Llafur yn paratoi i lywodraethu ar eu pen eu hunain

Published
Pynciau Cysylltiedig
image captionBydd gan Lafur wynebau cyfarwydd a newydd yn y Senedd nesaf wedi etholiad llwyddiannus

Mae Llafur Cymru'n debygol bellach o geisio llywodraethu yn y Senedd ar eu pen eu hunain yn dilyn etholiad ble enillon nhw 30 o'r 60 sedd.

Dydy'r Prif Weinidog Mark Drakeford ddim ar frys i wneud cytundebau â phleidiau eraill yn dilyn perfformiad cryf ei blaid ddydd Iau.

Roedden nhw un sedd yn brin o'r 31 sydd eu hangen ar gyfer mwyafrif, sy'n golygu y byddai angen cefnogaeth pleidiau eraill i basio deddfau a chyllidebau.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod Llafur wedi "llywodraethu'n llwyddiannus" yn y gorffennol gyda 30 sedd.

Ychwanegodd y byddai'n "agored" i weithio gyda gwrthbleidiau "ble mae tir gyffredin rhyngom ni".

'Dechrau eto' gyda San Steffan

Llwyddodd Llafur i ennill 30 o'r 60 sedd oedd ar gael, gyda'r Ceidwadwyr yn cipio 16 - eu canlyniad gorau erioed - Plaid Cymru'n cael 13 a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael un.

Mae'n golygu y bydd cyfnod Llafur o 22 mlynedd mewn grym - un ai mewn clymblaid neu fel llywodraeth leiafrifol - yn parhau.

"Rydyn ni wedi dangos dros sawl llywodraeth bod modd i chi lywodraethu'n llwyddiannus gyda 30 sedd," meddai.

"Ond dwi'n agored i weithio gydag unrhyw blaid pan mae tir cyffredin rhyngom ni.

"Mae wastad gen i fwy o ddiddordeb mewn cytundebau polisi na threfniadau gwleidyddol."

image copyrightGetty Images
image captionMae disgwyl i Mark Drakeford gael ei gadarnhau eto fel prif weinidog Cymru

Ychwanegodd: "Does gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da, a phan mae 'na bethau ble gallwn ni weithio gyda'n gilydd, bydd fy llywodraeth i'n edrych i wneud hynny gydag unrhyw un y gallwn ni gydweithio gyda er lles Cymru."

Ychwanegodd Aelod Llafur Castell-nedd yn y Senedd, Jeremy Miles bod y canlyniad yn golygu y gallen nhw gydweithio gyda'r pleidiau eraill "o achos i achos".

Dywedodd Mr Drakeford fod ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 hefyd wedi helpu Llafur yn yr etholiad, a bod pobl yn teimlo eu bod wedi "cael eu diogelu yma yng Nghymru".

"O'r diwrnod cyntaf o ymgyrchu... mae pobl wedi bod yn dod i'r stepen drws i ddweud wrthym ni pa mor falch ydyn nhw eu bod nhw wedi byw yng Nghymru dros y 15 mis diwethaf," meddai.

Gyda'r SNP wedi ennill etholiad Senedd yr Alban, a'r Ceidwadwyr wedi perfformio'n gryf yn etholiadau lleol Lloegr, dywedodd Mr Drakeford fod y canlyniadau etholiadol ar draws Prydain yn dangos bod angen "dechrau eto" gyda'r berthynas â San Steffan.

image copyrightGetty Images
image captionMae'r berthynas rhwng llywodraethau Mark Drakeford a Boris Johnson wedi bod yn un anodd ar adegau

"Mae angen ail-wneud y berthynas rhwng y bedair gwlad, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n parchu pob cwr o'r Deyrnas Unedig," meddai.

Ychwanegodd: "Nid hedfan mwy o faneri Jac yr Undeb o doeau adeiladau yw'r ateb, ond perthynas barchus go iawn sy'n cydnabod bod sofraniaeth nawr wedi ei rannu ar draws pedair senedd, a'n bod ni'n dewis dod at ein gilydd ar gyfer pwrpas cyffredin.

"Dyna'r math o Brydain dwi'n meddwl sydd gyda'r siawns orau o oroesi, achos bydd e'n Brydain lle mae pobl eisiau bod yma, nid un lle maen nhw'n cael gorchymyn i wneud."

Llywydd newydd

Gyda'r fathemateg etholiadol mor agos - a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi llwyddo i gadw sedd - gallai'r blaid honno gydweithio gyda Llafur fel maen nhw wedi yn y gorffennol.

Ddydd Sadwrn dywedodd eu harweinydd Jane Dodds, gafodd ei hethol ar restr rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, nad oedd hi'n awyddus i gael clymblaid ffurfiol â Llafur.

Ond yn ôl William Powell, a frwydrodd dros sedd Brycheiniog a Maesyfed i'r blaid, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn "lle da" i gydweithio'n anffurfiol gyda'r llywodraeth pe bai angen.

image captionA fydd y Ceidwadwyr yn herio Elin Jones o Blaid Cymru fel Llywydd?

Dywedodd Heledd Fychan, un o aelodau newydd Plaid Cymru, ei bod hi'n gobeithio bod yn "wrthblaid gref" fydd yn dwyn y llywodraeth i gyfrif.

"Oni bai ein bod ni yna i'w herio nhw a'u gwthio nhw, wnawn ni ddim gweld y newidiadau sydd eu hangen," meddai.

Yn y cyfamser mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies wedi dweud ei fod eisiau gweld y Llywydd nesaf yn dod o'i blaid ef.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig adlewyrchu ar lwyddiant y Ceidwadwyr yn yr etholiad yma, ac ystyried o bosib cael Llywydd neu is-Lywydd Ceidwadol," meddai.

Straeon perthnasol