Damweiniau M4: Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth
- Cyhoeddwyd

Gyrrwyr rhwystredig ar draffordd yr M4 fore sul
Bu farw dyn yn dilyn digwyddiad ar yr M4 ar gyrion Caerdydd fore Sul.
Fe fu lon ddwyreiniol y draffordd o gyffordd 30 Porth Caerdydd i gyffordd 29, Cas-bach ar gau ers yn gynnar y bore 'ma. Mae'r ffordd bellach wedi ail agor.
Roedd yna oedi pellach i yrrwyr ar ôl damwain rhwng cyffordd 24 ger gwesty'r Celtic Manor a chyffordd 25 ger Casnewydd. Bu'r ffordd ddwyreiniol rhwng cylchdro Coldra a thwnneli Brynglas ar gau am rai oriau.
Cafodd rhai gyrrwyr eu dal mewn tagfeydd am dros deirawr.
Mae'r heddlu wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad ger cyffordd 30.