Anifeiliaid Wcráin ddim yn cael bod â'u teuluoedd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Roman, Larysa ac un o'r cŵnFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Roman, Larysa ac un o'u cŵn Rhodesian Ridgebacks

Mae teuluoedd o Wcráin sy'n aros yng Nghymru yn dweud bod setlo yma wedi'i wneud yn anoddach am nad yw eu hanifeiliaid anwes yn gallu bod gyda nhw.

Yn Lloegr, mae teuluoedd yn gallu bod gyda'u hanifeiliaid nhw.

Mae llawer o'r anifeiliaid sydd wedi dod o Wcráin wedi eu gorfodi i fod mewn canolfannau cwarantin am hyd at bedwar mis yn ôl rheolau Cymru.

Ond, mewn mannau eraill ym Mhrydain, maent yn gallu bod mewn cwarantin mewn cartrefi ar ôl derbyn profion iechyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio lleihau'r risg o feirws peryglus 'y gynddaredd' (rabies) a bod pryderon hefyd am "sut mae'r broses gyfredol o ynysu yn y cartref yn cael ei fonitro a'i weithredu'n effeithiol".

Yn ôl Marianna Koniushenko, 18, sydd wedi ffoi i Gaerdydd gyda'i theulu, mae ei chŵn yn gallu helpu'r trawma a'r pryderon y mae'n dioddef ar ôl ffoi o ddinas Bucha yn Wcráin.

Roedd modd i Marianna, ei brawd Roman, 14, a'i mam Larysa ffoi pan agorodd "lwybr dianc" gerllaw am 15 munud.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Laryssa, Marianna a Roman bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl ffoi o ddinas Bucha

Dywedon nhw fod y bobl yn y ceir o'u blaen a thu ôl wedi cael eu lladd gan filwyr Rwsia.

Ar ôl cyrraedd Prydain ar 26 Ebrill, roedd yn rhaid iddynt adael Trisha a Vinchi - eu cŵn Rhodesian Ridgebacks - yn Dover.

Maen nhw nawr yn cael eu cadw mewn cenel yn Poulton-le-Fylde, i'r de o Blackpool, a dydyn nhw ddim yn gwybod pryd fyddan nhw'n cael gweld ei gilydd eto.

'Mae'r cŵn yn rhan o'r teulu'

Dywedodd Marianna: "Mae gen i syndrom post traumatical. Mae'n anodd tu hwnt.

"Rwy'n credu y gallai'r cŵn fy helpu. Rwy'n gallu rhoi cwtsh iddyn nhw a dweud wrthyn nhw am fy mhroblemau i gyd.

"Rwy'n teimlo'n drist iawn. Maen nhw fel rhan ohona' i. Mae'r cŵn yn rhan o'r teulu."

Ychwanegodd Larysa: "Mae fy mhlant wedi colli rhan enfawr o'u cefnogaeth emosiynol. Mae eu bywydau - eu bywyd hapus o fyw yn y wlad - wedi newid mor gyflym.

"Roedd ganddynt fywyd hyfryd ac mae'n bwysig i ni gyd fod gyda'n gilydd."

Mae'r cenel wedi gyrru lluniau o'r cŵn i'r teulu er mwyn iddyn nhw eu gweld.

Dywedodd Larysa: "Roeddwn i'n crio pan welais i'r lluniau oherwydd mae fel rhoi plant i gartref plant amddifad.

"Rydym ni'n caru Cymru a'r teulu sydd yn edrych ar ein hôl, ond dydy hanner o'n teulu ni ddim yma."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,
Charly a Senia - dau o gathod y teulu Komrokova, sydd ar hyn o bryd mewn cartref cathod yn Blackpool

Mae tair cenhedlaeth o'r teulu Komrokova wedi ymgartrefu yn Nhrefaldwyn, ar y ffin rhwng Lloegr a Chymru, gyda theulu sydd cynnig llety iddynt.

Mae eu tair cath - Senia, Charly a Flora - mewn cartref cathod yn Blackpool, ond maen nhw'n ceisio sicrhau cartref mwy parhaol iddynt yn nes er mwyn gallu mynd i'w gweld.

'Andros o annheg'

Mae gan Rita, sy'n wyth mlwydd oed, anghenion dysgu ychwanegol, ac mae'n teimlo cysur wrth dreulio amser gyda'i chathod.

Dywedodd Mark Michaels, sy'n gosod y llety i'r teulu: "Dim ond tafliad carreg o Loegr ydym ni fan hyn. Wrth edrych allan o'r ffenestr, mae modd gweld Lloegr, ac felly mae'n ymddangos yn andros o annheg.

"Fe fydden nhw wedi dewis Lloegr pe bydden nhw wedi gwybod na fydden nhw'n gallu bod gyda'u hanifeiliaid."

Ffynhonnell y llun, Llyn cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd pyg Vladyslav Sdarikov a'i gariad ei gymryd i ffwrdd i gennel wedi iddyn nhw gyrraedd Cymru

Dywedodd Vladyslav Sdarikov, 24, sy'n byw yng Nghonwy, y byddai ef a'i gariad Darya Holodiak wedi meddwl am opsiynau gwahanol pe bydden nhw'n gwybod fod eu ci pug, Taylor, wedi gorfod treulio cyfnod mewn cwarantin mewn cenel.

"Does dim modd i ni edrych ar ei ôl oherwydd y ffin anweledig sy'n bodoli ar gyfer anifeiliaid," meddai.

'Amhosib' sicrhau cwarantin adref

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths AS, wedi dweud ei bod yn gweithio'n agos gyda'r prif swyddog milfeddygol wrth osod y rheolau yng Nghymru.

"Dydyn ni heb gael y gynddaredd yn y wlad hon am ganrif," meddai.

"Mae hyn am warchod yr anifail sy'n cyrraedd o Wcráin. Mae hyn am warchod anifeiliaid yma yng Nghymru, ac wrth gwrs iechyd cyhoeddus.

"Mae Lloegr a'r Alban wedi dewis ynysu adref fel ffurf o'u cwarantin. Sut ydych chi'n sicrhau hwnnw? Sut ydych chi'n profi ei fod yn digwydd? Mae'n amhosib yn fy marn i."

Pynciau Cysylltiedig