Dathlu'r arloeswr enwau lleoedd Gwynedd O Pierce

Published
image copyrightCymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

I nodi penblwydd 100 oed yr arbenigwr ar enwau lleoedd, Gwynedd O Pierce, mae Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a chadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Dr Dylan Foster Evans, yn dathlu ei gyfraniad.

Mae llawer o sôn am enwau lleoedd Cymru y dyddiau hyn. Ond i gynnal y trafodaethau hynny mewn ffordd ystyrlon mae'n rhaid wrth unigolion sydd wir yn deall hanes ac arwyddocâd yr enwau hynny.

Ymhlith y pennaf o'r rhain y mae gŵr a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn gan mlwydd oed ar 12 Mai eleni, sef yr Athro Emeritws Gwynedd O Pierce.

Cymru 'ar ei hôl hi'

Cafodd Gwynedd ei eni a'i fagu yng Nghaernarfon, yn fab i bensaer. Ar ddechrau ei yrfa academaidd bu ym Mangor yn ddisgybl i Syr Ifor Williams, un o'r ysgolheigion mwyaf erioed ym maes y Gymraeg.

Ym mis Mai 1945, cyhoeddodd Ifor Williams y gyfrol Enwau Lleoedd; bu'n rhaid ei hailargraffu o fewn tri mis. Dyna brawf digamsyniol i Gwynedd a phawb arall fod y Cymry'n awchu i wybod mwy am y maes tra phwysig hwn.

Mae ei gyfrol Place-Names in Glamorgan yn apelio at y darllenydd cyffredin a'r arbenigwr fel ei gilydd."

Ond pan ddechreuodd Gwynedd ymddiddori mewn enwau lleoedd, roedd Cymru ar ei hôl hi, yn sicr o gymharu â'r sefyllfa yn Lloegr. Yno yn 1923 y sefydlwyd yr English Place-Name Society (EPNS) gyda'r nod o gyhoeddi astudiaethau manwl, fesul sir, o enwau lleoedd Lloegr. Ymddangosodd y gyfrol gyntaf - ar Buckinghamshire - yn 1925 a daeth deunaw cyfrol arall o'r wasg cyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Ond nid oedd dim tebyg i'r EPNS i'w gael yng Nghymru.

Mae'n wir, er hynny, fod nifer o arbenigwyr wedi bod yn weithgar yn y maes: Ifor Williams ei hun, John Lloyd-Jones, R. J. Thomas, a Melville Richards, i enwi dim ond rhai. Fe gyflawnodd y rhain waith mawr heb lawer o gefnogaeth sefydliadol. Ond roedd y diffyg astudiaethau manwl fesul ardal yn parhau i fod yn fwlch amlwg.

Roedd angen rhywun i fwrw ati a llunio'r astudiaeth gyntaf o'r fath. Gwynedd oedd y gŵr a wnaeth hynny.

Enwau lleoedd Morgannwg

Ni fu'r llwybr yn un rhwydd iddo - bu'n rhaid iddo dreulio cyfnod o dair blynedd yn y Dwyrain Pell yn ystod y rhyfel cyn gallu ailafael yn ei astudiaethau. Symudodd i Gaerdydd a dechrau ymddiddori yn enwau Morgannwg dan adain yr Athro G. J. Williams. Fe'i penodwyd i ddarlithio yn y Gymraeg a Hanes Cymru a dechreuodd gyhoeddi ei ymchwil ar enwau lleoedd yn ystod y 1950au.

Hogodd ei sgiliau ieithyddol a dechrau cofnodi ffurfiau hanesyddol cannoedd o enwau o ardal Dinas Powys, gan gynnwys casglu tystiolaeth lafar gan rai o siaradwyr olaf y dafodiaith Gymraeg leol.

image copyrightGwynedd O Pierce
image captionRhai o lyfrau Gwynedd O Pierce

Ymddangosodd y gyfrol gampus The Place-Names of Dinas Powys Hundred yn 1968. Hon oedd y gyfrol gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu dull manwl yr EPNS. Ac yn achos enwau ardal Dinas Powys (ar gyrion Bro Morgannwg a thafliad carreg o Gaerdydd), roedd y cymysgedd o ieithoedd yn her arbennig.

Bu'n rhaid i Gwynedd ymgodymu â Hen Gymraeg, Eingl-Sacsoneg, Norseg, Lladin, a Ffrangeg, heb sôn am Gymraeg a Saesneg cyfoes, er mwyn datgelu cyfoeth enwau'r fro.

Hawdd iawn yw ymgolli yn y cannoedd o enwau sy'n cael sylw yn y gyfrol hon. Ond edrychwn ar ddwy enghraifft arbennig o ddifyr. Dyna ichi Lecwydd ar gyrion Caerdydd. Dangosodd Gwynedd nad oes a wnelo'r enw ddim oll â llechwedd, fel y credai llawer. Yn hytrach, mae'n tarddu o Helycwydd neu Helecwydd, enw personol, yn ôl pob tebyg, a luniwyd o'r elfennau helyg a gwŷdd ('coed').

Mae'r esboniad ar Highlight ger y Barri yn un arall cofiadwy. Yn Gymraeg, enw'r fan oedd Uchelolau, a'r olau yn golygu 'llwybrau' (hynny yw, mwy nag un ôl). Ond addaswyd yr enw i'r Saesneg gan dybio mai (g)olau oedd yr elfen - a dyna ichi'r Highlight sy'n gyfarwydd heddiw!

Mae Gwynedd yn ysbrydoliaeth ddigyffelyb i bawb sydd wedi mentro i'r maes astrus ond hanfodol hwn."

Cynulleidfa eang

Mae eglurder yr esbonio yn nodweddiadol o Gwynedd, ac felly hefyd ei awydd i rannu ei wybodaeth â chynulleidfa eang. Mae ei gyfrol Place-Names in Glamorgan (2002) yn gyflwyniad darllenadwy a hygyrch i rai o enwau'r sir honno ac yn apelio at y darllenydd cyffredin a'r arbenigwr fel ei gilydd.

Bu Gwynedd hefyd yn trafod enwau lleoedd yn y Western Mail, yn y Dinesydd (papur bro Caerdydd), ac yn Y Gadwyn (cylchgrawn ei gapel yng Nghaerdydd, sef Eglwys y Crwys), yn ogystal â chyfrannu at lyfrau poblogaidd ond safonol megis y ddwy gyfrol Ar Draws Gwlad.

Am flynyddoedd maith, bu Gwynedd yn cynghori'r Llywodraeth am enwau lleoedd a sut i'w safoni. Bu hefyd yn llywydd y Society for Name Studies in Britain and Ireland - arwydd o'r parch mawr iddo y tu hwnt i Gymru.

image copyrightCymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
image captionGwynedd (trydydd o'r chwith) a Dylan (dde eithaf) yn ystod Cynhadledd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn 2019

Yn 2011, sefydlwyd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, a'r flwyddyn ganlynol fe anrhydeddwyd Gwynedd drwy ei wahodd i fod yn Llywydd er Anrhydedd cyntaf y gymdeithas honno.

Ac yn ystod yr haf eleni bydd y gyfrol gyntaf i'w chyhoeddi gan y gymdeithas, sef Ar Drywydd Enwau Lleoedd, yn ymddangos er mwyn anrhydeddu Gwynedd ar achlysur ei ben-blwydd yn gant.

Er iddo gael gyrfa academaidd hynod brysur - roedd yn Athro Hanes Cymru pan ymddeolodd - mae Gwynedd wedi llwyddo i ddilyn diddordebau eraill hefyd. Bu'n ddarlledwr penigamp ar y radio, gan adrodd ar bêl-droed mewn cyfnod arloesol o ran darlledu am chwaraeon yn y Gymraeg. Mae pawb sy'n ei adnabod hefyd yn gwybod ei fod yn golffiwr o fri - dim ond y llynedd y penderfynodd ymddeol o'r gamp honno!

Hyfryd felly yw cael y cyfle i gyfarch Gwynedd ar ei ben-blwydd yn gant. Mae llawer mwy o waith yn aros i'w wneud ar enwau lleoedd, ond mae Gwynedd yn ysbrydoliaeth ddigyffelyb i bawb sydd wedi mentro i'r maes astrus ond hanfodol hwn.

Pen-blwydd hapus iawn ichi, Gwynedd!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig