Dau o bobl wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, GoogleMae dau o bobl wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A55 ger Brychdyn yn Sir y Fflint ble cafodd car ei yrru i wyneb traffig.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ychydig ar ôl 12:15 ddydd Sadwrn.
Mae'r llu yn apelio am dystiolaeth dashcam o Audi TT coch yn cael ei yrru'n "afreolus oddeutu yr amser hyn".
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai gyrrwr y car hwnnw - oedd yn gyrru i gyfeiriad y gorllewin ar y lôn ddwyreiniol - ydy un o'r rheiny fu farw.
Dywedodd Sarjant Liam Morris o'r Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rwy'n annog unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â'n tîm cyn gynted â phosib i helpu gyda'n hymchwiliad."
Ychwanegodd: "Estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i'r teuluoedd."
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad o gylchfan Dobbs Hill i gyffordd yr A5104 am Frychdyn.