Senedd fwy: Llafur i benderfynu yn ffurfiol

  • Cyhoeddwyd
Senedd

Mae cynhadledd arbennig Llafur Cymru yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn i drafod ehangu'r Senedd.

Mae yna argymhellion i gynyddu nifer yr aelodau o'r 60 presennol i 96.

Fe fyddai yna 16 etholaeth gyda chwech aelod yn cael eu hethol ymhob un ohonyn nhw.

Byddai pleidleiswyr yn bwrw un bleidlais dros blaid adeg etholiad, gyda'r pleidiau yn penderfynu ar drefn yr ymgeiswyr y maen nhw'n eu cynnig.

Ym mis Mai fe gyhoeddodd Llafur a Phlaid Cymru fel rhan o'u cytundeb cydweithredu yn y Senedd eu bod am weld nifer yr Aelodau'n cynyddu.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y dylai'r cynigion gael eu rhoi i refferendwm.

Pebai Llafur Cymru yn cefnogi'r cynlluniau diwygio yna fe fydd y Senedd yn cael y cyfle i bleidleisio. Cyn i unrhyw newidiadau ddod i rym, fe fydd yn rhaid cael cefnogaeth dwy ran o dair o'r Senedd.

Rhyngddyn nhw byddai gan Lafur a Phlaid Cymru ddigon o bleidleisiau.

Newid y broses bleidleisio

O dan eu cynlluniau byddai Cymru'n cael ei rhannu'n 16 etholaeth, gyda phob un yn cael ei chynrychioli gan chwech Aelod o'r Senedd wedi eu hethol yn defnyddio'r dull d'Hondt o gynrychiolaeth gyfrannol sy'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd i ethol aelodau rhanbarthol y Senedd.

Disgrifiad o’r llun,
Byddai'r map etholiadol presennol yn edrych yn wahanol iawn os daw'r cynlluniau i rym

Byddai'n defnyddio'r hyn sy'n cael ei alw yn "system rhestr gaeedig" - tebyg i sut roedd etholiadau Senedd Ewrop yn gweithio ym Mhrydain cyn Brexit. Mae pleidleiswyr yn cefnogi rhestr plaid yn hytrach nag ymgeisydd, a fedran nhw ddim grthod unrhyw ymgeiswyr unigol sydd wedi ei enwebu.

Byddai pleidiau'n cael eu gorfodi i enwebu rhestrau sy'n cynnwys dynion a merched yn gyfartal, gyda rhestrau ymgeiswyr yn cael eu gosod am yn ail rhwng dynion a merched.

Ar hyn o bryd mae'r Senedd yn cael ei hethol drwy gymysgedd o'r cyntaf i'r felin ar gyfer 40 o etholaethau, a rhestrau plaid ar gyfer yr 20 Aelod o'r Senedd sy'n weddill.

Mae'r ffordd y byddai'r system yn gweithio wedi ysgogi pryder gan grwpiau'r blaid Lafur yn Llanelli a'r Rhondda. Dywedodd yr AS Chris Bryant y byddai'n gadael gwleidyddion "yn llai cysylltiedig â phleidleiswyr".

Ddydd Sadwrn fe fydd cynrychiolwyr o grwpiau Llafur Cymru a chyrff cysylltiedig fel undebau llafur yn pleidleisio a ddylen nhw gefnogi.

Mae tri undeb sy'n cefnogi Llafur wedi mynegi "pryderon difrifol" am gynigion ar gyfer 36 yn fwy o wleidyddion yn y Senedd.

Mae GMB, Community ac Usdaw yn dweud y byddai'r cynigion, gyda chefnogaeth Mark Drakeford, yn ei gwneud hi'n "anoddach i sicrhau llywodraeth Lafur Gymreig".

Ond mae un o bwyllgorau'r Senedd wedi cefnogi syniadau Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru.

Mae cadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio'r Senedd, Huw Irranca-Davies wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod haf 2023 yn y gobaith y bydd hi'n cael ei phasio erbyn 2024 er mwyn caniatáu i baratoadau ddechrau ar gyfer etholiad 2026.

Pynciau Cysylltiedig