Adran Dau: Casnewydd 0-1 Northampton

  • Cyhoeddwyd
Jon GuthrieFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Jon Guthrie sgoriodd unig gôl y gêm ym munudau olaf yr hanner cyntaf

Fe wnaeth dechrau sigledig Casnewydd i'r tymor barhau nos Fawrth wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Northampton yn Rodney Parade.

Daeth unig gôl y gêm ym munudau olaf yr hanner cyntaf, gyda Jon Guthrie yn rhwydo wedi i'r tîm cartref fethu â chlirio'r bêl yn dilyn cic rydd.

Doedd dim rhagor o goliau, ond aeth noson yr Alltudion yn waeth gydag 18 munud yn weddill wrth i'r amddiffynnwr Scot Bennett orfod gadael y maes gyda'r hyn oedd yn edrych fel anaf drwg.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn disgyn i'r 19eg safle yn Adran Dau, gydag wyth pwynt o'u saith gêm hyd yma y tymor hwn.