'Her ddifrifol' wrth i blant mewn gofal aros mewn Airbnbs

  • Cyhoeddwyd
Gofal
Disgrifiad o’r llun,
Mae BBC Cymru wedi darganfod fod dwsinau o bobl ifanc wedi cael eu gosod mewn llety dros dro bob blwyddyn

Mae plant mor ifanc ag 11 oed wedi eu cartrefu mewn Airbnbs a llety dros dro eraill, wrth i gynghorau wynebu "her ddifrifol" wrth geisio darparu lleoliadau addas.

Dyna mae gwaith ymchwil gan BBC Wales Investigates wedi'i ddarganfod.

Mae cynghorau sir yn mynnu mai dyma'r cam olaf i blant mewn gofal, a bod gweithwyr cefnogaeth ar gael ddydd a nos i blant dan 16 oed.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod eisiau cael gwared ar roi pobl ifanc dan 18 mewn llety gwely a brecwast.

Ond mae BBC Cymru wedi darganfod fod dwsinau o bobl ifanc yn parhau i gael eu gosod mewn lleoliadau o'r fath bob blwyddyn.

'Byddai carchar wedi bod yn well'

"Rwy'n gwybod fel ffaith y byddai carchar wedi bod yn well na'r man ges i fy rhoi."

Dywedodd iddo symud i mewn ac allan o ofal pan oedd rhwng 14 a 18 oed, ac wrth i'r berthynas â'r cartref plant ddod i ben ac yntau newydd droi'n 17, cafodd ei roi mewn llety gwely a brecwast.

"Yno roedd 'na bobl oedd newydd ddod allan o garchar," meddai Niall.

"Cafodd fy mhethau eu dwyn cwpl o weithiau yno. Byddech chi'n gweld pobl yn cicio drysau lawr, fe fyddai 'na bobl yn torri ffenestri, cario cyllyll."

Disgrifiad o’r llun,
"Roedd yn edrych fel pe bai nhw'n rhoi'r holl blant heriol oedd yn eu harddegau dan un to," meddai Niall

Esboniodd Niall iddo yna gael ei symud i'r hyn mae'n disgrifio fel hostel, er bod y cyngor yn mynnu mai tai â chymorth oedden nhw, wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i rywle parhaol iddo fyw.

"Bydden i'n cael fy neffro gan bwniad basically," meddai wrth gofio'n ôl.

"Felly roedd yn rhaid i mi ddechrau codi barricade o flaen y drws - yn amlwg bydden nhw'n mynd trwodd yn y diwedd ac roedd o'n mynd 'mlaen a 'mlaen bob dydd.

"Roedd yn edrych fel pe bai nhw'n rhoi'r holl blant heriol oedd yn eu harddegau dan un to."

Dywedodd y bobl oedd yn gyfrifol am ofal Niall iddyn nhw wneud pob ymdrech i ddod o hyd i rywle arall iddo aros, ac nad oedd ei achos yn syml, ond wnaeth Cyngor Caerffili ddim ymateb i'r honiadau o fygythiadau a thrais.

'Cysgu ar y stryd'

Cafodd Hope ei rhoi mewn gofal yn 14 oed, ond daeth ei chysylltiad â'r teulu maeth i ben pan oedd yn 16.

"Roeddwn i'n blentyn mewn pabell, gydag oedolyn oedd dros 18, yn cysgu ar y stryd ble doedd neb yn gwybod ble oeddwn i," meddai Hope, sydd bellach yn ei hugeiniau cynnar.

"Yn dechnegol, roeddwn i'n blentyn y wladwriaeth. Doedd o ddim yn iawn… roeddwn i at risk."

Dywedodd Cyngor Wrecsam, oedd yn gyfrifol am ei gofal, na allen nhw wneud sylw ar achosion unigol ond bod eu gwasanaethau bellach wedi'u trawsnewid ac y bydden nhw'n defnyddio sylwadau Hope i wella pethau ymhellach.

Disgrifiad o’r llun,
"Roeddwn i'n blentyn mewn pabell... yn cysgu ar y stryd ble doedd neb yn gwybod ble oeddwn i," meddai Hope

Yn 2016 mi wnaeth yr actor a'r ymgyrchydd Michael Sheen gyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru yn galw am roi'r gorau i'r arfer o roi pobl ifanc mewn llety gwely a brecwast.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd yn dweud eu bod nhw am gael gwared â'r arfer, ond mae gwaith ymchwil gan BBC Wales Investigates yn awgrymu fod dwsinau o bobl ifanc fel Niall a Hope yn parhau i gael eu rhoi yn y sefyllfa yma.

Mae cyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth i holl gynghorau Cymru wedi darganfod fod o leiaf 50 o bobl ifanc wedi'u gosod mewn llety fel gwely a brecwast yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gydag o leiaf 285 wedi'u gosod mewn mannau byw yn "annibynnol neu led-annibynnol", sydd chwaith ddim yn destun i reoliadau gan y corff gwarchod gofal.

'Argyfwng diffyg lleoliadau addas'

Mae'n sefyllfa sy'n heriol i weithwyr cymdeithasol.

Mewn adroddiad y llynedd dywedodd Asiantaeth Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Gofal Cymru fod y wlad yn wynebu "argyfwng oherwydd diffyg lleoliadau addas sydd ar gael i bobl ifanc".

Tra bod y rhan fwyaf o bobl ifanc sy'n cael eu rhoi mewn llety dros dro yn 16 neu 17 oed, mi wnaeth ymchwiliad BBC Wales Investigates ddarganfod fod 'na nifer bach hyd yn oed yn iau.

Roedd un enghraifft yn cynnwys plentyn 11 oed, oedd yn cael ei gartrefu mewn llety dros dro gyda staff cyngor gan nad oedd unrhyw le arall iddyn nhw fynd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Michael Sheen wedi cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru yn galw am roi'r gorau i'r arfer o roi pobl ifanc mewn llety gwely a brecwast

Roedd Gemma - nid ei henw iawn - yn teimlo fod y system, oedd i fod i'w chadw'n saff, wedi'i methu.

Dywedodd iddi gael ei hecsploetio pan yn ifanc gan ddynion hŷn, cyn yn y pendraw cael ei chymryd i'r system ofal.

Roedd yn 14 oed ac mae Gemma'n cydnabod ei bod erbyn hynny'n gaeth i heroin.

"Roeddwn i wedi symud tŷ 12 gwaith erbyn 'mod i'n 15 oed," esboniodd.

"Dwi erioed wedi dadbacio unrhyw le. Does neb yn fy nghadw'n hir beth bynnag."

'Nôl ar gyffuriau o fewn wythnos

Mae'n cofio iddi gael cynnig lle mewn hostel gan weithiwr cymdeithasol pan oedd yn 16 oed, ond roedd hi'n dweud fod gwerthwr cyffuriau'n aros yno.

"Roeddwn i newydd dreulio naw mis yn dod ffwrdd ac yn lân," meddai Gemma.

"Mi wnaethon nhw roi fi yn yr hostel ble roedd o beth bynnag. Roeddwn i yno lai nag wythnos cyn 'mod i'n ôl ar y cyffuriau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd o leiaf 50 o bobl ifanc eu gosod mewn llety fel gwely a brecwast yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf

Dywedodd y grŵp sy'n cynrychioli pob un o'r 22 o gynghorau sir yng Nghymru fod awdurdodau lleol "wedi ymrwymo i ymateb i'r galwadau a'r heriau cynyddol a chymhleth mae ein teuluoedd yn eu hwynebu".

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn edifar nad ydy safon y gofal a'r gefnogaeth maen nhw eisiau ei gyflawni yn cael ei gyrraedd ym mhob achos, a'u bod yn awyddus i ddysgu o brofiadau'r bobl ifanc.

Maen nhw hefyd yn credu fod 'na angen am nawdd ychwanegol i helpu plant a theuluoedd yn gynt, ac nad yw materion cymdeithasol ehangach megis mynediad at wasanaethau iechyd a rhoi terfyn ar dlodi plant yn bethau y gall gofal cymdeithasol plant eu datrys ar eu pen eu hunain.

'Cefnogaeth gynharach'

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol yn dweud, tra bo'r rhan fwyaf o blant yn y system ofal yn cael eu magu mewn teuluoedd cariadus, mae'n cydnabod nad ydy lleiafrif o blant yn cael y profiadau y byddai'n dymuno.

"Be ni wirioneddol eisiau ei wneud yw rhoi gymaint o gefnogaeth allwn ni i rieni a phlant yn gynharach, ac atal cynifer o bobl rhag dod i mewn i ofal," meddai Julie Morgan AS.

"Mae argyfyngau yn digwydd, mae'r cyswllt gyda llefydd aros yn torri, teuluoedd yn chwalu… ac mae'n rhaid rhoi'r plant yn rhywle… a dydyn ni ddim yn derbyn mai dyna ddylai'r sefyllfa fod, ac ry'n ni'n ceisio gwneud pethau i atal hynny."

Disgrifiad o’r llun,
"Ry'n ni'n gwneud ein gorau i wneud yn siŵr fod pob person ifanc yng Nghymru yn cael bywyd llawn a hapus," medd Julie Morgan

Dywedodd fod cynlluniau ar gyfer llety arbenigol newydd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal pellach ar draws Cymru, a bod y llywodraeth yn buddsoddi mewn gofal maethu ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.

"Mae'r mater yn uchel ar yr agenda yma yng Nghymru… sydd ddim yn golygu nad ydy pethau'n mynd yn anghywir," meddai Ms Morgan.

"Mae clywed y straeon yma gan bobl ifanc… yn torri eich calon. Chi'n meddwl 'sut all hyn ddigwydd.'

"Rwy'n llwyr dderbyn hynny, ond ry'n ni'n gwneud ein gorau i wneud yn siŵr fod pob person ifanc yng Nghymru yn cael bywyd llawn a hapus."

Beth sy'n digwydd tu allan i Gymru?

Yn Lloegr a'r Alban mae adolygiadau annibynnol wedi'u cynnal i'r system gofal plant. Roedd 'na alw am gymorth cynt i deuluoedd.

Mae'r rhai sydd yng ngofal adrannau gwasanaethau cymdeithasol wedi galw am newid y system i fynd i'r afael ag amryw o faterion.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod eisoes wedi gwahardd rhai dan 16 oed rhag aros mewn mannau sydd ddim yn cael eu rheoleiddio, ac y bydden nhw'n cyhoeddi cynlluniau manylach yn ddiweddarach eleni.

Bydd rhaglen BBC Wales Investigates - Michael Sheen: Lifting the lid on the care system - ar BBC One Wales am 21:00 nos Fawrth, ac ar iPlayer.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o'r materion yn yr erthygl hon, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.