.

    Dŵr Cymru
    Image caption: Dŵr Cymru
  20. Strategaeth Dŵr

    Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant nawr yn gwneud datganiad ar y Strategaeth Dŵr.

    Gwnaeth ei ragflaenydd, Alun Davies, ddatganiad ar strategaeth ddŵr i Gymru ar 13 Mai 2014.

    Nod y Strategaeth yw sicrhau bod ein hadnoddau dŵr yn "gadarn, cynaliadwy ac yn cael eu rheoli er budd Cymru a'i dinasyddion".

  21. £210 miliwn

    Ms Hutt yn addo i "sicrhau gyda'n gilydd ein bod yn adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed wrth gyflwyno'r Cronfeydd Strwythurol, sydd eisoes wedi ymrwymo dros £210 miliwn o arian yr UE yn y chwe mis ers i'r rhaglenni gael eu lansio."

  22. 'Ymateb cadarnhaol'

    Wrth gyfeirio at y Llysgenhadon Dr Grahame Guilford, Dr Hywel Ceri Jones, a Gaynor Richards, mae Jane Hutt yn dweud ei bod hi'n "falch gyda'r ymateb cadarnhaol yr wyf wedi ei dderbyn ar eu penodiad ac ar gyfer ymgysylltu agored a pharod ar draws y llywodraeth i helpu i ddatblygu eu gwaith."

  23. Llysgenhadon Cyllid yr UE

    Mae'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt yn gwneud datganiad ar Lysgenhadon Cyllid yr UE.

    Ym mis Tachwedd 2014 cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ei bwriad i sefydlu panel bach ( 3 aelod o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector) o Lysgenhadon Cyllid yr UE i helpu i hyrwyddo ac uchafu cyfleoedd a gyflwynir gan raglenni ariannu a reolir yn uniongyrchol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020.

    EU flag
  24. Symud ymlaen

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen i'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes wythnosol gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt.

    Jane Hutt
    Image caption: Jane Hutt
  25. Cwestiwn brys

    Mae Mark Isherwood yn gofyn cwestiwn brys am y cyhoeddiad am fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol.

    Mr Isherwood yn cwyno am ddiffyg manylder ac yn ychwanegu y dylai'r cyhoeddiad fod wedi ei gwneud i'r Aelodau'r Cynulliad, yn hytrach na drwy ddatganiad i'r wasg.

  26. Sgiliau

    Gweithwyr yr Almaen ac America yn fwy cynhyrchiol na'r rhai yn y DU oherwydd diffyg buddsoddiad mewn sgiliau, meddai'r Prif Weinidog.

  27. Wylfa

    Jenny Rathbone yn sôn am ymweliad â'r Wylfa, lle bu'n clywed bod rhaid i weithwyr deithio i Lerpwl, Manceinion neu Gaerdydd ar gyfer hyfforddiant.

  28. Cyngor Caerdydd

    Codir cwestiynau am ffraeo o fewn Cyngor Caerdydd a'r effaith ar arian posibl gan y Trysorlys.

    "Nid ydym yn gwybod eto faint o arian fydd ar y bwrdd ar gyfer Caerdydd a'r ardaloedd cyfagos" , atebodd Mr Jones.

  29. Trafnidiaeth

    AC Plaid Cymru Lindsay Whittle yn codi pryderon am gost ffordd liniaru arfaethedig yr M4 gwerth £1 biliwn, a'i effaith ar gynlluniau trafnidiaeth eraill megis y system metro i dde-ddwyrain Cymru.

    "Nid yw'r M4 a'r system metro yn cystadlu am yr un arian", atebodd Mr Jones.

  30. Ffermio mynydd

    Mae Mr Jones yn dweud y byddai'n ofni ar gyfer dyfodol ffermio mynydd yng Nghymru os byddai Defra yn hytrach na'r Comisiwn Ewropeaidd yn gyfrifol am cymorthdaliadau amaethyddol.

  31. Recriwtio

    Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn gofyn am feddygon teulu a recriwtio eraill yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru. Ychwanegodd pam nad oes cynlluniau pendant i recriwtio mwy?

    Y cam cyntaf yw gwneud yn siŵr bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn lle deniadol i weithio, atebion Mr Jones.

    Leanne Wood
    Image caption: Leanne Wood
  32. 'Cynghorydd ar eiddo'

    Mae David Goldstone yn "gynghorydd ar eiddo" meddai Mr Jones ac ychwanega fod y Gweinidog wedi cynnig arian i'r cwmni heb ystyried yr hyn a ddywedodd Mr Goldstone.

  33. Ideoba

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R T Davies yn codi cwestiynau ynghylch rôl yr ymgynghorydd David Goldstone ar ôl i'r cwmni Ideoba fethu.

    Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am ymchwiliad annibynnol i rôl cynghorwyr gweinidogol ar ôl cwymp y cwmni technoleg.

  34. Datganoli pŵer

    Mr Jones yn ychwanegu ei fod o blaid datganoli'r pŵer i newid y terfynau yfed a gyrru i lywodraeth Cymru.

    Carwyn Jones
    Image caption: Carwyn Jones
  35. Yfed a gyrru

    "Rwy'n cytuno y dylai'r terfyn yfed a gyrru gael ei ostwng" , meddai'r prif weinidog mewn ateb i gwestiwn gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.

  36. Ffordd o fyw

    Mae angen annog a chefnogi pobl i newid eu ffordd o fyw, meddai Mr Jones.

    Mae'n ychwanegu fod syniad treth pop Plaid Cymru yn 'ddiddorol', ond yn amheus o glustnodi cronfeydd i dalu am fwy o feddygon.

  37. Gordewdra

    Mae Christine Chapman yn gofyn beth y mae llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â lefelau gordewdra yng Nghymru.

    Mae cyfran y plant dros bwysau neu'n ordew yng Nghymru (26%) yn waeth na'r rhanbarth gwaethaf ar gyfer gordewdra ymhlith plant yn Lloegr (24 %) , yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  38. M4

    Treialu cau cyffordd 41 yr M4 yw'r pwnc cyntaf, gyda'r Prif Weinidog yn dweud bod y gwasanaethau brys yn cael pob cyfle i leisio eu barn.

  39. Dr Hussain

    Dr Hussain yn talu teyrnged i "arweinyddiaeth fawr" Andrew RT Davies.

  40. Aelod newydd

    Altaf Hussain
    Image caption: Altaf Hussain

    Mae'r Llywydd Rosemary Butler yn croesawu aelod cynulliad Ceidwadol newydd, Dr Altaf Hussain a oedd yn tyngu llw y bore yma fel AC rhanbarthol ar gyfer Gorllewin De Cymru.

    Mae'n cymryd lle Byron Davies, a ddaeth yn AS dros Gŵyr yn yr etholiad cyffredinol.

  41. Prynhawn da

    Croeso nol! Bydd cwestiynau i'r prif weinidog yn dechrau am 13:30.

  42. Dyna ni!

    Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi gorffen.

    Ymunwch â ni am 13:30 ar gyfer cwestiynau i'r prif weinidog.

  43. Cymhorthdal ​​ystafell sbâr

    Mae "lefel ychwanegol o bryderu" wedi bod ymysg tenantiaid anabl sydd wedi eu heffeithio gan y cymhorthdal ​​ystafell sbâr, meddai Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

  44. Trydar

    via Twitter

    @fmwales: "Buddsoddi £108 miliwn mewn tai cymdeithasol"

  45. Arian wrth gefn

    Mike Hedges yn dweud fod arian wrth gefn cymdeithasau tai, wedi lleihau yn ystod y 12 mis diwethaf.

    Mike Hedges
    Image caption: Mike Hedges
  46. ôl-ddyledion

    Mae'r tri llefarydd cymdeithasau tai yn nodi nad yw ôl-ddyledion rhent neu dreth yn atal tenantiaid rhag trosglwyddo i eiddo llai.

  47. Arweinyddiaeth

    Bu "rôl arweinyddiaeth gadarnhaol" gan lywodraeth Cymru, meddai Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

  48. Cynghorau

    Mae William Graham yn gofyn pa mor barod y mae cynghorau ar gyfer y newidiadau.

    Dywed Linda Whittaker, Prif Weithredwr Cartrefi Nedd Port Talbot fod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers tua tair blynedd ac mae wedi helpu bod y newidiadau wedi bod yn gynyddol.

    Linda Whittaker
    Image caption: Linda Whittaker
  49. LLUN

    Tystion newydd
    Image caption: Tystion newydd
  50. Tystion newydd

    Mae'r pwyllgor wedi symud ymlaen at eu sesiwn dystiolaeth nesaf ar ddiwygio lles.

    Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Castell nedd a Phort Talbot a Tai Wales & West yn rhoi tystiolaeth.

  51. Credyd cynhwysol

    Gofynnodd Sandy Mewies am effaith credyd cynhwysol yng Nghymru, dywedodd Steve Clarke eu bod yn "bryderus iawn, iawn" am rai elfennau, megis taliadau uniongyrchol.

    Mae'n amau ​​y bydd yn "drefn lymach" i lawer.

  52. Disgwyliadau

    Dywed Aled Roberts nad ydy llawer o'r llety gwarchod a adeiladwyd yn y 1970au yn bodloni disgwyliadau cyfredol tenantiaid.

  53. Tenantiaid anabl

    Gofynnodd Julie Morgan am ymateb tenantiaid anabl ynghylch effaith diwygio lles, a dywedodd Steve Clarke y bu "anghrediniaeth am yr anghyfiawnder".

    Ychwanegodd David Lloyd ei fod wedi bod yn "gyfnod dryslyd a llawn straen" i lawer.

    Julie Morgan
    Image caption: Julie Morgan
  54. Byngalos

    O safbwynt tenantiaid hŷn mae "rhwystredigaeth" am y diffyg byngalos i'r rheiny sydd am symud i gartref llai o faint, meddai Steve Clarke.

  55. Hanes

    Mae'r 'Tenant Participation Advisory Service' (TPAS ) Cymru yn dweud ar eu gwefan eu bod "wedi bod yn cefnogi tenantiaid a landlordiaid tai cymdeithasol yng Nghymru am dros 20 mlynedd, ac mae ganddo hanes profedig mewn datblygu cyfranogiad effeithiol drwy hyfforddiant, cefnogaeth, prosiectau ymarferol a datblygu polisïau."

  56. Cyfartaledd oedran

    Cyfartaledd oedran tenant tai cymdeithasol yw 58, meddai Steve Clarke.

  57. Lleihau gwariant

    Ym mis Ebrill 2011, dechreuodd Llywodraeth y DU ar raglen ddiwygio a fydd yn arwain at gyflwyno'r Credyd Cynhwysol fesul cam rhwng mis Hydref 2013 a 2017.

    Un o brif nodweddion cynlluniau Llywodraeth y DU yw'r newidiadau i Fudd-dal Tai, sy'n ceisio lleihau gwariant blynyddol tua £2.3 biliwn.

  58. Budd-dal Tai

    Mae'r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ystyried sut y mae'r newidiadau i Fudd-dal Tai a gyflwynwyd gan raglen diwygio lles Llywodraeth y DU yn cael effaith sylweddol ar gynghorau a chymdeithasau tai yng Nghymru.

  59. Diwygiad lles

    Mae'r pwyllgor yn cynnal eu trydedd sesiwn dystiolaeth ar ddiwygiad lles.

    Yn rhoi tystiolaeth mae Steve Clarke - Rheolwr Gyfarwyddwr, Tenantiaid Cymru a David Lloyd - Cyfarwyddwr, TPAS Cymru.

    David Lloyd + Steve Clarke
    Image caption: David Lloyd + Steve Clarke
  60. Bore da

    Croeso i ddarllediad BBC Democratiaeth Fyw o'r Cynulliad. Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9am.

    Senedd
    Image caption: Senedd