Cymuned leol 'wedi'u gwahardd' rhag prynu tai newydd Môn

Gareth Wyn Williams
BBC Cymru Fyw

  • Cyhoeddwyd
Adeiladu tai
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r 16 o dai tair lloft - gyda'r amod cynllunio - yn cael eu hadeiladu ym Mrynteg, ger Benllech ar Ynys Môn

Mae pobl Ynys Môn wedi eu "gwahardd" rhag prynu tai newydd ar yr ynys, yn ôl AS, oherwydd rheolau cynllunio sy'n golygu bod rhaid eu gwerthu fel cartrefi gwyliau.

Mae'r stad o 16 o dai ym Mrynteg, ger Benllech, yn cael eu hadeiladu ynghlwm ag amod gynllunio sy'n golygu bod ond modd eu defnyddio fel ail gartrefi neu defnydd gwyliau - ac nid fel brif dŷ.

I gyd gyda thair llofft, maent yn cael eu marchnata ar gost o £285,000 yr un.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth, y byddai'r datblygiad yn "ddelfrydol i brynwyr tro cyntaf a theuluoedd lleol", ond "mewn gwirionedd mae'r gymuned leol wedi eu gwahardd rhag eu prynu a'r tai'n cael eu gwerthu am grocbris".

Yn ôl Cyngor Môn mae'r caniatâd cynllunio gwreiddiol - a basiwyd yn 2009 yn unol ag argymhelliad y swyddogion - yn deillio'n ôl i gyfnod cyn dyfodiad y cynllun datblygu presennol.

Disgrifiad o’r llun,
Saif y datblygiad, ym mhentref Brynteg, dros y ffordd i 20 o dai gwyliau sydd eisoes wedi eu hadeiladu

Mae'r sefyllfa dai leol wedi'i ddisgrifio fel un "argyfyngus", gyda ffigyrau Cyngor Môn yn dangos bod dros hanner y boblogaeth eisoes wedi'i prisio allan o'r farchnad dai.

Mae premiwm o 50% ar dreth cyngor ail gartrefi ar yr ynys, gyda bwriad i'w gynyddu i 100% dros y blynyddoedd i ddod.

Er mai nid hwn yw'r datblygiad cyntaf i'w adeiladu gydag amod o'r fath, mae wedi bod yn destun trafodaeth brwd ar wefannau cymdeithasol.

Gyda'r egwyddor o adeiladu tai haf ar y safle wedi'i sefydlu dros ddegawd yn ôl, adnewyddwyd y caniatâd gwreiddiol gan swyddogion cynllunio'r cyngor.

'Dwylo wedi eu clymu'

Ond yn ôl un o gynghorwyr yr ardal, mae datblygiad o'r fath yn "annheg i bobl yn lleol" pan nad yw llawer yn gallu fforddio byw yn eu cymunedau eu hunain.

"Chewch chi ddim byw yn rhain yn barhaol. Ond dwi'n credu be' mae pobl lleol yn ei weld ydi tai fysa'n gallu gwneud i bobl yn prynu am y tro cyntaf", dywedodd y Cynghorydd Margaret Murley Roberts wrth Cymru Fyw.

"Mi gafodd rhain ganiatâd cynllunio yn 2009, sy'n mynd yn ôl dipyn cyn fy amser i, a dipyn cyn cyfnod Plaid Cymru yn arwain [y cyngor].

Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl y Cynghorydd Margaret Murley Roberts, mae'r sefyllfa dai eisoes yn 'argyfyngus' yn yr ardal

"Dwi'm yn licio nhw, dwi'n meddwl ddylian nhw fod yn dai i bobl lleol, ond maen nhw be ydyn nhw, polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hyn.

"Mae na le [datblygiad bythynod gwyliau] i lawr y ffordd sydd ar fin cael ei adeiladu ac wnes i ac aelod lleol arall siarad yn erbyn yn frwd iawn, doeddan ni na'r pobl leol isio fo, ond oddan ni'n gwbod sa'n mynd i'r pwyllgor cynllunio fysa'n anorfod fyddan nhw yn basio fo neu fysa wedi mynd lawr i Gaerdydd ar apêl ac ar gost i [gyngor] Ynys Môn.

"Y gobaith ydi fydd na ddim mwy o'r rhain, 'da ni wedi croesi rŵan y trothwy o 15% o lety gwyliau yn yr ardal a gobeithio fydd na ddim mwy, ond tydi o'm yn gwneud o'n iawn."

Gan dderbyn ei fod yn "edrychiad gwael" yn sgil argyfwng dai yn lleol , ychwanegodd: "Da ni'n lwcus fod ganddon ni y premiwm ar ail gartrefi 'da ni'n ei ddefnyddio, mae gynnon ni le ym Mhentraeth 'da ni'n adeiladu ar gyfer pobl leol i rentu a prynu.

"Dyna ddylai rhain fod ond fod ein dwylo wedi eu clymu.

Ffynhonnell y llun, Keith Williamson
Disgrifiad o’r llun,
Lleolir y datblygiad lai na dwy filltir o Fenllech, sy'n gyrchfan gwyliau poblogaidd

"Os 'di pobl yn flin, ac mi ddylian nhw fod yn flin, blin 'efo polisïau Llywodraeth Cymru dylsan nhw fod.

"Da ni, fel cyngor, wedi adeiladu 300 o dai yn ddiweddar ond 'di hwnnw ddim byd i'w gymharu 'efo beth sydd angen, nag yn stopio pobl yn dod yma ac yn eu prisio allan o'r farchnad.

"Mae'n argyfyngus, yn enwedig yn yr ardal hon, does na ddim chance i neb lleol brynu.

"Sw' ni'n methu fforddio prynu fy hun os fyswn yn gorfod gwneud rŵan."

Prisio pobl allan

Yn ôl ffigyrau'r cyngor ei hun mae 62.2% o boblogaeth yr ynys wedi eu prisio allan o'r farchnad dai - gyda'r broblem wedi gwaethygu wedi'r pandemig.

Mae'n cynnwys adeiladu tai cyngor newydd yn ogystal â rhai fforddiadwy i'w prynu.

Disgrifiad o’r llun,
Mae "dyletswydd moesol" ar gynghorau i edrych yn ôl ar benderfyniadau cynllunio, meddai Robat Idris

Ond yn ôl Robat Idris, sy'n ymgyrchu yn y maes tai gan gynnwys helpu datblygu Siarter Tai Celtaidd gyda Chymdeithas yr Iaith, mae'r esiampl hon yn rhan o broblem ehangach.

"Yn amlwg" mae problemau gyda'r caniatâd gafodd ei roi yn y gorffennol, meddai, ond "be' sy'n digwydd rŵan ydi'r cwestiwn".

"Os oes modd gwneud rwbath am y mater penodol yma mae angen edrych ar bob posibilrwydd, a sw' ni'n dweud fod dyletswydd moesol ar gynghorau nid yn unig i edrych ar geisiadau newydd sy'n dod i law ond hefyd penderfyniadau sydd wedi'i gwneud yn barod...

"O ran edrych ar y cynllun datblygu, mae angen rhoi pwysau i ail edrych ar hwnnw yn gynt na'r drefn statudol a'n bod yn edrych o'r newydd ar faint o dai, lle mae nhw, i bwy maen nhw a natur y sefyllfa leol."

Ychwanegodd: "Mae'r ymadrodd gwersi i'w dysgu yn dod i'r fei pan fo pethau'n mynd o'i le, ond problem sydd gynnon ni sy'n bodoli ers degawdau ond wedi mynd yn fwy a fwy o argyfwng.

"Ond arwydd o broblemau llawer dyfnach ydi'r esiampl benodol hon."

'Cwbl groes i'r datblygiadau sydd eu hangen'

Dywedodd Aelod o'r Senedd Ynys Môn bod sawl aelod o'r cyhoedd wedi bod mewn cysylltiad ers i'r tai fynd ar y farchnad.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru mae'n rhannu'r "rhwystredigaeth a siom", gan ddisgrifio'r datblygiad fel "enghraifft o ddeddfwriaeth cynllunio sydd ddim yn gweithio er budd y gymuned".

Disgrifiad o’r llun,
Rhun ap Iorwerth: 'Y gymuned leol wedi eu gwahardd rhag eu prynu'

"Mae hon yn edrych fel stad o dai delfrydol i brynwyr tro cyntaf a theuluoedd lleol, ond mewn gwirionedd, mae'r gymuned leol wedi eu gwahardd rhag eu prynu a'r tai'n cael eu gwerthu am grocbris, a hynny mewn ardal lle mae tai fforddiadwy yn brin," dywedodd.

"Mae'n gwbl groes i'r math o ddatblygiadau sydd eu hangen ar yr ynys, ac mi fydda i'n parhau i wthio ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ein polisïau cynllunio ni'n adlewyrchu anghenion ein cymunedau."

'Swyddi gwell yw'r ateb'

Ond dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Virginia Crosbie: "Fy ffocws yw swyddi, cyflogaeth fedrus a buddsoddiad. Mae cynllunio wedi'i ddatganoli i'r cyngor, dan arweiniad Plaid Cymru, a Llywodraeth Lafur Cymru.

"Fodd bynnag, mae pobl ar draws Ynys Môn yn cysylltu â mi yn rhwystredig oherwydd eu bod eisiau gallu fforddio prynu eu cartref eu hunain, aros yn eu cymuned a chadw'r Gymraeg yn fyw.

Ffynhonnell y llun, Virginia Crosbie
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Virginia Crosbie ei bod yn canolbwyntio ar ddatblygu'r economi, gan gynnwys datblygiad niwclear newydd ar yr ynys

"Dydw i ddim yn cefnogi sut mae cynghorau sir fel Ynys Môn a Llywodraeth Cymru yn mynd ati i geisio doctora'r farchnad dai ac atal perchnogaeth ail gartrefi drwy dictat a chodiadau treth.

"Y ffordd ymlaen yw creu swyddi medrus iawn yn lleol a swyddi sy'n talu'n dda i bobl leol fel bod safonau byw yn codi. Dyna pam dwi'n treulio cymaint o amser yn dadlau'r achos yn San Steffan dros niwclear a phorthladd rhydd ar yr ynys.

"Dyna sut yr ydym yn datrys y broblem hon."

'Fedrwch chi ddim mynd yn erbyn capitalism'

Dywedodd Vince Payne, sy'n gynghorwr ariannol ym Menllech, bod angen balans.

"Da ni angen pobl i ddod yma i fyw a helpu busnesau, os ydi o'n cael ei wneud yn deg, ond dwi'n meddwl fod Cymru ar ei hôl hi 'efo helpu pobl i brynu tai.

Disgrifiad o’r llun,
Vince Payne: 'Dim y broblem fwyaf yma ydi ail gartrefi ond bod pob job da wedi mynd'

"Da ni angen pobl i ddod fewn i'r ardal... ond 'da ni er ei hôl hi a mae pobl Plaid Cymru, Llafur, Torïaid i gyd yr un fath, mae nhw di treblu treth cyngor yng Nghernyw yn barod, da ni ar ei hôl hi.

"Mae angen croesawu pawb yma, dim y broblem fwyaf yma ydi ail gartrefi ond bod pob job da wedi mynd, does na ddim jobs i gadw pobl yma.

"Mi ddyla' fod na help i bobl leol ddod yma i fyw, rhaid cofio fod lot o'r tai ma sy'n cael eu gwerthu i bobl o dramor neu beth bynnag, y Cymry eu hunain sydd 'di gwerthu'r tai ma yn y lle cyntaf.

"Fedrwch chi ddim mynd yn erbyn capitalism, mae'n rhan o'r byd mae arna'i ofn."

Hen bolisïau cynllunio

Fe wnaed cais am sylw gan y datblygwr yn ogystal â'r arwerthwyr tai. Dywedodd Lywodraeth Cymru ei fod yn fater i Gyngor Môn.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn: "Yn wreiddiol cafwyd cais cynllunio ar gyfer codi 16 uned gwyliau ar y safle ei ganiatáu o dan hen bolisïau cynllunio lleol sydd nawr wedi eu disodli.

"Roedd egwyddor y datblygiad felly wedi ei sefydlu fel rhan o'r caniatâd hwnnw."

Pynciau Cysylltiedig