Bargyfreithwyr ar streic dros dâl am waith cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Bargyfreithwyr ar streic tu allan i Lys y Goron Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae bargyfreithwyr wedi bod yn gwrthdystio tu allan i Lys y Goron Caerdydd

Mae achosion llys ar draws Cymru wedi dod i stop wrth i fargyfreithwyr fynd ar ddeuddydd o streic.

Mae'r gweithredu'n digwydd yn sgil anghydfod ynghylch tâl am waith cyngor cyfreithiol.

Fe arweiniodd un o fargyfreithwyr mwyaf profiadol Cymru wrthdystiad tu allan i Lys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Dywedodd Jonathan Rees QC bod unigolion "talentog" wedi gadael y proffesiwn oherwydd tâl a bod angen cwtogi rhestr aros o 60,000 o achosion llys.

Gweithred 'ofidus'

"Fe ddaethon ni'n fargyfreithwyr oherwydd ein bod ni'n credu mewn cyfiawnder, mae'n system yn bodoli i sicrhau bod yr euog yn cael eu cosbi a'r diniwed yn cael eu rhyddfarnu," dywedodd.

"Dim ond drwy sicrhau bod y system yn cael ei hariannu'n briodol a bod y goreuon a'r mwyaf disglair yn barod i wneud gwaith sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus y gall hyn gael ei gyflawni.

"Mae'r Arglwydd Brif Ustus ei hun yn cydnabod bod ffioedd annigonol wedi bod yn ffactor amlwg wrth golli unigolion talentog ac mae diffyg bargyfreithwyr yn rhwystr mawr i'n gallu i leihau rhestr aros o bron i 60,000 o achosion."

Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Dominic Raab y weithred fel un "gofidus".

"Dwi'n eu hannog nhw i gytuno ar y cynnydd o 15% sydd wedi ei gynnig, a fyddai'n golygu y byddai bargyfreithwyr yn ennill tua £7,000 yn fwy y flwyddyn," meddai.

Fodd bynnag, dywedodd Cymdeithas y Bar Troseddol, sy'n cynrychioli bargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr, na fyddai'r cynnydd yn mynd i fargyfreithwyr ar unwaith gan na fyddai'n berthnasol i achosion sydd wedi cronni.

Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Emma Harris, mae yna wir ofid am ddyfodol y proffesiwn

Dywedodd y bargyfreithiwr Emma Harris nad yw hi a'i chyd-weithwyr eisiau streicio, ond bod gwir ofid am ddyfodol y proffesiwn os nad oes rhywbeth yn newid.

"Fe ddes i mewn i'r swydd hon gan fod gen i gred gadarn iawn mewn cyfiawnder a dwi'n dal i gredu hynny," meddai.

"Dwi eisiau helpu pobl, dwi eisiau bod yn llais i bobl sydd, yn syml, heb lais ar eu pennau eu hunain."

Ond, dywedodd ei bod yn dod yn fwyfwy anodd i gadw bargyfreithwyr troseddol ifanc a thalentog ar hyn o bryd.

Dywedodd Cymdeithas y Bar Cyfreithiol fod bron i 300 o bobl wedi gadael y maes dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chwarter y bargyfreithwyr troseddol arbenigol wedi gadael dros y pum mlynedd ddiwethaf.

'Ddim yn gwneud synnwyr'

Fe ddaeth Laura Shepherd yn fargyfreithiwr yn 2016, ond bum mlynedd yn ddiweddarach, fe adawodd cyfraith droseddol.

Mae'n dweud mai tâl isel ac oriau hir oedd y prif ffactorau wrth benderfynu newid i gyfraith fasnachol.

Fe ymunodd yn y gweithredu gyda'i chydweithwyr ddydd Llun.

"Weithiau, os oeddech chi'n cyfri'r gyfradd fesul awr, roedd e'n llai na'r isafswm cyflog," meddai.

"Roedd hynny'n cael ei wneud yn fwy amlwg gan y ffaith y byddwn yn gweithio mewn meysydd eraill lle'r oedd y gwaith hwnnw'n haws a byddwn yn cael mwy o dâl, felly doedd dim dwywaith am y peth i fi.

"Pam fydden i'n cael gwaeth cydbwysedd gwaith, gwaeth incwm blynyddol... i gael fy nhalu llai? Doedd e ddim yn gwneud synnwyr i fi."

Pynciau Cysylltiedig