Cais 400 o dai Aberdyfi yn mynd i'r Goruchaf Lys

  • Cyhoeddwyd
Aberdyfi
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y cais cynllunio gwreiddiol ar gyfer 400 o dai ei gyflwyno hanner canrif yn ôl

Bydd dadl dros adeiladu 400 o dai yn Aberdyfi yn cael ei gyflwyno i farnwyr y Goruchaf Lys yn Llundain ddydd Llun.

Cafodd y cais gwreiddiol i adeiladu'r tai ei gyflwyno hanner canrif yn ôl gan ddatblygwyr o'r enw Hillside Parks Ltd, sy'n berchen ar y tir.

Oherwydd pryderon yn lleol, mae'r achos wedi bod i'r llys sawl gwaith.

Yr hen Gyngor Meirionnydd oedd wedi rhoi'r caniatâd cynllunio gwreiddiol yn 1967, ond bellach Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw'r awdurdod cynllunio.

Mae Awdurdod y Parc yn dweud nad oes modd i Hillside Parks gwblhau'r cynllun gwreiddiol.

Fe ddechreuodd y datblygwyr - sydd â rhai cartrefi yno'n barod - achos yn erbyn Awdurdod y Parc yn 2019 i weld os y gallai'r cynllun gwreiddiol gael ei gwblhau'n gyfreithiol.

Ond safbwynt Awdurdod y Parc gafodd ei ffafrio gan yr Uchel Lys a'r Llys Apêl, ac nawr mae'r datblygwyr yn apelio yn y Goruchaf Lys.

Disgrifiad o’r llun,
Poeni sut y bydd systemau ardal fach fel Aberdyfi'n gallu ymdopi â chymaint o dai mae'r cynghorydd lleol, Dewi Owen

Yn ôl y Cynghorydd dros Aberdyfi ar Gyngor Gwynedd, Dewi Owen, dyw systemau'r ardal ddim yn ddigon da ar gyfer datblygu rhagor o dai.

"Basa'r effaith yn bellgyrhaeddol... dydy'r ffyrdd ddim yn addas yma i gario'r holl ddeunyddiau maen nhw eisiau i godi'r 400 o dai," dywedodd.

"Mae 'na broblem hefo'r dŵr a fwy o broblem enfawr efo sewrage.

"Dw i ddim yn meddwl bod y system sydd yn Aberdyfi ar y funud i fyny i'r safon i gymryd y 400 o dai ychwanegol 'ma."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Aberdyfi yn boblogaidd fel cyrchfan ail gartrefi

Mae eraill yn yr ardal yn poeni y gallai tai gwyliau gael eu hadeiladu yn hytrach na thai i bobl yr ardal.

"Fel dw i'n gweld, mae'r rhain ar y farchnad agored a dyw hyn ddim yn ateb y cwestiwn o gwbwl. Mae'r rhif o 401 dw i'n credu lawer yn rhy fawr i bentref mor fach â hyn," dywedodd un o'r bobl leol wrth siarad â Newyddion S4C.

Dywedodd un arall o'r pentrefwyr: "Mae 'na ddigon o dai ha' 'ma'n barod, dydy pobl leol ddim yn gallu prynu tai yma, 'ma nhw'n rhy ddrud a mae'n wir am yr ardal i gyd â d'eud y gwir nid dim ond Aberdyfi."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Alan Turnbull yn rheoli busnes glanhau lleol ac yn dweud y byddai cael rhagor o dai yn hwb i fusnesau lleol

Ond i un busnes lleol, mi fyddai mwy o dai yn golygu mwy o ymwelwyr, a hynny'n beth da i'r economi lleol.

Dywedodd Alan Turnbull, rheolwr cwmni glanhau lleol bod angen pobl i brynu ail gartrefi a'u rhentu fel tai gwyliau er mwyn dod ag arian i'r ardal.

"Mae'n bentref hyfryd, ry'n ni'n dibynnu ar dwristiaeth, felly ry'n ni angen perchnogion ail gartrefi i rentu eu tai i bobl ar wyliau," dywedodd.

"Y bobl sy'n aros [mewn llety] hunan-arlwyo sy'n gwario'r mwyaf o arian yn y pentref.

Ond, fe ychwanegodd bod angen tai fforddiadwy ar y pentref hefyd.

"Dw i'n credu bod angen tai cymdeithasol, os allan nhw eu prisio o dan £200,000 fel y gall pobl sy'n prynu am y tro cyntaf gyrraedd hynny, byddai hynny lawer yn fwy synhwyrol."

'Straen aruthrol'

Mi fydd apêl y datblygwyr yn cael ei glywed yn y Goruchaf Lys ddydd Llun a gallai effeithio ar ddatblygiadau'r dyfodol.

Oherwydd hynny, gwrthwynebu'r cynllun yn llwyr y mae Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd.

"Fydd 'na ddim manteision economaidd i hyn, fyddai o'n rhai straen aruthrol ar yr isadeiledd, yn enwedig iechyd.

"Does 'na ddim galw am y tai yma, mae'n rhaid i ni edrych unwaith eto ar y drefn gynllunio yma, lle mae cais sydd yn mynd 'nôl i 1967 yn cael ei adolygu eto a galw i'w adfer o.

"Ddylai hynny ddim digwydd felly mae angen i ni edrych ar y system gynllunio a sicrhau nad oes cynlluniau fel yma'n dod i'r fei eto."

Pynciau Cysylltiedig