Senedd fwy: Llafur yn ceisio 'cloi' ei hun mewn grym

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Byddai cynlluniau Llafur a Phlaid Cymru yn cynyddu nifer aelodau'r Senedd o 60 i 96

Mae llywodraeth Lafur Cymru yn ceisio "cloi" ei hun mewn pŵer "am byth" gyda'r cynlluniau i ehangu nifer aelodau'r Senedd, medd Gweinidog Llywodraeth y DU.

Byddai cynlluniau Llafur a Phlaid Cymru, gafodd eu cyhoeddi yn gynharach yn y mis, yn cynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96.

Dywedodd AS Mynwy, a Gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies y byddai'r system arfaethedig yn "canoli grym" yn nwylo rheolwyr y pleidiau.

Roedd Mr Davies yn annerch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Y Drenewydd ddydd Sadwrn.

O dan y cynlluniau byddai'r cyhoedd yn pleidleisio dros bleidiau, yn hytrach nag ymgeiswyr, gyda 96 o Aelodau o'r Senedd wedi'u gwasgaru dros 16 etholaeth.

Byddai'n defnyddio'r hyn a elwir yn "system rhestr gaeedig" - tebyg i sut roedd etholiadau Senedd Ewrop yn gweithio ym Mhrydain cyn Brexit - lle mae pleidleiswyr yn cefnogi rhestr plaid yn hytrach nag ymgeisydd, ac ni allant wrthod unrhyw ymgeiswyr unigol a enwebwyd.

Byddai pleidiau'n cael eu gorfodi i enwebu rhestrau sy'n cynnwys dynion a merched yn gyfartal, gyda rhestrau ymgeiswyr yn cael eu gosod am yn ail rhwng dynion a merched.

Ar hyn o bryd mae'r Senedd yn cael ei hethol drwy gymysgedd o'r cyntaf i'r felin ar gyfer 40 o etholaethau, a rhestrau plaid ar gyfer yr 20 Aelod o'r Senedd sy'n weddill.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd David TC Davies fod y cynlluniau yn "tynnu cynrychiolaeth leol a chwarae gyda'r system bleidleisio"

Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ar y cyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn gynharach yn y mis.

Rhwng y ddwy blaid, mae gan Lafur a Phlaid Cymru y mwyafrif o ddau draean fyddai ei angen i gael y cynllun trwy'r Senedd.

'Tynnu'r elfen o atebolrwydd lleol'

Ond dywedodd Mr Davies ddydd Sadwrn: "Trwy greu etholaethau enfawr a defnyddio rhestrau maen nhw am dynnu'r elfen o atebolrwydd lleol.

"Dyma, i fod, oedd un o'r manteision o gael Senedd, ond yn hytrach bydd yn canoli grym yn nwylo ychydig o reolwyr y pleidiau.

"Mae'r ffaith eu bod wedi cadw'r cynlluniau'n gyfrinach nes i'r etholiadau lleol basio yn dweud popeth."

Ychwanegodd mai tasg y Ceidwadwyr ydy "brwydro yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i gloi llywodraeth Lafur mewn grym am byth trwy dynnu cynrychiolaeth leol a chwarae gyda'r system bleidleisio".

Mae'r dirprwy weinidog trafnidiaeth Lee Waters wedi amddiffyn y cynlluniau, gan ddweud fod "gan bawb eu hoff system etholiadol eu hunain, a does dim un system etholiadol heb ei anfanteision".

"Mae'n rhoi Senedd sy'n medru codi trethi a deddfu, sydd yn gallu cyflawni'r dasg o graffu ar y llywodraeth a symud Cymru ymlaen," meddai.

Beirniadu record iechyd Llafur

Yn ddiweddarach daeth ymosodiad arall ar Lafur, y tro hwn gan Weinidog Iechyd Llywodraeth y DU, Sajid Javid, oedd yn feirniadol o record y blaid gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Dywedodd fod gweinidogion Llafur yn "canolbwyntio mwy ar ehangu nifer y gwleidyddion yn y Senedd na nifer yr apwyntiadau ysbyty", ac yn "methu â chefnogi meddygon, nyrsys a chleifion".

"Mae'r data diweddaraf yma yng Nghymru'n dangos fod un ym mhob pum person ar y rhestr aros, gydag un ym mhob pedwar claf wedi disgwyl dros flwyddyn am driniaeth," meddai.

"Allwch chi ddim ymddiried yn y blaid Lafur i reoli'r gwasanaeth iechyd."

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan yr wythnos hon fod y system dan "bwysau enfawr", ond fod dros 250,000 o gleifion allanol wedi'u gweld y mis blaenorol.