Eluned Morgan yn Weinidog Iechyd wrth i Drakeford newid ei dîm

Published
image copyrightMatthew Horwood

Mae Eluned Morgan wedi ei phenodi'n Weinidog Iechyd Cymru, gyda Vaughan Gething yn symud i fod yn gyfrifol am yr economi.

Jeremy Miles fydd Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, gan gymryd lle Kirsty Williams.

Mae Ken Skates yn dychwelyd i'r meinciau cefn, ar ôl gadael ei rôl fel Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Mae Mark Drakeford wedi enwi ei gabinet newydd ar ôl i'w blaid ennill 30 o'r 60 sedd yn Etholiad Senedd Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Newid hinsawdd 'wrth wraidd' llywodraeth

Dywed y Prif Weinidog y bydd newid hinsawdd, swyddi gwyrdd newydd ac adfer o'r pandemig "wrth wraidd" y Llywodraeth Lafur Cymru newydd.

Bydd y weinyddiaeth newid hinsawdd newydd yn dod â phortffolios yr amgylchedd, ynni, tai, cynllunio a thrafnidiaeth at ei gilydd, dan arweiniad Julie James.

Lee Waters fydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

image copyrightMatthew Horwood
image captionRoedd Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan yn ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru yn 2018

Bydd Dawn Bowden yn ymuno â'r llywodraeth fel Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ym mhortffolio'r economi. Hi hefyd fydd y prif chwip.

Lesley Griffiths fydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd.

Mae naw allan o'r 14 aelod cabinet newydd yn fenywod.

Y cabinet newydd yn llawn:

  • Mark Drakeford - Y Prif Weinidog
  • Mick Antoniw - Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
  • Rebecca Evans - Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Vaughan Gething - Gweinidog yr Economi
  • Dawn Bowden - Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip
  • Lesley Griffiths - Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
  • Jane Hutt - Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Hannah Blythyn - Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
  • Julie James - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
  • Lee Waters - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
  • Jeremy Miles - Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
  • Eluned Morgan - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Julie Morgan - Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Lynne Neagle - Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Dywed Mr Drakeford fod Ken Skates yn dychwelyd i'r meinciau cefn i "ganolbwyntio ar gryfhau Llafur Cymru yn y gogledd".

Dywed Mr Skates ei fod wedi gofyn i gael gadael y llywodraeth "er mwyn canolbwyntio ar ei etholaeth", De Clwyd.

"Ar ôl wyth mlynedd mewn llywodraeth, nawr yw'r amser iawn," meddai.

image captionDywedodd Ken Skates ei fod eisiau canolbwyntio ar ei waith yn ei etholaeth

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Mae Ken wedi bod yn gaffaeliad mawr yn y cabinet ac wedi darparu llais ar gyfer y gogledd.

"Bydd e'n parhau i godi llais dros y gogledd a Llafur Cymru ond mewn rôl wahanol. Byddwn ni'n gweld eisiau ei egni a'i angerdd.

"Daw Vaughan yn Weinidog yr Economi ar adeg dyngedfennol - nid argyfwng iechyd y cyhoedd yn unig yw'r pandemig, mae hefyd yn argyfwng economaidd."

'Tîm dawnus ac ymroddedig'

Eluned Morgan fydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ganolbwyntio'n benodol ar adferiad y GIG a'r ymateb i'r pandemig.

Lynne Neagle fydd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Lynne yw cyn-gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd sydd wedi hyrwyddo iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Bydd Julie Morgan yn parhau yn ei rôl fel y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd Mick Antoniw yn dychwelyd i'r Cabinet fel y darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Jane Hutt fydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Hannah Blythyn fydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.

Bydd Rebecca Evans yn cadw swydd y Gweinidog Cyllid ond mae maes llywodraeth leol wedi'i ychwanegu at ei phortffolio.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Bydd heriau o'n blaenau - mae'r pandemig yn argyfwng iechyd y cyhoedd ac yn argyfwng economaidd a fydd yn effeithio ar ein bywydau ymhell i'r dyfodol - ond mae'r tîm hwn yn un dawnus ac ymroddedig sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles Cymru.

"Byddwn ni'n rhoi pob gewyn ar waith i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl."

Dadansoddiad gohebydd amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger:

Mae tymor nesa'r Senedd yn ein tywys ni i ganol "degawd dyngedfennol", i ddyfynnu'r corff sy'n cynghori llywodraethau'r DU ar newid hinsawdd.

Erbyn 2030 mae angen i Gymru fod wedi cael gwared ar ddau draean o'i hallyriadau tŷ gwydr.

Ac os oes gobaith o roi stop ar ein cyfraniad at gynhesu byd eang erbyn 2050, rhaid i'r gwaith o weddnewid ein heconomi a'n ffordd o fyw yn llwyr ddechrau o ddifri'.

Mae'n dasg anferthol a dylid gweld y swyddi gweinidogol newydd yma bellach fel rhai o'r mwyaf pwysig a dylanwadol o fewn i Lywodraeth Cymru.

Ond wrth gwrs bydd raid i bob adran a gweinidog ystyried sut y gallan nhw ymateb i'r her, gyda Chymru'n dechrau profi rhai o sgil-effeithiau bygythiol newid hinsawdd yn barod.

Straeon perthnasol