Yr amgylchedd: Neges Ewyllys Da, nid 2021... ond 1971

Published
image copyrightYr Urdd

Mae arbed yr amgylchedd yn bwnc llosg ar hyn o bryd, fel y mae diogelu hunaniaeth cenhedloedd bychain.

Ond wyddoch chi nad pynciau trafod 'modern' yw'r rhain, a'u bod o bwys i Gymry ifanc 50 mlynedd yn ôl?

Dyna beth gafodd ei drafod yn Neges Ewyllys Da 1971.

Mae Cymru Fyw wedi siarad gyda thri o bobl ifanc o Brifysgol Abertawe sydd wedi cyfrannu at Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 am eu hargraffiadau nhw o'r neges oedd yn trafod 'hen broblemau' sydd yn dal yn berthnasol heddiw.

image copyrightYr Urdd
image captionNeges Heddwch ac Ewyllys Da 1971

Neges 1971: "Yn ystod yr hanner can mlynedd er pan sefydlwyd y Neges, enillwyd breintiau lawer trwy gyfrwng gwyddoniaeth a thechnoleg. Ond gyda'r breintiau fe ddaeth hefyd bryderon."

Mae Bethan Roberts yn astudio tuag at radd Meistr mewn Rheolaeth Busnes, ac yn cytuno gyda'r neges am y da a'r drwg sydd wedi dod o dechnoleg.

"Mae wedi helpu gyda datrys rhai problemau i wneud gyda ein impact ar yr amgylchedd, ond hefyd mae wedi creu problemau eraill, fel mae 'na fwy o blastigion nag erioed yn yr amgylchedd nawr.

"Felly maen nhw [yn 1971] wedi codi ymwybyddiaeth ond hefyd doedden nhw ddim yn ymwybodol o beth oedd i ddod yn y dyfodol hefyd.

image copyrightBethan Roberts
image captionBethan Roberts

"Dwi hefyd yn teimlo maen nhw 'di rhoi diffiniad i gynaliadwyedd cyn oedd y gair yn cael ei ddefnyddio lot.

"Trwy godi ymwybyddiaeth mae pobl yn dechrau gwneud gwahaniaethau mawr yn eu ffordd o fyw dros amser. Mae newid bach o ddydd i ddydd yn adio i fyny i newidiadau mawr yn yr hir-dymor, felly mae pobl, oherwydd bod nhw'n fwy ymwybodol nawr - gobeithio - yn byw'n fwy cynaliadwy nag oedden ni.

Neges 1971: "Erbyn heddiw mae perygl i'n hamgylchfyd gael ei halogi a'i wenwyno. Rhaid wrth ymdrech arbennig os ydym am ddiogelu bywyd dyn a bodolaeth planhigion ac anifeiliaid. Ac nid oes amser i'w golli."

Roedd Alpha Evans, sy'n astudio'r Gymraeg, yn synnu o weld fod yna sôn am yr amgylchedd yn y neges 50 oed, â hynny yn rhywbeth mae hi wastad wedi ei ystyried yn rhywbeth 'modern'.

"Ni'n gweld, yn enwedig yn y byd sydd ohoni nawr bod hwnna falle'n dod yn bwnc fwy llosg, fod mwy o bobl yn ymwybodol o'r her nawr sy'n ein hwynebu ni o ran newid hinsawdd. Yn bersonol, o'n i'n teimlo falle yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hwnna wedi dod yn fwy amlwg, ond oedd e'n broblem ac o'dd e'n amlwg i bobl ifanc 50 mlynedd yn ôl hefyd.

"Fi'n credu falle bod mwy o ymwybyddiaeth gyda phobl o ran beth sydd yn digwydd yn y byd. Yn amlwg, fi'n teimlo falle bod mwy o bobl yn siarad am y peth, a'r mwyaf mae pobl yn siarad amdano fe, y mwyaf mae pobl eraill yn mynd i siarad amdano fe.

image copyrightAlpha Evans
image captionAlpha Evans

"A mae'n dod yn fwy amlwg bod rhaid i ni wneud rhywbeth amdano fe hefyd, dim jest derbyn bod e'n digwydd - fi'n teimlo bod lot fwy o bobl yn barod i wneud gwahaniaeth ac yn fwy angerddol.

"Ond wedyn ar y llaw arall, mae'r heriau 'na dal yn bodoli heddiw - os rhywbeth, mae e'n gwaethygu - felly bydden i yn teimlo falle fod yna bach o rwystredigaeth a siomedigaeth bod dim mwy wedi cael ei 'neud dros y 50 mlynedd diwetha' i 'neud fwy i helpu'r amgylchedd.

"Mae neges 1971 yn bwerus iawn, ond eto, mae dal yn wir heddi."

image copyrightYr Urdd
image captionRoedd y neges yn ymddangos mewn 12 iaith, gan gynnwys Esperanto, Arabeg ac Almaeneg

Neges 1971: "Ond nid adnoddau bywyd yn unig sydd mewn perygl. Mae iaith, diwylliant a hunaniaeth y cenhedloedd bychain mewn perygl hefyd, ac fe fyddai'n byd i gyd yn dlotach o'u colli.

"Cyfrifoldeb y genedl ei hun, yn bennaf, yw diogelu ei threftadaeth. Ond ni all wneud hynny heb i'r cenhedloedd o'i chwmpas ganiatáu iddi'r hawl a'r cyfle."

Wrth ddarllen neges 1971, roedd Daniel Hall-Jones, sy'n astudio Rheolaeth Busnes, hefyd yn gweld nifer o themâu sy'n parhau i fodoli yn yr 21ain ganrif - ond mae'n teimlo fod dyletswydd ar bobl Cymru i wneud gwahaniaeth.

"Ni'n gweld bod nhw'n trafod colli treftadaeth llefydd bach ac mae hynny'n broblem dwi'n meddwl sydd yn eitha' amserol yn yr amser ni'n byw ynddo ar hyn o bryd yn enwedig yma yng Nghymru, gyda'r trafodaethau am yr argyfwng ailgartrefu mewn ardaloedd anghysbell.

image copyrightYr Urdd
image captionDaniel Hall-Jones

"Mewn ffordd, mae'r dadleuon oedd oedolion ifanc yn 1971 yn trafod yn rywbeth ddylse ni ddim tanseilio ac anwybyddu bellach, achos ni'n byw mewn oes o scapegoating a rhoi bai ar bethau... ond mewn ffordd, ni yw'r bobl sy'n gorfod gwneud y newid 'na achos mae popeth yn dechrau gyda ni.

"Mae'r dewisiadau ni'n 'neud ar gyfer y dyfodol cyfagos yn mynd i gael effaith fawr ar fel mae'r dyfodol yn symud 'mlaen.

"Un o'r prif resymau wnes i wneud cais i fod yn rhan o'r neges eleni oedd gwybod pa mor bwysig yw'r ymgyrch i ni fel y Cymry ifanc.

"Fi'n gweld hi'n bwysig bod ni'n cario 'mlaen gweledigaeth y Parchedig Gwilym Davies o ysgogi plant a phobl ifanc i weithredu ar faterion amlycaf cymdeithas ac o bosibl ddod o hyd i ffyrdd o'u datrys mewn modd creadigol."

image copyrightYr Urdd
image captionNeges 1971: Dyma oedd yr 50fed neges Ewyllys Da, ac mae hi'n 50 mlynedd ers i'r neges gael ei rhannu â'r byd

Neges 1971: "A gawn ni, ieuenctid pob cenedl, dderbyn yr her sy'n ein hwynebu? A gawn ni fynnu bod ein byd yn lanach a phurach? A gawn ni sicrhau i bob cenedl ei chyfle a'i lle? Trwy gydweithio y gallwn ddileu annhegwch a meithrin brawdgarwch.

"Arnom ni, ieuenctid heddiw, y dibynna etifeddiaeth yfory."

A phwy oedd yn rhan o'r ieuenctid hynny oedd yn 'derbyn yr her'? Wel, dydi Cymru Fyw ddim wedi cael llawer o lwc yn dod o hyd i neb sydd yn cofio bod yn rhan o lunio neges 1971.

Yn ôl cofnodion yr Urdd: "Lluniwyd gan grŵp bychain o fyfyrwyr aelwyd Coleg Addysg Caerdydd ac ar 15 o Fai teledwyd gwasanaeth heddwch o eglwys gadeiriol Llandaf a thraddodwyd yr anerchiad gan M. Hywel Roberts."

Allwch chi ddatrys y dirgelwch? Oeddech chi'n un o'r grŵp a luniodd y neges nôl yn 1971? Cysylltwch â cymrufyw@bbc.co.uk gyda'ch stori!

Hefyd o ddiddordeb: