Ail-fyw Tafwyl a gwyliau eraill ar BBC Sounds
- Cyhoeddwyd

Os wnaethoch chi fethu Tafwyl - neu os oeddech chi yno ac eisiau ail-fyw'r profiad - ewch draw i BBC Sounds i wrando ar berfformiadau byw nifer o'r bandiau.
Mae setiau Yws Gwynedd, Eädyth, Adwaith a Gwilym ar gael nawr fel rhan o Haf o Gerddoriaeth BBC Radio Cymru.
Bydd nifer o berfformiadau o wyliau cerddoriaeth eleni ar gael i'w clywed ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi, ac mae o leiaf un o'r artistiaid yn falch iawn am hynny...
Mor falch fod Radio Cymru wedi dychwelyd i ddarlledu gigs. Rhan masuf o'n ieuenctid oedd gwrando i Miri Madog / Steddfod / Sesiwn Fawr a gigs random erill o amgylch Cymru gan bo fi rhy ifanc / sgint i fynd fy hun. ❤️ https://t.co/MPvmFfr4GK
— Ywain Gwynedd (@ywsgwynedd) June 13, 2022
Dyma weddill y gwyliau sydd, neu fydd, ar gael:
Gŵyl Triban, yr Urdd
Mae setiau Bwncath, Hana Lili, Ciwb a Mali Hâf o Ŵyl Triban, Eisteddfod yr Urdd, Dinbych, eisioes ar gael fel rhan o Haf o Gerddoriaeth.
Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni, a pherfformiadau o Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, hefyd ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Hefyd o ddiddordeb: