Hiliaeth: Arolwg yn awgrymu fod Cymru'n 'wlad ranedig'

James Williams
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Protest yn gwrthwynebu derbyn ceiswyr lloches ym Mhenalun
Disgrifiad o’r llun,
Protest y llynedd yn erbyn cartrefu ymgeiswyr lloches ar safle gwersyll hyfforddi milwrol Penalun yn Sir Benfro

Mae Cymru yn "wlad ranedig" gyda'r mwyafrif o bobl yn agored i fewnfudo ond mae "pocedi o elyniaeth yn dod i'r amlwg", yn ôl ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth.

Awgrymodd arolwg a gynhaliwyd ar ran y grŵp ymgyrchu Hope Not Hate fod y mwyafrif o bobl (57%) yn credu bod mewnfudwyr wedi newid eu hardal leol er gwell, gyda 43% yn dweud eu bod wedi gwneud pethau'n waeth.

Rhannwyd barn bron yn gyfartal rhwng pobl oedd yn poeni (46%) ai peidio (48%) ynghylch mewnfudwyr newydd yn dod i'w cymuned.

Awgrymodd yr arolwg hefyd fod pryder mawr ynghylch diffyg cyfleoedd i bobl ifanc, dirywiad y stryd fawr, a thlodi yng Nghymru.

Fel rhan o ddadansoddiad cyntaf Hope Not Hate o hunaniaeth yng Nghymru, cynhaliodd arolygwyr barn cofrestredig Focaldata arolwg ar-lein o 1,043 o bobl yng Nghymru rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill 2021.

Cymru'n 'groesawgar' ond 'rhanedig'

'Croesawgar' oedd y term mwyaf poblogaidd a ddefnyddiwyd gan bobl pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio Cymru - cafodd ei ddewis gan draean (33%) o'r holl ymatebwyr.

Y termau nesaf oedd 'rhanedig' (20%), 'ansicr' (20%) a 'diogel' (20%).

Dywedodd y mwyafrif (66%) fod cael amrywiaeth eang o bobl o gefndiroedd a diwylliannau yn rhan o ddiwylliant Prydain, gyda 34% yn dweud ei fod wedi tanseilio diwylliant Prydain.

Dywedodd mwyafrif (56%) hefyd fod mewnfudo i Brydain wedi bod yn beth da ar y cyfan.

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (54%) yn cytuno â'r syniad bod mewnfudwyr yn aml yn gwneud swyddi nad yw'r Cymry eisiau eu gwneud, a dywedodd 42% fod mewnfudo yn beth da i Gymru oherwydd bod y genedl yn heneiddio.

Ond roedd barn eang hefyd bod mewnfudwyr wedi ei gwneud hi'n anoddach i Gymry gael swyddi (42%), ac nad yw mewnfudwyr eisiau integreiddio (40%).

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r mwyafrif o bobl (57%) yn credu bod mewnfudwyr wedi newid eu hardal leol er gwell

Pan ofynnwyd a oedd pobl yn cytuno ai peidio gyda'r syniad na allwch "fod yn falch o'ch hunaniaeth genedlaethol y dyddiau hyn heb gael eich galw'n hiliol", cytunodd 49% gyda'r teimlad, tra bod chwarter yn anghytuno.

Roedd mwy o ymatebwyr (40%) wedi cytuno gyda'r datganiad bod "ffeministiaeth wedi mynd yn rhy bell ac yn ei gwneud yn anoddach i ddynion lwyddo" nag oedd wedi anghytuno (33%).

Dywedodd dros draean o bobl (34%) hefyd fod Islam yn fygythiad i ffordd o fyw Prydain.

Pryder am anghydraddoldeb pellach

Dywedodd Rosie Carter, uwch gynghorydd polisi ar gyfer Hope Not Hate a chyd-awdur yr adroddiad 'Fear and Hope: Wales': "Nid yw'r llinellau sy'n rhannu'r boblogaeth wedi'u gosod ac rydym yn gwybod y gall rhai pethau wneud cymdeithas yn fwy rhanedig, tra bod pethau eraill yn gallu adeiladu mwy o agosatrwydd.

"O edrych ar yr effaith economaidd sydd i ddod, mae'n debygol y gallai hyn ehangu'r rhaniadau hyn wrth iddo ddyfnhau anghydraddoldeb a chynyddu ymddiriedaeth.

"Fe ddaethon ni o hyd i ymdeimlad cryf iawn o Gymreictod ar draws y sbectrwm.

"Felly, o bobl sydd â safbwyntiau rhyddfrydol iawn i bobl sydd â barn fwy gelyniaethus ar bethau fel mewnfudo, roedd gan yr holl bobl hyn ymdeimlad cryf iawn o fod yn Gymry, ond roedd yr hyn roedden nhw'n ei olygu o ran Cymreictod yn wahanol iawn, iawn."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd protestiadau gwrth-hiliaeth eu cynnal ledled Cymru yn 2020, gan gynnwys yng Nghaernarfon

Mae'r adroddiad a'r arolwg hefyd yn awgrymu bod pryder eang am dlodi a swyddi.

Pan ofynnwyd iddynt pa mor bryderus oeddent am ystod o faterion, roedd yr ymatebwyr yn poeni'n fawr neu rywfaint am:

  • Diffyg cyfleoedd i bobl ifanc - 69%
  • Dirywiad y stryd fawr - 68%
  • Tlodi - 65%
  • Effaith cynhesu byd-eang - 62%
  • Hiliaeth - 54%

'Trafferthion ariannol' o ganlyniad i'r pandemig

Dywedodd union hanner yr ymatebwyr eu bod yn poeni'n fawr, neu rywfaint, y gallent hwy neu rywun yn eu teulu golli eu swydd o ganlyniad i'r pandemig.

Dywedodd llawer eu bod wedi cael trafferthion ariannol, gan fod un o bob pump wedi dweud eu bod wedi gwneud cais am gredyd cynhwysol (19%), wedi bod ar ffyrlo (19%), wedi lleihau eu horiau gwaith (21%), neu wedi dioddef yn ariannol oherwydd bod yn rhaid iddynt hunan-ynysu (22%).

Dywedodd adroddiad Hope Not Hate fod yr arolwg yn awgrymu bod y pandemig wedi cael "effaith economaidd anghymesur" ar bobl ifanc yng Nghymru, gyda phobl dan 35 oed "yn llawer mwy tebygol o fod wedi colli oriau yn y gwaith, mynd i ddyled, defnyddio eu cynilion, wedi bod ar ffyrlo neu wedi colli allan yn ariannol oherwydd eu bod wedi gorfod hunan-ynysu."

Awgrymodd yr adroddiad hefyd fod menywod yn "fwy tebygol o nodi eu bod wedi teimlo effeithiau negyddol":

  • Dywedodd 41% o fenywod eu bod wedi defnyddio eu cynilion, o'i gymharu â 29% o ddynion;
  • Roedd bron i draean (27%) o fenywod wedi cwympo i ddyled, o gymharu â 21% o ddynion;
  • Roedd bron i hanner (47%) wedi teimlo ymdeimlad dwfn o unigrwydd, o'i gymharu â 28% o ddynion.

Dywedodd Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol Cyngres Undebau Llafur Cymru: "Y realiti anghyfforddus yw bod ein model economaidd yng Nghymru wedi torri cyn yr argyfwng presennol.

"Dros y degawd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd sydyn mewn gwaith ansicr yn ogystal â thwf mawr mewn tlodi mewn gwaith.

"Bellach mae cartrefi sydd ag o leiaf un oedolyn mewn gwaith â thâl yn cyfrif am dros hanner pawb sydd mewn tlodi - gan danseilio'r syniad o waith fel llwybr gwarantedig i ryw fath o ddiogelwch economaidd.

"Nid yw'n syndod felly gweld tlodi yn cael ei nodi yma fel pryder mawr gan ddwy ran o dair o'r boblogaeth."