Streiciau rheilffordd: Pum gwasanaeth yn rhedeg yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
protest
Disgrifiad o’r llun,
Bu tua 50 o bobl yn protestio mewn addoldy yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Dim ond pum gwasanaeth rheilffordd - 10% o'r swm arferol - fydd yn rhedeg yng Nghymru dydd Sadwrn wrth i'r anghydfod rhwng undebau a chwmnïau rheilffordd barhau.

Gwasanaeth cyfyngedig fydd yn rhedeg, a hynny am y trydydd tro yr wythnos hon.

Mae teithwyr yng Nghymru wedi cael eu cynghori i beidio teithio ar drenau ar y tri diwrnod o streicio yr wythnos hon - dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn.

Bydd teithwyr hefyd yn cael eu heffeithio ar y ffyrdd, wrth i'r M48, Pont Hafren, gau dros y penwythnos.

Mae amserlen arbennig wedi'i gyhoeddi ar gyfer y dyddiau rhwng 20 a 26 Mehefin, ac mae Network Rail yn dweud y dylai pobl osgoi teithio os yn bosib.

Does dim gwasanaethau yn rhedeg i'r gorllewin o Gaerdydd nac i'r gogledd o Ferthyr Tudful ar ddiwrnodau streic.

Bydd trenau yn cychwyn ac yn gorffen yn gynharach, o 07:30 tan 18:30 ar draws rhan fwyaf o'r rhwydwaith ar y diwrnodau o weithredu diwydiannol.

Mae cwmnïau trên wedi rhybuddio gallai'r streiciau darfu ar wasanaethau dydd Sul a dydd Llun hefyd.

Pa wasanaethau sy'n rhedeg?

Ar y gwasanaeth rhwng de Cymru i Lundain, dim ond naw trên fydd yn rhedeg ym mhob cyfeiriad, a bydd y gwasanaethau hyn ond yn rhedeg o orsaf Caerdydd Canolog.

Un gwasanaeth pob awr fydd rhwng Paddington yn Llundain a Chaerdydd, ac ni fydd gwasanaethau yn rhedeg rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Fe fydd gwasanaeth rhwng Caerdydd a Westbury, Wiltshire - sy'n cysylltu de Cymru gyda Bryste a Chaerfaddon - yn un cyfyngedig.

Yr unig drenau eraill fydd yn rhedeg yng Nghymru ydy'r gwasanaethau o Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, ond bydd y rhain yn terfynu yn Radur, gyda gwasanaeth bws i fynd â theithwyr i Gaerdydd Canolog.

Ar y gwasanaeth rhwng Merthyr a Chaerdydd, bws fydd hefyd yn gweithredu rhwng Pontypridd a Merthyr oherwydd gwaith peirianneg - gan ddyblu'r amser teithio arferol i thua dwy awr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Trenau cyntaf ac olaf dydd Sadwrn

Trafnidiaeth Cymru

Merthyr Tudful i Gaerdydd

  • Cyntaf rhwng Merthyr a Chaerdydd yw 06:08
  • Cyntaf rhwng Caerdydd Canolog a Merthyr yw 06:23
  • Olaf rhwng Merthyr a Chaerdydd yw 20:43
  • Olaf rhwng Caerdydd a Merthyr yw 21:38

Aberdâr i Gaerdydd

  • Cyntaf rhwng Aberdâr a Chaerdydd yw 06:21
  • Cyntaf rhwng Caerdydd ac Aberdâr yw 06:38
  • Olaf rhwng Aberdâr a Chaerdydd yw 21:21
  • Olaf rhwng Caerdydd ac Aberdâr yw 20:38

Treherbert i Gaerdydd

  • Cyntaf rhwng Treherbert a Chaerdydd yw 05:40
  • Cyntaf rhwng Caerdydd a Threherbert yw 06:02
  • Olaf rhwng Treherbert a Chaerdydd yw 20:46
  • Olaf rhwng Caerdydd Canolog a Threherbert yw 21:02

GWR

De Cymru i Lundain

  • Cyntaf rhwng Caerdydd Canolog a Paddington yw 07:49
  • Cyntaf rhwng Paddington a Chaerdydd Canolog yw 08:14
  • Olaf rhwng Caerdydd Canolog a Paddington yw 15:54
  • Olaf rhwng Paddington a Chaerdydd Canolog yw 16:27

De Cymru i Fryste/Caerfaddon

  • Cyntaf rhwng Caerdydd Canolog a Westbury yw 08:25
  • Cyntaf rhwng Westbury a Chaerdydd Canolog yw 07:55
  • Olaf rhwng Caerdydd Canolog a Westbury yw 16:24
  • Olaf rhwng Westbury a Chaerdydd Canolog yw 16:02

Ni fydd gwasanaethau rhwng Aberystwyth a chanolbarth Lloegr, Caerdydd a Manceinion na gogledd Cymru a Manceinion - ac mae rhybudd felly i'r rheiny sydd eisiau mynychu'r rasys ceffylau yng Nghaer na fydd gwasanaethau i mewn nac allan o'r ddinas.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio bod disgwyl i unrhyw wasanaethau sydd yn rhedeg fod yn "hynod o brysur", tra bod GWR wedi gofyn i bobl "deithio ar drenau dim ond os yn angenrheidiol".

Ar draws y DU dim ond un o bob pum gwasanaeth sy'n rhedeg yn ystod y streiciau, gyda dim ond 4,500 o wasanaethau yn rhedeg o'i gymharu â'r 20,000 arferol.

Disgwyl ffyrdd prysur

Ynghyd â'r streiciau bydd yr M48, Pont Hafren ar gau o 19:00 ddydd Gwener nes 06:00 fore Llun ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr M48, Pont Hafren ar gau o 19:00 ddydd Gwener nes 06:00 fore Llun

Dywedodd National Highways nad yw'n disgwyl "amharu sylweddol" o ganlyniad i gau'r bont, yn enwedig gan fod pont yr M4 dros Afon Hafren yn parhau ar agor.

"Rydym yn deall bod y gwaith yn anghyfleus ac yn achosi tarfu, ond rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar yrwyr," meddai Chris Pope, rheolwr prosiectau ar gyfer National Highways.

Mae rhybuddion y gallai'r ffyrdd fod yn brysurach yng Nghymru a'r Alban yn enwedig, gan fod y rhan fwyaf o linellau rheilffyrdd ar gau yno yn ystod y streic fwyaf ers dros 30 mlynedd.

Mae cymdeithas foduro'r AA yn rhagweld cynnydd mewn traffig wrth i deithwyr trên droi at y ffyrdd, yn enwedig ar yr A483 a'r A470 trwy ganolbarth Cymru a'r A5 yn y gogledd.

Ffynhonnell y llun, Angie Ruston
Disgrifiad o’r llun,
Bydd taith Angie Ruston i'r gwaith yn cymryd mwy na dwbl yr amser arferol ddydd Sadwrn

O ganlyniad i'r streic a chau'r bont, bydd yn rhaid i Angie Ruston adael am ei gwaith dros ddwy awr cyn iddi ddechrau ei sifft.

Mae Ms Ruston, 58, yn gweithio ar brosiect deallusrwydd artiffisial ym Mryste, a dywedodd y bydd angen iddi gyrraedd ei safle bws agosaf yng Nghas-gwent ychydig wedi 07:45 i fod yn y gwaith erbyn 10:00.

"Mae'n hunllef - storm berffaith i mi," meddai.

"Byswn i wedi meddwl y byddai pwy bynnag sy'n rhedeg y bont yn ymwybodol fod streiciau rheilffyrdd, a rhagweld mwy o draffig a gohirio cau'r bont.

"Mae'n ymddangos yn hurt i gau'r bont yr un pryd â'r streiciau rheilffordd. Does dim meddwl o flaen llaw.

"Mae fy nhaith i'r gwaith fel arfer yn cymryd 50 munud, ond dydd Sadwrn bydd hi'n cymryd dwy awr i mi."

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Ilsehar Hopcroft bod y sefyllfa yn "andros o rwystredig"

Ond mae'r tarfu ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd yn effeithio ar fwy na gwaith pobl. Mae Ilsehar Hopcroft wedi gorfod canslo cynlluniau i'w theulu ddod ynghyd.

"Roedd gen i deulu yn dod o Norfolk a fy mam yn dod o Gaerdydd, ond roedd rhaid i ni ganslo ein cynlluniau," meddai'r fam o un o Gas-gwent.

"Mae'n andros o rwystredig. Byddai dydd Sadwrn wedi bod yn eitha' pwysig i ni. Oherwydd pellter a Covid yn ddiweddar, dydyn ni ddim yn eu gweld yn aml. Mae'n cael effaith fawr ar bobl."

Pam bod y streic yn digwydd?

Dywed undeb yr RMT fod gweithwyr cwmnïau trên wedi wynebu "cyflog wedi'i rewi, bygythiadau i'w swyddi ac ymosodiadau ar eu telerau ac amodau gwaith".

Mae Network Rail yn bwriadu torri 2,500 o swyddi cynnal a chadw wrth geisio arbed £2bn dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae'r RMT wedi dweud y byddai torri'r swyddi hyn yn peryglu diogelwch, gan wneud damweiniau yn fwy tebygol.

Dyma sydd wedi arwain at 40,000 o weithwyr rheilffordd i streicio dros dri diwrnod ers dydd Mawrth.

Dywedodd Network Rail na fydden nhw yn ystyried unrhyw newidiadau a fyddai'n gwneud y rheilffyrdd yn llai diogel, a bod moderneiddio yn hanfodol.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Does dim gwasanaethau yn rhedeg o'r gorllewin i Gaerdydd nac i'r gogledd o Ferthyr Tudful ddydd Sadwrn

Oes gweithwyr o Gymru yn streicio?

Mae gweithwyr yr RMT yn streicio, sy'n cynnwys pobl sy'n gweithio i Network Rail - sy'n cynnal y rheilffyrdd ar draws Prydain, gan gynnwys yng Nghymru.

Nid oes anghydfod rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r undebau, ond bydd tarfu i'w gwasanaeth am fod y trenau'n rhedeg ar reilffyrdd sy'n cael eu rheoli gan Network Rail.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles eu bod "yn amlwg yn falch" nad yw staff Trafnidiaeth Cymru yn streicio.

"Yn amlwg bydd y streiciau mewn mannau eraill yn cael effaith sylweddol yng Nghymru ac rydym yn gofyn i lywodraeth y DU wneud popeth i osgoi'r aflonyddwch hwnnw," meddai Mr Miles ar raglen BBC Politics Wales.

"Pan fydd pobl yn cael eu rhoi yn y fath sefyllfa gan Lywodraeth y DU, nid oes gan bobl lawer o opsiynau. Does neb eisiau gweld streiciau, dim hyd yn oed yr undebau, ond mae angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy nawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Tom Giffard, fod yr undebau yn "sownd yn y gorffennol", ac felly ei bod yn "anffodus iawn bod y streiciau hyn yn mynd yn eu blaenau".

"Roedd Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth [Llywodraeth y DU] yn dweud mai prin ddechrau oedd y trafodaethau cyn i'r undebau ddechrau pleidleisio i streicio... a bod amseriad y streic yn sicrhau'r aflonyddwch mwyaf posib," meddai.

Oes bosib cael ad-daliad?

Dywedodd y Rail Delivery Group, sy'n cynrychioli'r cwmnïau trenau: "Os na allwn gynnig gwasanaeth i'n cwsmeriaid o ganlyniad i'r streic byddwn yn cynnig ad-daliad."

Dydyn nhw ddim wedi penderfynu a fydd modd i gwsmeriaid gael ad-daliad os ydyn nhw'n canslo eu taith o flaen llaw oherwydd yr ansicrwydd.

Mae gwefan National Rail yn awgrymu ei bod yn bosib newid i deithio gyda chwmni arall, neu deithio ar ddyddiad gwahanol. Ond dywedodd na fydd modd gwneud cais am ad-daliad am bethau fel aros mewn gwestai.

Bydd modd i bobl sydd â thocyn tymor wneud cais am ad-daliad ar gyfer y dyddiau sydd wedi'u heffeithio.