Gemau ail gyfle: Barnsley 0-1 Abertawe

Published
image copyrightGetty Images
image captionAndré Ayew sgoriodd unig gôl y gêm gydag ergyd wych ar ddiwedd yr hanner cyntaf

Llwyddodd Abertawe i drechu Barnsley yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth nos Lun, gan sicrhau mai nhw fydd â'r fantais cyn yr ail gymal y penwythnos hwn.

Roedd y gêm yn cael ei chynnal o flaen 4,000 o gefnogwyr Barnsley yn Oakwell - y tro cyntaf i'r ddau dîm chwarae o flaen torf ers Mawrth 2020.

Daeth unig gôl y gêm wedi 39 munud, wrth i André Ayew dorri i mewn o ochr dde y cwrt cosbi a chrymanu ergyd wych gyda'i droed chwith i gornel isa'r rhwyd.

Er y bu mwy o gyfleoedd i'r ddau dîm, doedd dim rhagor o goliau, a hynny oherwydd ambell i arbediad arwrol gan y golwr Freddie Woodman i'r Elyrch.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal yn Stadiwm Liberty o flaen 3,000 o gefnogwyr Abertawe nos Sadwrn.

Yng nghymal cyntaf y rownd gynderfynol arall nos Lun, llwyddodd Bournemouth i drechu Brentford o 1-0.

Straeon perthnasol