Chwech o bobl i gael cyfarfod dan do o ddydd Llun

Published
Pynciau Cysylltiedig
image captionPrin mae'r ymwelwyr i'r Llew Coch wedi bod yn ôl Berwyn Hughes

Fe fydd gan hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yng Nghymru hawl i gyfarfod dan do mewn caffis, tai bwyta a thafarndai o ddydd Llun ymlaen.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu cynlluniau i ganiatáu i gwsmeriaid fynd tu mewn o ddydd Llun - ond nawr mae cadarnhad y gall chwech o bobl gwrdd.

Os nad ydynt o aelwyd estynedig, bydd yn rhaid iddynt ufuddhau i orchmynion ymbellhau cymdeithasol.

Mae busnesau yn y sector wedi cael ailagor yn yr awyr agored ers 26 Ebrill ar ôl misoedd ynghau.

Fe wnaeth y llywodraeth hefyd gyhoeddi y gallai busnesau sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth.

image caption'Bydd hi'n braf cael ailagor y tu mewn wedi cyfnod anodd,' medd Steffan Walker, is-reolwr Gwesty'r Harbwrfeistr

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Steffan Walker, is-reolwr Gwesty'r Harbwrfeistr yn Aberaeron bod y newyddion i'w groesawu yn fawr.

"Ni'n edrych mla'n i glatsho bant nawr ddydd Llun a 'neud be ni fod i 'neud - mae wedi bod yn help bod pobl yn cael bwyta tu allan ond dyw'r tywydd ddim wedi bod yn dda iawn ac mae hynny wedi bod yn rhwystredig.

"Ni fwy neu lai yn llawn ddydd Llun nesaf - a ni'n gobeithio am haf da wrth i bobl aros yng Nghymru.

"Ry'n ni'n ddiolchgar hefyd am bob cymorth ariannol - ac er na fyddwn yn gwybod tan ddydd Llun a ydyn ni'n gymwys i'r arian ychwanegol y peth pwysig nawr yw ailagor."

'Niferoedd yn isel y tu allan'

I Berwyn Hughes o dafarn y Llew Coch yn Ninas Mawddwy, er bod cwsmeriaid wedi cael eistedd tu allan ers pythefnos, mae'r "nifer o bobl da ni di gweld di bod yn isel iawn".

Ond mae'r newid i'r rheolau yn rhoi gobaith: "Fydd ddim angen aros i'r haul ddod allan, fydd bobl yn mentro allan dim bwys be' di'r tywydd.

"De ni di cael ha' go brysur efo'r Eat out to help out, yn amlwg doedd pobl ddim yn cael trafeilio fel oedden nhw, dwi'n disgwyl welwn ni 'chydig yn fwy 'leni o dan yr amodau newydd."

image caption'Mae dyfodol gwell o'n blaen wedi cyfnod anodd,' medd Rhian Davies o dafarn y Crown and Sceptre, Llangatwg

Un arall sydd wedi bod yn aros yn eiddgar i agor y tu mewn yw Rhian Davies, perchennog tafarn y Crown and Sceptre yn Llangatwg.

"Mae agor tu fas wedi bod yn dda - fi wedi cael lot o gefnogaeth y gymuned ond ddydd Llun nesaf bydd dim rhaid i ni edrych ar y tywydd.

"Bydd pawb yn cael croeso mawr - eisoes mae'r lle yn llawn ddydd Llun a'r wythnos hon hefyd fi wedi cael booking am barti Nadolig!

"Mae'r dyfodol yn mynd i fod yn well - mae hi wedi bod yn galed. Dwi innau hefyd yn ddiolchgar i'r llywodraeth am bob cymorth."

Dywed datganiad Llywodraeth Cymru y bydd yr arian ychwanegol ar gael "i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor".

Mae'r busnesau a all elwa'n cynnwys:

  • Clybiau nos a lleoliadau adloniant hwyr;
  • Digwyddiadau a lleoliadau cynadledda nad ydynt wedi'u cynnwys yng Nghronfa Adfer Ddiwylliannol (CRF) Llywodraeth Cymru;
  • Busnesau lletygarwch a hamdden, gan gynnwys bwytai, tafarndai a chaffis;
  • Busnesau'r gadwyn gyflenwi, sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau.

Mae'r gefnogaeth yn gam cyntaf pecyn gwerth £200m sydd wedi'i glustnodi ar gyfer llywodraeth newydd Cymru i helpu busnesau y mae'r pandemig yn effeithio arnynt. Bydd y manylion llawn ar gael ar wefan y llywodraeth ddydd Llun.

image copyrightMatthew Horwood
image captionMae lletygarwch awyr agored wedi ailagor yng Nghymru ers 26 Ebrill

Dywedodd Mark Drakeford: "Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru - mae gennym y cyfraddau coronafeirws isaf a'r cyfraddau brechu gorau yn y DU.

"Rydyn ni'n gwybod bod y cyfyngiadau wedi helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel ond maen nhw wedi cael effaith fawr ar fusnesau Cymru, a dyna pam rydyn ni'n sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i gefnogi cwmnïau a diogelu swyddi.

"Bydd fy llywodraeth newydd yn rhoi mwy o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu i fusnesau i'w helpu i ddatblygu a thyfu wrth i Gymru adfer o effaith y pandemig."

Bydd busnesau'n gallu cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd y mis a byddant yn derbyn rhwng £2,500 a £25,000 gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau.

Caiff y cyllid ei gyfrif yn seiliedig ar faint y busnes a'r math o gyfyngiadau sydd arno.

Mae'r llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi fod yna fwriad i agor sinemâu, theatrau ac amgueddfeydd hefyd ar 17 Mai.

Straeon perthnasol