Bachgen wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan gerbyd

  • Cyhoeddwyd
Roedd munud o dawelwch er cof am Tomos gan dimau ieuenctid Pontypridd dros y penwythnosFfynhonnell y llun, Pontypridd RFC
Disgrifiad o’r llun,
Roedd munud o dawelwch er cof am Tomos gan dimau ieuenctid Pontypridd dros y penwythnos

Cafodd bachgen naw oed ei ladd ar ôl cael ei wasgu gan gerbyd mewn cae yn Rhondda Cynon Taf, mae cwest wedi clywed.

Clywodd Llys Crwner Pontypridd bod Tomos Rhys Bunford wedi ei wasgu mewn cae yng Nglynrhedynog, ger ei gartref yn Ynysybwl, ar 6 Medi.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw ond bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.

Yn ôl archwiliad post-mortem, achos ei farwolaeth oedd "anaf difrifol i'w frest".

Dywedodd y Dirprwy Crwner, Sarah Richards: "Fe fyddwn yn cynnal archwiliadau i ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Tomos."

Cafodd y cwest ei ohirio tan 23 Mawrth 2023.