'Rhai cartrefi gofal yn cael mwy o arian gan gynghorau'

Iolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Cartref gofal

Mae pryderon am yr anghysondeb sydd yna yn y ffordd mae cartrefi gofal yn cael eu cyllido - yn enwedig rhwng siroedd yn y de a siroedd y gogledd.

Yn ôl Fforwm Gofal Cymru mae yna gynghorau yn y de sydd bellach yn talu hyd at £11,000 yn fwy y flwyddyn y pen mewn cartref gofal nag awdurdodau'n y gogledd.

Gallai cartref o 40 gwely yn y de, felly, fod yn derbyn tua £500,000 y flwyddyn yn fwy nag un yn y gogledd sy'n gwneud gwaith tebyg.

Yn ôl Sandra Evans, o Fforwm Gofal Cymru mae angen i'r tâl gan gynghorau fod yr un fath i bawb.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd: Os bydden ni'n cael ffioedd uwch gan y cyngor fydden ni wedyn yn gallu talu mwy i staff.

"Dwi'n meddwl bo nhw'n haeddu fo. Maen nhw'n watsiad ar ôl pobl - mae'n waith caled yn enwedig efo dementia.

"Dwi'n teimlo bod yna North-South divide sut mae'r ffioedd yn cael eu setio - mae pobl yn y De yn cael mwy a dyw hynna ddim yn deg. Un Cymru ydan ni - un ffi ddylai fo fod.

"Dwi'n meddwl ddylai cynghorau ddod at ei gilydd i edrych ar y ffi - cael ffi teg i bawb sydd yn y sector gofal.

"Fe fyddai hynna yn gwella swyddi i bobl leol ac efallai byddai mwy o bobl isio aros yn eu gwaith."

Disgrifiad o’r llun,
Mae angen i bob cartref gofal gael yr un faint o arian gan gynghorau, medd Sandra Evans, o Fforwm Gofal Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae ffioedd preswyl a nyrsio Gwynedd yn cael eu gosod mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol eraill ar draws gogledd Cymru, gan ddefnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf gan ddarparwyr ymhlith ffactorau eraill.

"Mae'r ffioedd a delir yn gyson ar draws darparwyr, ac yn seiliedig ar dystiolaeth o gost wirioneddol gofal, tra'n darparu gwerth am arian cyhoeddus.

"Fel y mae darparwyr a Fforwm Gofal Cymru yn ymwybodol, mae ffioedd preswyl a nyrsio Gwynedd ar gyfer 2022/23 wedi eu gosod yn unol â'r gwaith rhanbarthol yma. Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i waith pellach yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn ariannol hon (2022-23), er mwyn gwerthuso fforddiadwyedd a chynaliadwyedd talu ffi uwch i ddarparwyr."

Ychwanega Sandra Evans bod cyfnod Covid wedi bod yn anodd iawn i'r sector gofal. "Mae recriwtio wedi bod yn anodd iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf," meddai.

"Mae Covid wedi newid ein byd ni. 'Dan ni wedi colli lot o staff sydd ddim isio gweithio mewn gofal bellach ac felly 'dan ni wedi gorfod recriwtio mwy o staff. Hefyd mae salwch wedi bod ymhlith staff."

Disgrifiad o’r llun,
'Mae'n anodd cael staff,' medd Tracey Gardner

Ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Mercher cynhaliwyd sesiwn galw mewn gan gartref preswyl Bryn Blodau yn Llanffestiniog er mwyn ceisio denu staff newydd a rhoi cyfle iddyn nhw holi cwestiynau.

Dywed Cyngor Gwynedd bod sesiynau tebyg mewn llefydd eraill wedi bod yn llwyddiannus.

Mae rheolwr Bryn Blodau, Tracey Gardner, yn dweud bod yr heriau'n parhau: "Yn y maes gofal 'dan ni dal reit yn y canol. Mae problemau yn gwaethygu a ddim yn gwella. Mae neb isio dod i'r swydd."

I sawl sector, mae cyfnodau anodda'r pandemig bellach wedi pasio - ond i gartrefi gofal Cymru, mae'r alwad frys i ddatrys yr argyfwng staffio yn parhau.