Oriel Luniau: Awyr Dywyll Cymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol EryriYr wythnos yma mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y cyd gyda Prosiect Nos wedi bod yn dathlu harddwch naturiol yr Awyr Dywyll.
Mae sawl safle ar draws Cymru, ac o fewn ffiniau'r tri Pharc Cenedlaethol yn Eryri, Brycheiniog ac Arfordir Penfro ble mae modd gwerthfawrogi'r awyr dywyll heb unrhyw lygredd goleuni.
Mae sawl gweithgaredd wedi'i drefnu yn ystod yr wythnos sy'n annog pobl i fynd allan ac edrych fyny tua'r awyr.
Diolch i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am roi caniatâd i BBC Cymru Fyw i arddangos yr oriel anhygoel o luniau sy'n cynnwys rhai gan y ffotograffydd Keith O'Brien.
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Lleuad Fedi yn goleuo Cwm Prysor
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Llwybrau'r Sêr o Gwm Dolgain
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Mae'r ffermdy hwn wedi ei leoli mewn lle perffaith i werthfawrogi'r awyr dywyll ym Mhenfro
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Ar lan y môr yn Sir Benfro mae modd edrych allan am filltiroedd dros y dŵr
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Llyn Cregennan ger Dolgellau gyda Caer Arianrhod ac Actwrws yn Bootes uwch law y dŵr
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Y blaned Fenws i'w weld yn glir ger Trawsfynydd
Ffynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri
Cronfa ddŵr Tal-y-bont o dan y sêr
Ffynhonnell y llun, Parc cenedlaethol Eryri
Yr awyr dywyll uwch ben Pen y Fan ar y Bannau Brycheiniog
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Goleuni'r Gogledd dros Drawsfynydd
Ffynhonnell y llun, Keith O'Brien
Y Llwybr Llaethog o Abergeirw, Gwynedd
Straeon perthnasol
- 12 Ionawr
- 25 Hydref 2019