Doc Penfro: Dyn o flaen ynadon wedi'i gyhuddo o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Lisa FraserFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd corff Lisa Fraser, oedd yn byw yn Noc Penfro, ei ddarganfod yn y dref, mewn tŷ ar Military Road, fore Gwener

Mae dyn 41 oed o Hwlffordd wedi ymddangos o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o lofruddio Lisa Fraser.

Cafodd corff Ms Fraser, 52, oedd yn byw yn Noc Penfro, ei ddarganfod yn y dref, mewn tŷ ar Military Road, fore Gwener.

Mae Matthew Harris hefyd yn wynebu cyhuddiadau o fygythiadau i ladd, lladrata ac achosi difrod troseddol i eiddo yn Neyland.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd plismyn eu galw i gyfeiriad yn Noc Penfro fore Gwener

Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Estelle Hopkin-Davies, ddydd Sul: "Ar ran tîm yr ymchwiliad, hoffwn ddiolch unwaith eto i gymuned Doc Penfro am eu cefnogaeth i swyddogion wrth iddyn nhw wneud ymholiadau dros y dyddiau diwethaf.

"Mae'r wybodaeth yr ydych wedi ei roi i ni wedi'n cynorthwyo i gyrraedd y man pwysig hwn yn yr ymchwiliad.

"Mae teulu Lisa yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac ry'n yn meddwl am y teulu wrth i'n gwaith ar yr achos barhau."

Pynciau Cysylltiedig