O'r Rhondda i'r Malfinas - bywyd Russell Isaac

  • Cyhoeddwyd
Russell IsaacFfynhonnell y llun, Russell Isaac

O gael ei garcharu dramor i ymddiswyddo o HTV oherwydd ffrae am raglen am dai haf, mae'r cyflwynydd a'r newyddiadurwr Russell Isaac o'r Rhondda yn wyneb a llais adnabyddus i nifer ohonom.

Bu'n gweithio am flynyddoedd fel gohebydd i ITV a'r BBC, yn bennaf yn cyflwyno materion tramor gan gynnwys rhyfel y Malfinas 40 mlynedd yn ôl. Mae Russell bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd Newid Hinsawdd i'r Cenhedloedd Unedig.

Er gwaethaf gyrfa sy' wedi ei gymryd i bedwar ban y byd, mae'n disgrifio ei hun fel Cymro Cymraeg a'n credu bod hynny'n help iddo i roi persbectif lleiafrifol ar y byd.

Mae Russell wedi rhannu stori ei fywyd a'i yrfa gyda Beti George ar raglen Beti a'i Phobol, BBC Radio Cymru.

Gwreiddiau yn y Rhondda

Roedd y ddau dad-cu yn lowyr a'r ddau yn marw yn y diwedd o'r dwst ar eu ysgyfaint. 'Oedd fy nhad yn foldiwr metal a mam yn gweithio yn y swyddfa dreth.

'Doedd Mam a Dad ddim yn siarad Cymraeg ond roedd y ddwy fam-gu a tad mam yn siarad Cymraeg, 'na'r unig reswm ges i siarad Cymraeg. Roedd y brifathrawes, Bessie Thomas, yn ysgol gynradd Pontygwaith wedi gosod y rheol fod rhaid i o leia' un o'r teulu siarad Cymraeg.

Plentyndod yn Ferndale

Doedd neb o'n oedran i (o Ferndale) yn mynd i Ysgol Pontygwaith nac i Ysgol Rhydfelen o'r un flwyddyn felly d'on i ddim yn chwarae pêl-droed na rygbi gyda'n cyfoedion yn y dre.

Roedd yn gyfnod bach anodd achos o'n i'n blentyn gwahanol i'r rhan fwyaf o'r lleill, am fy mod i'n mynd i ysgol Gymraeg. O'n i'n dueddol o greu fy hwyl fy hun a chwarae pêl yn erbyn y wal.

Ges i'n mwlio ond dwi ddim yn mynd i or-ddweud. O'n i ddim yn drist na'n teimlo hunan-dosturi. Roedd y bwlio yn digwydd achos mod i'n wahanol - ac yn enwedig pan o'n i'n mynd i'r ysgol Sul

Bydde'r bois yn chwarae pêl-droed lan y stryd ac o'n i ddim yn ffitio mewn. O'n i'n cael ambell i grasfa. 'Nes i dalu'r pwyth yn ôl drwy chwarae rygbi a chwarae yn erbyn timoedd y Rhondda dros Rhydfelen a churo nhw.

Addysg uwchradd yn Rhydfelen

Roedd 'na griw da yna - ffrindiau oes. Mae gen i ffrindiau da iawn o'r cyfnod yna. Roedd Rhydfelen fel ysgol ar ei gorau yr adeg yna - roedd brwdfrydedd yr athrawon, eu gallu nhw - roedd wir yn gymdeithas arbennig ac yn gyfnod arbennig iawn.

Symud i fyd teledu

Roedd Gwilym Owen yn bennaeth newyddion HTV ac wedi gofyn os oedd diddordeb gen i mewn newyddiaduraeth. Roedd 'na gynnig i fynd yno.

Pan es i i'r Ariannin am y tro cyntaf o'n i yn ddibrofiad. Roedd Ioan Roberts yn olygydd ac fe wnaeth rhoi siâp newyddiadurol arna'i.

Ffynhonnell y llun, Russell Isaac
Disgrifiad o’r llun,
Russell yn derbyn gwobr Newyddiadurwr Rhyngwladol yn Iran yn 2012

Gohebu yn Rhyfel y Malfinas

Roedd hyn ar gyfer Y Dydd a Report Wales. Roedd llynges yr Ariannin wedi dechrau cymryd ynysoedd Georgia ac ar fin mynd i'r Malfinas. O fewn wythnos o'n i 'di mynd yno.

Roedd 'da fi'r cysylltiadau, o'n i'n gallu siarad yr iaith. O'n i'n gwneud adroddiadau yn Gymraeg ar gyfer Y Dydd a Saesneg ar gyfer Report Wales.

Mae geiriaduron yn cyfieithu Falklands fel Malfinas - roedd yr Archentwyr yn cyfeirio at yr ynysoedd felly.

Dysgais i bod y Malfinas yn rhan annatod o'u hunaniaeth nhw, bod yr ynysoedd yn perthyn i'r Ariannin. Allech chi edrych ar bob math o esgusodion pam wnaeth Galtieri gymryd yr ynysoedd - roedden nhw mewn trafferthion dybryd o ran yr economi, 'oedden nhw'n trio chwilio am ffyrdd mas o'u sefyllfa, felly oedd e'n symudiad poblogaidd tu hwnt i gymryd yr ynysoedd yn ôl ar y pryd.

Doedd pobl ddim yn meddwl byddai Prydain yn ymateb yn y ffordd wnaethon nhw - llywodraeth Thatcher yn penderfynu bod nhw'n gorfod ymladd ac anfon y llu arfog allan. Doedd pobl ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd.

Milwyr o'r Wladfa a milwyr o Gymru

Roedd e'n sioc enfawr i ffeindio mas bod Prydain yn mynd i fynd i ryfel ac yn enwedig bod y Cymry yn cymryd rhan yn y rhyfel yn eu herbyn nhw. Felly methu deall y rhaniad yma rhwng Cymreictod a Phrydeindod. Roedd e'n creu dilema mawr iddyn nhw. Mae e'n rhywbeth sy'n ddwfn yn eu psyche nhw.

Carcharu

Mi ges i'r fraint o dreulio diwrnod neu ddau yn y carchar yn Esquel. 'Oedden ni wedi penderfynu ffilmio ger y ffin gyda Chile. Roedd 'na anghydfod rhwng Chile a'r Ariannin dros rhan o'r tiroedd yn y de.

Felly oedden ni am wneud stori ynglŷn â hwnna - 'oedden ni'n mynd heibio cwpl o wersylloedd milwrol ar yr un pryd a gafodd cwpl o newyddiadurwyr o Brydain eu harestio lawr yn Tierra del Fuego. Roedd rhain wedi bod yn gofyn cwestiynau am symudiadau milwrol ac mae'n debyg wedi bod yn tynnu lluniau o wersylloedd milwrol.

Felly aeth gorchymyn allan i atal unrhyw newyddiadurwr o Brydain oedd yn ardal y de. Roedden ni yno ac yn mynd heibio i wersyll milwrol felly gathon ni ein rhoi mewn carchar am cwpl o ddiwrnodau.

Roedd yn annifyr iawn achos ein bod ni'n cael ein cyhuddo o fod yn ysbiwyr dan amheuaeth. Ac oedd hi'n sefyllfa pan oedd pethau ar fin mynd yn wael iawn yno.

Suddo'r Belgrano

Mi ddaeth gorchymyn i adael rhyw wythnos wedyn yn sydyn a'n ddisymwth achos roedd rhywbeth ar fin digwydd.

Es i'r bore wedyn i Montevideo ar y fferi gan obeithio mynd nôl yna ond yn anffodus y diwrnod hynny oedd diwrnod suddo'r Belgrano. Felly roedd rhywbeth ar y gweill.

Teithio'r byd

Roedd cael cyfle i deithio'r byd gyda Y Byd ar Bedwar - y canllawiau a'r egwyddorion newyddiadurol hynny oedd yn sail i bopeth nes i. Wrth sôn am Affganistan, roedd y stori honno yn un o'r mwyaf nes i weithio arni.

Roedd mynd gyda lluoedd Rwsia i mewn i ddinas Khost (yn 1987) oedd wedi bod dan warchae am sbel hir a'r Rwsiaid moyn profi pwynt propoganda i weddill y byd eu bod nhw'n gallu herio'r Mujahideen a gwthio mewn i Khost. Digwydd bod o'n i ar y convoy cyntaf aeth drwyodd.

Wedyn mynd mewn i Khost a'r stori yn mynd ar draws y byd bod y Rwsiaid yn llwyddo.

Ffynhonnell y llun, Russell Isaac
Disgrifiad o’r llun,
Daeargryn Nepal 2015: Russell wrth ei waith

Ymddiswyddiad o HTV

'Neud rhaglen oedden ni am yr ymgyrch llosgi tai haf, gwnaeth un o'r newyddiadurwyr gyfweld â'r bardd RS Thomas. Un or dyfyniadau oedd yn amlwg iawn yn y rhaglen honno oedd RS yn dweud byddai'n drasiedi pe bai rhywun yn marw mewn tân tŷ haf ond fedrwch chi ddim cymharu marwolaeth person gyda marwolaeth diwylliant a cholli hunaniaeth.

Ie, oedd e'n dipyn o ddweud ond o'n i'n teimlo bod e'n hanfodol i glywed e'n dweud hynny. Ond ar y pryd mi wnaeth penaethiaid HTV - a chyfreithwyr am wn i - honni bod hwn yn incitement to violence - ymgais i gyfiawnhau trais.

'Nes i anghytuno a dweud os ydy'r dyfyniad yma'n dod allan o'r rhaglen does dim diben i'r rhaglen.

A felly 'nes i ddweud fuasen i'n ymddiswyddo. A nes i. Tridiau yn ddiweddarach ymddangosodd y stori yn y Western Mail gyda'r dyfyniad.

Sefydlu cwmni

Roedd yn drywydd gwahanol - o Ffilmiau Elidir i ddechrau lle o'n i'n rhan o'r cwmni i sefydlu Cwmni Deg 'nath ennill cytundeb rygbi oddi ar y BBC, wedyn sefydlu cwmni SMS, Sports Media Services (sy' wedi darlledu digwyddiadau chwaraeon).

Mae'r cwmni dal i fynd gyda'r mab Morgan yn rhedeg e gan fwyaf tra mod i'n gwneud gwaith ymgynghorol mewn meysydd eraill.

Gweithio gyda'r Cenhedloedd Unedig

Chi'n ffeindio bod chi'n gweithio gyda adrannau llywodraethol enfawr (fel ymgynghorydd) - India neu Pacistan neu Japan - ac os chi'n dweud 'dwi'n dod o ran o'r byd lle mae'n bwysig bod llais y dyn bach yn cael ei glywed', maen nhw'n dechre deall mai ar lefelau cymunedol mae'r atebion yn cael eu canfod.

Chi'n mynd lawr i ofyn i'r ffermwyr beth ddigwyddodd i'w cnydau nhw, chi'n mynd lawr i ofyn i'r pysgotwr pam 'nath ei gwch e suddo ac ati - mae'r persbectif o gymryd ochr y dyn bach yn helpu yn fawr iawn a dyna sy'n dod o'n ngwreiddiau i - bod ni wedi gorfod fel Cymry ymladd ein cornel ni ac ymladd i gael pobl i glywed ni.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig