Cofio un o arwyr pêl-droed Cymru, Dr Mills-Roberts

  • Cyhoeddwyd
Tîm Preston North End 1889Ffynhonnell y llun, Hulton Archive/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Tîm pêl-droed Preston North End yn 1889: Dr Mills-Roberts sy'n sefyll yn y rhes geFn ar y chwith

Faint wyddoch chi am un o gymeriadau mawr hanes y bêl gron yng Nghymru, y gôl-geidwad, Robert Mills-Roberts?

Union 160 o flynyddoedd ers ei eni mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar fywyd rhyfeddol y llawfeddyg o Ffestiniog oedd yn chwarae i Gymru a Preston North End, enillwyr Cwpan yr FA 1889.

Ganwyd Robert Herbert Mills-Roberts, mab hynaf Robert Roberts a'i wraig Mary Mills Roberts, ym Mhenmachno ar 5 Awst 1862. Ychydig wythnosau wedi ei enedigaeth symudodd y teulu i Ffestiniog lle bu'r tad, Robert Roberts - wedi cyfnod byr yn gweithio fel ysgolfeistr Ysgol Llwyn-y-gell - yn gweithio fel cyfrifydd yn Chwareli Oakeley.

Dechreuodd Mills-Roberts ar ei addysg elfennol yn Ysgol Llwyn-y-gell, ac yn ôl cofnodion yr ysgol roedd yn fachgen bach bywiog a drygionus. Dangosodd addewid o oedran ifanc gan ragori ar y caeau chwarae yn ogystal â'r ystafell ddosbarth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Symudodd i Ysgol Friars ym Mangor lle bu'n gapten y tîm pêl-droed yn 1878. Tra'r oedd yn ddisgybl yno, enillodd Mills-Roberts ysgoloriaeth mathemateg i ysgol ramadeg yn Salisbury, ond yn ôl dymuniad ei dad, arhosodd ym Mangor, cyn mynd yn ei flaen i astudio yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth.

Rhwng 1879 a 1881 bu'n chwarae pêl-droed i dîm y dref yn ogystal â chapteinio timau pêl-droed a rygbi'r Brifysgol.

Yn 1882, dechreuodd Mills-Roberts astudio ar gyfer cymhwyster meddygol yn Ysbyty St. Thomas yn Llundain. Wedi graddio enillodd brofiad mewn sawl ysbyty gan gynnwys Ysbyty Caerlŷr, Ysbyty Brenhinol Caerfaddon, Ysbyty De Dyfnaint a Dwyrain Cernyw ac Ysbyty Cyffredinol Birmingham.

Chwarae i'r 'Invincibles'

Yn ystod ei gyfnod yn Birmingham y dechreuodd Mills-Roberts chwarae i un o dimau pêl-droed amlyca'r cyfnod - Preston North End, neu'r 'Invincibles' fel y cyfeiriwyd atynt bryd hynny.

Bu'n cadw gôl i'r tîm adnabyddus am sawl tymor. Colli o ddwy gôl i un yn erbyn West Brom yn ffeinal Cwpan yr FA fu'r hanes yn 1888, ond y flwyddyn ganlynol fe enillwyd y gwpan yn erbyn tîm y Wolverhampton Wanderers o dair gôl i ddim.

Mae'r ffaith na sgoriwyd yn eu herbyn yn y ffeinal na chwaith mewn unrhyw gêm gwpan y tymor hwnnw yn fesur o allu arbennig Mills-Roberts fel gôl-geidwad.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,
Llun artist o'r ffotograff o dîm Preston North End 1888-1889: Dr Mills-Roberts sy'n sefyll ar y dde eithaf y tro hwn

Rhwng 1885 a 1892 enillodd wyth cap dros Gymru. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn Lloegr o flaen torf o 6,000 ar faes pêl-droed Leamington Road yn Blackburn ar 14 Mawrth 1885. Y sgôr terfynol oedd 1 - 1 gyda phapurau newydd y cyfnod yn canmol arbedion 'marvellous' Mills-Roberts.

Penodwyd ef yn Brif Lawfeddyg Ysbyty Chwarel Dinorwig ger Llanberis ym mis Gorffennaf 1890.

Bu'n byw am gyfnod yn Hafodty, cartref traddodiadol llawfeddyg yr Ysbyty, ond symudodd i Fodafon (tafarn yr Heights erbyn heddiw) yn Llanberis ym 1896. Er iddo ennill dyrchafiad i'r teitl 'Mr' yn 1893, fel 'Dr Mills' y cyfeiriwyd ato bob amser gan chwarelwyr a thrigolion lleol.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Ysbyty Chwarel Dinorwig o flaen ei hamser a meddygon arloesol fel Mills-Roberts yn gwasanaethu'r chwaraelwyr

Yn naturiol, bu ei bresenoldeb yn Llanberis yn hwb mawr i'r pentrefwyr sefydlu tîm; sefydlwyd tîm Llanberis ('Y Darans') yn 1890 gan ei wneud yn un o dimau pêl-droed hynaf y gogledd.

Tra'r oedd Chwarel Dinorwig yn gweithio ar ei heithaf, fe welwyd oes euraidd o driniaeth yn ei hysbyty. Roedd hylendid a glanweithdra yn flaenoriaethau mawr yno. Mewn ymgais i leihau'r risg o drosglwyddo haint yn ystod llawdriniaethau, aeth Mills-Roberts i'r ymdrech o osod tapiau dŵr arbennig ar lawr yr ystafell feddygol a oedd yn gallu cael eu rheoli gan ei draed!

Er iddo ymddeol o chwarae pêl-droed rhyngwladol yn 1890 gwnaeth un ymddangosiad olaf ddwy flynedd yn ddiweddarach ym mis Mawrth 1892 pan ddychwelodd i'r Cae Ras yn Wrecsam i wynebu tîm cryf o Loegr.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,
O wefan Papurau Newydd y Llyfrgell Genedlaethol: beirniadaeth yn y Wrexham Advertiser

Hallt iawn fu'r feirniadaeth o'i berfformiad olaf; er i ohebydd y Wrexham and Denbighshire Advertiser gydnabod iddo sicrhau 'some fine saves', credai hefyd ei fod yn chwarae mewn modd 'anniogel' ac ei fod bellach 'out of practise.' Colli o ddwy gôl i ddim fu'r hanes.

Rhyfel y Boer a'r Somme

Yn ogystal â meddygaeth a phêl-droed roedd gan Mills-Roberts ddiddordeb mawr yn y fyddin a gyda chaniatâd perchnogion Chwarel Dinorwig fe dreuliodd gyfnodau'n gwasanaethu dramor.

Ym mis Hydref 1900 gwelwyd dathliadau mawr pan ddychwelodd Mills-Roberts i Lanberis wedi cyfnod yn gwasanaethu yn yr Ysbyty Cymreig yn Ne Affrica fel rhan o ymgyrch Rhyfel y Böer. Yn ôl gohebydd y Carnarvon and Denbigh Herald: "...the doctor was warmly welcomed and escorted to an open carriage outside. To this was attached by a rope, and it was dragged through the streets by scores of willing and strong young quarrymen."

Yn 1915 gadawodd bentref Llanberis unwaith eto; y tro hwn, ymunodd â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn Ffrainc lle gwasanaethodd yn gyntaf fel Prif Swyddog Gwasanaeth Ambiwlans Maes 131, 38ain Adran Gymreig ac yna fel Pennaeth y 41ain Ysbyty Sefydlog.

Ffynhonnell y llun, IWM/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Dr Mills-Roberts yn un o'r meddygon oedd yn trin milwyr ym mrwydr y Somme - daw'r llun yma o filwr wedi ei niwedio o ffilm y credir iddi gael ei thynnu ar ddiwrnod cynta'r frwydr ar 1 Gorffennaf 1916

Bu'n trin milwyr yn rhai o brif frwydrau Ffrynt y Gorllewin gan gynnwys y Somme a Passchendaele.

Ni ddychwelodd Mills-Roberts i Lanberis wedi'r rhyfel; yn 1919 symudodd i Gaer lle bu'n gweithio fel Dirprwy Gomisiynydd Gwasanaethau Meddygol Gogledd Cymru a Swydd Amwythig, swydd y bu ynddi hyd 1924.

Bu farw mewn cartref gofal yn Bournemouth ar 27 Tachwedd 1935, yn 73 mlwydd oed. Roedd yn ddyn amryddawn ac arloesol, ac fe gyfrannodd yn fawr at fywyd cyhoeddus Cymru mewn sawl maes yn ystod ei fywyd.

Hefyd o ddiddordeb: