Geoff Charles, y dyn tu ôl i'r camera a rhai o luniau eiconig Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hunan-bortread Geoff CharlesFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Prin yw'r lluniau o'r ffotograffydd Geoff Charles ei hun; ond rhoddodd 120,000 o'i negyddion sy'n croniclo bywyd Cymru dros gyfnod o 50 mlynedd i'r Llyfrgell Genedlaethol

Fe dynnodd y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles rai o luniau mwyaf eiconig Cymru yn y ganrif ddiwethaf a gadael casgliad amhrisiadwy yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn bennaf mewn du a gwyn hiraethus, mae'r miloedd o luniau yn y casgliad yn dogfennu bywyd cefn gwlad sydd wedi diflannu a rhai o brif ddigwyddiadau Cymru yn yr 20fed ganrif, gan gynnwys ei lun eiconig o'r bardd Carneddog a'i wraig Catrin yn gadael eu fferm fynyddig.

Ond pwy oedd y dyn tu ôl i'r camera?

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Mae llun eiconig Geoff Charles o'r bardd Carneddog a'i wraig Catrin yn eu henaint yn gadael eu fferm deuluol yn Eryri i fyw gyda'u mab yn Lloegr yn cael ei weld fel symbol o'r Gymru oedd yn diflannu yn yr 20fed ganrif.

Ugain mlynedd ers ei farwolaeth mae teulu'r ffotograffydd papur newydd o Brymbo ger Wrecsam yn rhannu rhai o'u lluniau teuluol ac yn cofio am dad a thaid cariadus, lliwgar a llawn hwyl sydd wedi dylanwadu ar fywydau pob un ohonynt.

'Llawn hwyl'

"Pan rydych chi'n meddwl am eich taid a'ch nain mae 'na un sy'n hwyl ac un sy'n fwy strict - a Taid oedd yr un llawn hwyl o hyd!" meddai Nick Allport, 55, un o wyrion Geoff Charles sydd bellach yn byw ym Mhortiwgal ac yn gweithio fel rhaglennydd ar gyfer meddalwedd cyfrifiadurol.

Ffynhonnell y llun, Teulu Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Geoff Charles, ar y dde, lle'r oedd fwyaf cyfforddus - yn cofnodi gyda'i gamera

Mae Nick wedi bod yn tyrchu drwy hen luniau yn ddiweddar a dod o hyd i ambell lun prin o'i daid mewn achlysuron teuluol yn ei gartref yn Brynteg Terrace, Bangor, lle roedd yn byw yn y 1970au a lle mae gan ei wyrion atgofion melys am ddod ar wyliau haf.

"Pan fu farw fe wnaeth fy mam etifeddu ei hen bureau, ei hen ddesg... a rai blynyddoedd yn ôl es i drwyddo achos roedd yn llawn o stwff, sbwriel, ac mi ffeindiais lwyth o hen negatifs. Dwi wedi eu sganio nhw rŵan a dyna ble mae'r rhain yn dod - lluniau Bangor yn 1977," meddai Nick.

Ffynhonnell y llun, Teulu Geoff Charles

Yr achlysur oedd pen-blwydd ei nain, Verlie, yn 70 mlwydd a llwyddodd tad Nick, Chris Allport, i ddal ambell i lun o'i dad-yng-nghyfraith.

"Lwcus iddo wneud oherwydd, am ei fod bob amser tu ôl y camera, mae'n anodd iawn dod o hyd i unrhyw luniau ohono o gwbl," meddai Nick.

Ffynhonnell y llun, Chris Allposrt
Disgrifiad o’r llun,
Llun teuluol prin o 'Taid' gyda'i gamera

Ymysg y rhai eraill prin o'i daid mae wedi eu darganfod mae un allai fod yn ymgais cynnar ar hun-lun gyda'i wraig Verlie ar eu gwyliau yn Iwerddon.

"Rhaid bod hwnnw yn un o'r selffis cyntaf!" meddai Nick

Ffynhonnell y llun, Teulu Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Verlie a Geoff Charles ar eu gwyliau yn Iwerddon - ymgais gynnar ar hun-lun?

Rhan o'i gyfrinach fel ffotograffydd meddai Nick oedd ei fod yn gwneud ffrindiau gyda phawb a'i fod yn gallu gwneud ei waith heb dynnu sylw at ei hun.

"Pan oeddwn i'n ifanc iawn fe fyddai'n dangos y stafell dywyll imi a sut roedd o'n datblygu lluniau, ond doedd o byth yn un o'r bobl yma oedd â chamera yn eich wyneb drwy'r amser - roedd o'n tynnu lluniau drwy'r amser a bob amser efo'r camera ond doeddech chi byth yn ymwybodol ei fod yn tynnu lluniau."

Ffynhonnell y llun, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Llun gan ei daid o Nick Allport yn fachgen bach

"Beth etifeddais i ganddo fo," meddai Nick, "oedd cariad at reilffyrdd ac adeiladu modelau - daeth hynny i gyd ganddo fo.

"Roedd bob amser yn dangos pethau i mi, fe fydden ni'n mynd ar dripiau i lefydd ac yn edrych rownd hen orsafoedd rheilffordd a'r math yna o beth, dwi'n teimlo'n freintiedig i fod wedi treulio gymaint o amser efo fo a dweud y gwir.

"Roedd o'n angerddol am reilffyrdd a dyna pam mae gen i ddiddordeb mewn rheilffyrdd hefyd."

Gyda'i frawd, Hugh, ysgrifennodd Geoff Charles lyfr o'r enw The Golden Age of Brymbo Steam am ei blentyndod a'i atgofion am y rheilffordd a'r trenau oedd yn mynd heibio ei gartref yn Brymbo.

Ond i'r Nick ifanc, roedd ei daid yn arwr am reswm arall:

"Y peth mwyaf dwi'n cofio wnaeth agraff fawr arna i fel plentyn oedd ei fod wedi tynnu lluniau o Doctor Who.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Y llun o eiddo ei daid oedd ar wal llofft Nick pan oedd yn blentyn - ffilmio Doctor Who a'r Yeti yn Nant Ffrancon

"Ro'n i'n ffan enfawr o Doctor Who, roedd gen i obsesiwn llwyr amdano yn y 70au pan o'n i'n ifanc iawn ac fe dynnodd luniau o'r Yeti pan oedden nhw'n ffilmio yn Eryri. Mae yna oriel gyfan, mae'n wych, ac mi argraffodd rai o'r lluniau yma i mi ac mi wnes i eu rhoi ar y wal.

"Felly allan o'i holl waith y peth roeddwn i fwyaf balch ohono, ac yn dweud wrth y plant eraill yn yr ysgol amdano, oedd fod fy nhaid wedi tynnu lluniau o Doctor Who!"

Diddordeb ym mhopeth

Fe gollodd Nick ei fam, Susan, plentyn ieuengaf Geoff a Verlie Charles, rai blynyddoedd yn ôl; John yw'r plentyn canol a'r hynaf yw Janet, a aeth i fyw i Fryste lle roedd yn athrawes ac yna prifathrawes.

Mae Janet Truby yn 82 erbyn hyn ac yn cofio'n dda sut roedd ei thad bob amser eisiau dysgu pethau iddyn nhw, yn angerddol am ei waith ac â diddordeb byw mewn peiriannau ac amaethyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Teulu Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Janet, chwith, gyda'i brawd John a'i merch Susan, ei mam, Verlie, ac aelod arall o'r teulu

Roedd yn ymwybodol iawn ei fod yn cofnodi ffordd o fyw oedd yn diflannu, meddai Janet, ac yn awyddus iawn i rannu hynny gyda hi, yn ogystal â darllenwyr y papurau newydd roedd yn gweithio arnyn nhw dros gyfnod o 50 mlynedd, fel Y Cymro a'r Montgomery Express.

"Byddai'n mynd a fi allan yn y car yn aml pan roedd yn gweithio, i gyfweld rhywun neu fynd i briodas i dynnu lluniau a byddai'n siarad am bopeth oedd yn digwydd," meddai Janet a fagwyd yn y Drenewydd a Chroesoswallt.

Ffynhonnell y llun, Teulu Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Roedd partneriaeth Geoff Charles a John Roberts Williams fel newyddiadurwyr a ffoto-newyddiadurwyr ar bapur newydd Y Cymro yn chwedlonol. Fe wnaethon nhw hefyd ddwy ffilm gyda'i gilydd

"Rwy'n cofio mynd i briodas ynghanol y wlad efo fo ac roedd y plant yn dal blodau dros y ffordd i rwystro'r briodferch a'i gosgordd ac fe ddywedodd 'Mae hynna'n marw allan, cymera' olwg dda ar hynna achos mae'n debyg na weli di hynna eto'.

"Byddai'n egluro imi beth roedd y ffermwyr yn ei wneud a pham roedd un cae yn wyrddach nag un arall .... roedd ganddo ddiddordeb byw ym mhopeth."

Mae'n gysur ac yn falchder mawr i Janet a gweddill y teulu bod casgliad enfawr Geoff Charles wedi ei ddiogelu yn y Llyfrgell ac fe hoffen nhw fod cymaint o bobl â phosib yn gwybod ei fod yno ac ar gael yn ddigidol i chwilio drwyddo.

Etifeddiaeth Capel Celyn

"Un o'r pethau sy'n fy ngwneud i'n fwyaf rhwystredig ydy na alla i siarad efo fo rŵan... mae yna gymaint o bethau dwi eisiau gofyn iddo," meddai merch Janet, Sue Goddard, sy'n 57 a'r unig un o deulu Geoff Charles sy'n byw yng Nghymru bellach.

Ffynhonnell y llun, Sue Goddard
Disgrifiad o’r llun,
"...mae yna gymaint o bethau dwi eisiau gofyn iddo," meddai Sue am ei thaid

Teulu Cymraeg eu hiaith oedd teulu Geoff Charles â'u gwreiddiau yn ddwfn yn y gogledd ddwyrain ond chafodd yr iaith ddim mo'i phasio fel iaith y teulu i'w blant gan nad oedd eu mam yn siarad yr iaith, a hwythau wedi mynd i'r ysgol yng Nghroesoswallt.

Roedd yn rhywbeth roedd yn ei ddifaru yn nes ymlaen meddai Sue a fagwyd ym Mryste, ond un o'r pethau sydd wedi gwneud argraff fawr ar ni hi ydy cofnod ei thaid o ddyddiau olaf cymuned Gymraeg Capel Celyn cyn boddi'r cwm i greu cronfa Tryweryn.

Ffynhonnell y llun, Sue Goddard
Disgrifiad o’r llun,
Geoff Charles gyda'i or-wyr, Tom, ar ei lin; ei wyres Sue ar y chwaith a'i ferch Janet ar y dde. Yn y cefn mae cyn-bartner Sue, ei thad ac ail wraig Geoff Charles, Doris

"Fyddwn i wrth fy modd yn siarad efo fo [am Gapel Celyn] a dydw i ddim yn gallu," meddai Sue.

"Beth oedd ei farn am yr holl beth?

"Dwi'n eithaf siŵr ei fod yn ceisio dangos [ei farn drwy ei luniau] - fe ddangosodd y cwm mewn goleuni hyfryd pan roedd yn tynnu'r lluniau felly dwi'n siŵr ei fod yn ffyrnig yn erbyn beth ddigwyddodd yno.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Un o blant Tryweryn yn y cwm cyn y boddi

"Fe wnes i ddod o hyd i un o'r plant o Gapel Celyn a mynd a'r lluniau a gofyn iddo fynd drwyddyn nhw efo fi am na allwn i wneud hynny gyda fy nhaid.

"Fuaswn i wrth fy modd yn gwybod llawer mwy am eu bywyd yno cyn iddo ddigwydd, eu profiad ohono, o'r hyn a gollwyd."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Geoff Charles
Disgrifiad o’r llun,
Plant a'u hathrawes yn nyddiau olaf yn ysgol gynradd Cwm Celyn

Mae Sue yn fyfyriwr animeiddio ac mae ganddi freuddwyd i adeiladu ar waith ei thaid i greu dogfen wedi ei animeiddio yn seiliedig ar atgofion plant Tryweryn am golled bersonol y teuluoedd oedd yn gorfod gadael i greu'r gronfa, rhywbeth y byddai ei thaid yn siŵr o'i hannog i wneud.

"Roedd eisiau ein dysgu am bethau ac roedd yn awyddus iawn i rannu. Roedd yn teimlo bod gan bawb hawl i'r holl wybodaeth yma," meddai.

"Roedd yn daid oedd yn hwyl, byddai wastad yn creu straeon, dweud straeon, mynd â chi i lefydd, mynd i brynu hufen iâ, bob amser yn cymryd diddordeb yn ein bywydau; roedd o'n grêt."

Ffynhonnell y llun, Geoff charles
Disgrifiad o’r llun,
Yn y canol, Pete, Sue a Nick, tri o wyth o wyrion Geoff Charles yn Brynteg Terrace, Bangor yn y 1970au, gyda pherthnasau ar ochr eu nain, Hilary a Christopher, bob ochr iddynt,