Teyrngedau i'r actor Mei Jones a fu farw yn 68 oed
- Cyhoeddwyd
Mae nifer wedi bod yn rhoi teyrngedau i'r actor ac awdur Mei Jones sydd wedi marw yn 68 oed.
Cafodd Henryd Myrddin Jones ei eni a'i fagu yn Llanddona ar Ynys Môn.
Daeth yn fwyaf adnabyddus am ei ran fel Wali Tomos yng nghyfresi teledu C'mon Midffîld - cyfresi yr oedd hefyd yn eu sgriptio.
Ar y radio y cafodd y cyfresi cyntaf eu darlledu cyn trosglwyddo i deledu yn 1987 gan droi'n glasur ymysg rhaglenni Cymraeg.
Roedd pêl-droed wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd ers y dyddiau cynnar ac roedd yn chwaraewr dawnus.
Bu'n chwarae i garfan dan 18 oed Cymru a nifer o dimau'r gogledd-orllewin fel bachgen ysgol, ac ar ôl mynd i'r coleg yn Aberystwyth bu'n chwarae i Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.
Ers clywed am ei farw nos Wener mae degau wedi bod yn rhoi teyrnged i Mei Jones ar y cyfryngau cymdeithasol gan nodi'r mwynhad y mae cyfres C'mon Midffîld wedi ei roi iddynt ar hyd y blynyddoedd.
Dan ddweud ffraeth, er ein gwaethaf, mae 'na gur,
— Annes Glynn (@Yr_Hen_Goes) November 6, 2021
mae 'na gip o aeaf,
briw o hyd dan bob gwên braf,
hen wylo'r 'encore' olaf. 🎭 pic.twitter.com/NOIUmXWzbX
Mor drist i glywed fod Mei Jones wedi marw. Roedd hi'n fraint ac yn gymaint o hwyl gweithio fel peiriannydd sain ar y cyfresi cynta o 'C'mon Midffild' ar @BBCRadioCymru pic.twitter.com/Mu1vrr0ENW
— Meredydd Morris (@MorrisMeredydd) November 5, 2021
Calon drom sydd gen i heno. Myrddin Carwad fydd o byth i mi. Fy nghyd-eisteddfodwr yn y dyddiau cynnar - roedd o fel brawd bach i mi. Daeth yn anwylyn cenedl fel Mei Jones a chreu’r dihafal Wali Tomos. Diolch a chwsg yn dawel. Meddwl am ei deulu. 😥 💔 pic.twitter.com/rscANbQqjU
— Annwen Jones (@annwenjones1) November 5, 2021
Diwinyddiaeth oedd ei bwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond ag yntau'n cydnabod nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb, treuliodd ei amser yn actio a chanu gan ddod yn un o aelodau gwreiddiol grŵp Mynediad am Ddim.
Dechreuodd ysgrifennu fel un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws ar ddiwedd yr 1970au.
Aeth o'r llon i'r lleddf yn ystod ei yrfa actio, gan chwarae rhannau fel Llywelyn yn y fersiwn deledu o ddrama 'Siwan' gan Saunders Lewis yn 1986.
Roedd yna ddrama y tu hwnt i'r sgrin a'r llwyfan hefyd.
Ym mis Chwefror 1988, cafodd Mei Jones a'i gyd-actor Bryn Fôn eu harestio mewn cysylltiad ag ymchwiliad Meibion Glyndŵr - a'r ddau'n cael eu rhyddhau'n ddigyhuddiad wedyn.
Bu'n sôn sut roedd y profiad wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo.
"Mi ges i bennod dda iawn - wel fy hoff bennod i o C'mon Midffîld - dim bod hi'n bennod dda, geith bobl eraill dd'eud hynny. Ond o'dd hi'r hawsa' i'w 'sgwennu," meddai.
"Be' nes i dd'eud o'dd bod yr hogia' 'di bod yn dwyn defaid - bod nhw 'di mynd â chardigan gan Picton a darn o gig oen.
"Ond y peth oedd, o'dd y plot yma nes i 'sgwennu'n g'neud gymaint mwy o synnwyr na be' ddigwyddodd go iawn!"
Gydag apêl C'mon Midffîld wedi pontio cenedlaethau, fe symudodd Mei Jones a'i gymeriad Wali gyda'r oes.
Roedd cyfle i serennu eto adeg pencampwriaethau pêl-droed - ffilm deledu yn 2004, a blog wedyn i Cymru Fyw yn Euro 2016 wrth i lwyddiant tîm Cymru gydio yn y genedl.
'Ni eith Mei byth yn angof'
Yn rhoi teyrnged iddo, dywedodd Amanda Rees, cyfarwyddwr cynnwys S4C: "Bydd ein gwylwyr yn fythol ddiolchgar i Mei am C'mon Midffîld a Wali gan fod y ddrama a'r cymeriad ymysg trysorau mwya'r sianel.
"Cyhyd ag y bydd Wali'n rhedeg y llinell gyda'i faner ni eith Mei byth yn angof".
Dywedodd yr awdures Manon Steffan Ros bod "Wali Tomos yn un o greadigaethau mwya' hoffus, annwyl digri a chofiadwy'r Gymraeg. Ddaru Mei Jones greu cymeriad 'da ni gyd yn ei garu. Am gamp, ac am etifeddiaeth hael i'r genedl."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sadwrn dywedodd Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle y byddan nhw'n "cynnal munud o gymeradwyaeth i gofio am ddyn arbennig iawn, Mei Jones (Wali Tomos).
Mae'n gadael dwy ferch, Lois ac Ela, a dau fab, Steffan ac Aaron.