Sean Fletcher: 'Yr hyder i sefyll lan i hiliaeth'

Published
image copyrightS4C

"Dwi'n 47 nawr ond mae pobl dal yn gofyn i fi am gyffuriau. Mae lot o stereoteips am ddynion du, a dwi'n gweld hwnna o hyd."

Fel mab i dad du a mam gwyn, mae'r cyflwynydd teledu Sean Fletcher wedi profi ei hun beth yw effaith hiliaeth a rhagfarn ar fywyd ym Mhrydain.

Mae Sean yn cofio graffiti ar y wal pan oedd yn tyfu i fyny yn Essex yn y 1970au a'r 80au yn dweud 'Go home blacks' ac hefyd yn cofio ymosodiad arno oherwydd ei liw croen pan yn 18 oed.

Ar ôl llofruddiaeth George Floyd ac yn sgil symudiad Bywydau Du o Bwys, mae Sean yn cydnabod ei fod wedi ffeindio'r hyder i siarad allan: "Es i ar y march Black Lives Matter yn Llundain ac 'nes i deimlo'n lot mwy hyderus ar ôl hynna. Felly mae wedi newid fi.

"Mae'r rhaglen Terfysg yn y Bae (rhaglen newydd ar S4C sy'n cael ei gyflwyno gan Sean) yn ran o hynny - mae gyd wedi rhoi'r hyder i fi i fod mwy cryf a sefyll lan i ddweud pethau a galw pethau mas.

"Mae'n ran o symudiad mwy."

Hanes y terfysg

Mae'r rhaglen Terfysg yn y Bae yn olrhain hanes terfysg hil Gaerdydd yn 1919, wnaeth ddigwydd ar stepen drws cyn gartref Sean yn y brifddinas.

Mewn ardal ym Mae Caerdydd ymosododd grwpiau o bobl wyn ar bobl o liw. Parodd y terfysg bedwar diwrnod gyda gynnau'n cael eu tanio, adeiladau'n cael eu dinistrio, a phobl yn cael eu lladd.

Mae Sean, sy' bellach yn byw yn Llundain ar ôl cyfnod o fyw yn Treganna yng Nghaerdydd, yn sôn am y rhaglen: "Ro'n i wedi clywed am y race riots yn Lerpwl a Glasgow ond do'n i ddim wedi clywed am y terfysgoedd yng Nghaerdydd yn 1919. 'Oedden ni'n byw yng Nghaerdydd tan 2010 ac aeth fy mhlant i ysgolion Cymraeg a doedden nhw ddim yn gwybod amdano fe.

"So ges i sioc bod e wedi digwydd.

"Dros y rhaglen pan o'n i'n ffilmio 'nes i ddarganfod lot o bethau am y tebygrwydd rhwng 1919 a nawr.

"Beth o'n i'n meddwl oedd yn debyg iawn oedd pan ti'n edrych ar amser pan mae lot o dlodi a rhywbeth mawr wedi effeithio ar wlad fel y Rhyfel Byd Cyntaf neu Brexit neu pandemig ac mae cenedlaetholdeb yn codi (fel canlyniad), mae pawb yn rhoi bai ar bobl newydd - ar bobl sy'n edrych yn wahanol ac sy' yn wahanol.

"Ac roedd hynny'n digwydd yn 1919 ac mae'n digwydd nawr. Mae wedi digwydd yn y pum mlynedd ers Brexit. So ni'n gallu dysgu bod e'n rili bwysig i beidio 'neud hynny, i gwympo mewn i'r trap o roi'r bai ar bobl sy'n wahanol i ti.

"Mae'n bwysig bod ni'n trio deall bywydau pobl eraill ac yn gwrando a ddim jest yn pwyntio bys a beio eraill.

"Dyna'r prif beth nes i ddysgu o'r rhaglen."

image copyrightS4C
image captionLeslie Clarke o Tiger Bay, sy'n rhannu atgofion teuluol poenus o'r terfysg gyda Sean

Teulu amlhil

Roedd clywed yr hanes wrth ddisgynyddion y rhai yr ymosodwyd arnynt yn y derfysg wedi ysgwyd Sean, sy'n dweud fod hiliaeth heddiw yn amlygu ei hun yn wahanol ac i'w weld yn rhagfarnau pobl:

"Tasen i yng Nghaerdydd fel person amlhil mewn teulu amlhil yn 1919, beth bydde fe wedi bod fel i fi a fy nheulu? Bydden i wedi stryglo a bydde fe'n rili anodd i fyw yno.

"Doedd pobl gwyn ddim yn hapus am ddynion du yn mynd mas gyda gwragedd gwyn (mae Sean yn briod gyda Cymraes wyn, y cynhyrchydd teledu Luned Tonderai). Os o'n i'n byw yn Treganna ar y pryd fyddai angen i fi symud i'r Bae i fod yn saff.

image copyrightLuned Tonderai
image captionSean a Luned gyda'u plant, Reuben a Lili

"Mae pethau wedi symud 'mlaen wrth gwrs ac mae hiliaeth yn wahanol nawr.

"Ond mae dal agweddau yn erbyn pobl du.

"I ddechrau mae ofn am beth dwi'n gallu gwneud fel person du.

"Dwi'n cofio hynny pan o'n i'n ddyn ifanc, dwi'n cofio mynd i'r siop a rhywun wastad yn dilyn fi o gwmpas. Ro'n i'n meddwl fod hynna yn rhywbeth normal.

"Pethau bach sy' gyda'i gilydd yn gwneud rhywbeth mawr ac mae'n dechrau siapio pwy wyt ti a sut ti'n ymateb mewn sefyllfa.

"Pan ti'n cerdded mewn i stafell 'da pobl eraill ti'n actio mewn ffordd wahanol.

"Dwi'n sylweddoli dwi jest yn darganfod hynny nawr. Dwi'n dechrau meddwl beth oedd e fel pan o'n i'n ifanc a nawr.

Ymosodiad Nos Galan

"S'neb nawr yn dod lan ata'i ac yn gweiddi racist abuse ond pan o'n i'n ifanc roedd rhywun wedi ymosod arna'i.

"Fi oedd yr unig person du mewn grŵp o ffrindiau allan ar Nos Galan yn Southend pan o'n i'n 18. Roedd grŵp o ni'n cerdded nôl o'r dafarn i'r tŷ.

"Roedd grŵp o bobl wedi dod aton ni, eisiau ymladd yn erbyn fi ond ddim ffrindiau fi. Ac roedd ffrindiau fi'n sefyll yn y ffordd ac ymladd drosta'i ac ro'n i'n iawn.

"Roedd un ffrind wedi cael black eye am helpu fi."

Profiad personol

Mae Sean, sy'n un o gyflwynwyr rhaglen Good Morning Britain erbyn hyn, wedi dod ar draws rhagfarnau tebyg yn ei yrfa a'i fywyd nifer o weithiau: "Dwi'n cofio pan o'n i'n dechrau yn y BBC yn Llundain yn y 2000au roedd rhywun yn galw fi'n 'chocolateo' ac roedd rhaid i fi ddweud wrtho fe i stopio.

"Ro'n i'n gobeithio mod i wedi camglywed y tro cyntaf a bod e ddim wedi dweud hynny go iawn. Ond roedd e'n cario 'mlaen i alw fi'n hynny.

"Tase rhywun yn dweud hynny wrtha'i heddiw, bydden i syth arno fe. Dwi'n hynach ac mae lot mwy o hyder gyda fi, ond hefyd mae'r rhaglen am y terfysgoedd a'r flwyddyn ni wedi cael gyda pethau yn newid yn yr Unol Daleithiau wedi helpu."

Hunaniaeth

Yn y rhaglen mae Sean hefyd yn siarad gyda nifer o Gymry ifanc croenddu, sy'n datgelu nad oedden nhw'n gwybod am derfysg hil Caerdydd.

image copyrightS4C
image captionSean yn sgwrsio gyda rhai o Gymry ifanc Caerdydd

Mae'n ddarn o hanes Cymru sy' wedi ei guddio, yn ôl Sean, er iddo hawlio penawdau papurau newydd ar draws Prydain ar y pryd.

Dywedodd: "Mae'n drist fod y stori wedi cael ei chladdu.

"Gyda fy mhlant i a phob plentyn yng Nghymru a Prydain mae'n rili bwysig i ddysgu eu hanes nhw.

"Os ti'n ddu neu ti efo roots yn Affrica neu'r Caribî maen bwysig i ddysgu am hanes du. Ond hefyd mae'n rili bwysig fod pawb yn dysgu amdano fe.

"O'n i'n siarad â hanesydd oedd yn dweud mai'r stori arferol yw Cymru yn erbyn Lloegr, Lloegr wedi bod yn fwli a Chymru wedi stryglo.

"Mae Cymru wedi cael rough deal yn erbyn Lloegr dros hanes ac mae'n bwysig i ddweud y stori.

"Ond mae 'na stori arall hefyd ac mae Cymru wedi cael lot o arian o'r slave trade. Mae'n bwysig i ddweud am y terfysgoedd hil a'r ymerodraeth, slavery - ddim i gosbi Cymru a Phrydeindod ond i ddeall ble ydyn ni nawr a pham mae agweddau fel maen nhw.

"Mae'n rili bwysig bod ni'n dysgu ein hanes go iawn."

Gwyliwch Terfysg yn y Bae ar S4C, nos Iau Mai 13, am 9:00.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig