Pobl ifanc yn helpu lliniaru pryderon ynghylch Covid

Published
Pynciau Cysylltiedig
image captionMae Emily Fender eisiau helpu eraill wella'u bywydau wedi ei phrofiad personol o salwch yn y gorffennol

Mae pobl wedi mynd ati i helpu gwella iechyd meddwl pobl yn eu cymunedau ar ôl gweld bod rhai'n cael trafferth dygymod â'r pandemig.

Sefydlodd Emily Fender - nyrs iechyd meddwl yn Abertawe - wasanaeth nid-am-elw ei hun i helpu pobl ifanc ar ôl sylwi ar gynnydd yn y galw am gefnogaeth.

Mae Emily, 30, hefyd yn rhedeg busnes gofal cymdeithasol ar gyfer unigolion â phroblemau iechyd meddwl difrifol a hirdymor.

Dywedodd bod yr elusen Empowering People Project "yn helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol... sydd erioed wedi cael trafferthion iechyd meddwl o'r blaen".

"Dyw iechyd meddwl ddim yn gwahaniaethu," meddai. "Gall effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg ond ry'n ni'n gweld llawer iawn yn fwy o bobl ifanc yn cysylltu.

"Mae yna rai sydd wedi colli eu rhwydweithiau arferol o ran cefnogaeth, yn brwydro rhag gorbryder, pobl yn colli eu gwaith, pryderon ariannol a thor-perthynas."

'Gobeithio rhoi gobaith i eraill'

Cafodd Emily drafferthion iechyd meddwl pan roedd yn ifanc, cyn mynd ymlaen i gymhwyso fel nyrs.

Bu bron iddi ddod yn fethdalwr ac yn ddigartref pan fethodd menter busnes pan roedd yn ei hugeiniau, a symudodd yn ôl i fyw gyda'i theulu wrth fyw gydag iselder difrifol.

"Roeddwn ar ddosau uchel o feddyginiaeth wrth-iselder ac ar adegau roeddwn eisiau lladd fy hun," meddai. "Ro'n i wirioneddol mewn trafferthion."

Ar ôl ymateb i'r galw am gymorth yn ystod y cyfnod clo cyntaf, mae'r elusen yn cynnig cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy'n cael trafferth dygymod â phryderon o ddydd i ddydd.

Mae'r elusen yn edrych ar anghenion unigolion mewn ffordd gyfannol, a'u cyfeirio at gymorth ymarferol.

"Rwy'n gobeithio gallu rhoi gobaith i eraill, oherwydd wnes i allu newid fy mywyd wedi cyfnod negyddol... Rwy' wirioneddol eisiau rhoi'r neges gallwch chi wneud newidiadau, a newid eich stori ar unrhyw adeg."

image captionMae Ryan Stephens wedi newid ei fywyd yn llwyr wedi iselder, trafferthion ariannol a chyfnod dan glo

Un arall sy'n ceisio helpu pobl eraill yn ei gymuned sy'n cael trafferthion iechyd meddwl yw'r hyfforddwr cyfeiriad meddwl Ryan Stephens, sydd hefyd o Abertawe.

Sefydlodd grŵp gwirfoddol Wet Bandits yn ystod y cyfnod clo, fel bod pobl yn gallu cwrdd yn rheolaidd ar draethau'r ardal a nofio yn y môr.

Mae'r grŵp wedi tyfu ers hynny.

Trafferthion Ryan ei hun - tua chwe mlynedd yn ôl, wedi i'w fusnes stiwdio tatŵs fynd i drafferthion - sy'n ei ysgogi i helpu eraill.

"Roedd llawer yn mynd ymlaen ac fe waethygodd fy nghyflwr meddyliol," meddai. "Nes i ddechrau hel meddyliau tywyll iawn...

"Ro'n i'n teimlo bod y busnes yn mynd i fethu, a bo' finnau'n mynd i edrych fel methiant, ac un o'r camgymeriadau wnes i o ganlyniad oedd gwerthu cyffuriau.

"Ges i fy nal a chael fy nanfon i'r carchar am ychydig fisoedd."

image copyrightRyan Stephens
image captionAelodau'r grŵp Wet Bandits ar un o draethau Abertawe

Wedi'r fath isafbwynt, dywedodd Ryan bod rhaid trin y sefyllfa fel cyfle i droi dalen lân. Hyfforddodd fel cwnselydd er mwyn helpu pobl roi'r gorau i gymryd cyffuriau.

Wedi hynny mae wedi sefydlu busnes gan rhoi cefnogaeth a chyngor i bobl sy'n cael trafferthion iechyd meddwl.

"Fy nod nawr yw effeithio'n bositif ar fywydau gymaint o bobl â phosib, fel nad ydyn nhw'n syrthio i'r un fagl ac y gwnes i a meddwl na allen ddod ddod allan ohono," meddai.

"Yr hyn rwy' wedi dysgu yw bod ein camgymeriadau, neu'r pethau drwg sy'n digwydd i ni, ond yn fwrn neu yn ein llethu os ry'n ni'n dewis eu gweld yn y termau hynny.

"Os ry'n ni'n dewis eu gweld fel camau at ddyfodol gwell, gall wneud yr holl wahaniaeth yn y byd."

Straeon perthnasol