Morgannwg yn wynebu chwalfa arall yn Durham

  • Cyhoeddwyd
Ben Raine o dîm DurhamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Ben Raine ymhlith y batwyr a berfformiodd yn dda yn erbyn bowlwyr Morgannwg

Mae Durham wedi cynyddu'r pwysau ar Forgannwg ar ail ddiwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Ar ôl cyfyngu batiad cyntaf Morgannwg i 97 ddydd Sul, fe gyrhaeddodd Durham 503-8 ddydd Llun cyn cau eu batiad cyntaf nhw.

Llwyddodd pump o'u chwaraewyr i sgorio o leiaf 50, gan osod targed o 406 i Forgannwg er mwyn gorfodi Durham i fatio eto.

Gyda dim ond digon o amser am 24 o belawdau, fe sgoriodd Morgannwg 71-2 - David Lloyd a Nick Selman yn colli eu wicedi'n rhad.

Hamish Rutherford (32 h.f.a.) ac Eddie Byrom (17 h.f.a.) fydd yn ailgydio yn y batiad ddydd Mawrth ond mae talcen caled o'u blaenau gyda'r bwlch mawr o 335 i anelu ato.

Collodd Morgannwg eu gêm bencampwriaeth ddiwethaf o fwy na batiad yn erbyn Essex hefyd.

Pynciau Cysylltiedig