John Toshack: Cyn-reolwr Cymru yn yr ysbyty ar ôl cael Covid-19
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae cyn-reolwr Cymru, John Toshack yn yr ysbyty yn Sbaen ar ôl dal Covid-19.
Y gred ydy bod un o gewri pêl-droed Cymru, sy'n 72 oed, mewn cyflwr difrifol iawn.
Mae adroddiadau o Sbaen yn dweud bod cyn-reolwr Real Madrid yn dioddef o niwmonia a achoswyd gan coronafeirws, a'i fod ar beiriant anadlu.
Sgoriodd Toshack 13 o weithiau mewn 40 gêm i Gymru cyn dod yn rheolwr y tîm cenedlaethol ddwywaith, yn 1994 ac o 2004 i 2010.
Everyone at the Football Association of Wales is thinking of John Toshack and his family at this time.
— FA WALES (@FAWales) February 27, 2022
Brysia Wella ♥️🏴 pic.twitter.com/ObN4ZRFsEL
Real Madrid C. F., its president and its Board of Directors wish to send a message of support and affection to our dear John Benjamin Toshack, who we send courage and strength to in these moments.
— Real Madrid C.F. 🇬🇧🇺🇸 (@realmadriden) February 27, 2022