Llafur â 30 o seddi wrth i'r cyfrif ddod i ben

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightGetty Images

Mae Llafur wedi ennill 30 o seddi a chadw'u statws fel y blaid fwyaf ym Mae Caerdydd yn dilyn canlyniadau terfynol etholiad Senedd 2021.

Mae'r blaid un yn brin felly o fwyafrif i lywodraethu heb gymorth plaid arall.

Ond mae sicrhau 30 o seddi'n cyfateb i'w pherfformiad gorau erioed ym Mae Caerdydd, a'r un nifer o seddi ag yr enillodd Carwyn Jones yn 2011.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ennill 16 o seddi, Plaid Cymru wedi ennill 13 a'r Democratiaid wedi ennill un sedd ranbarthol.

Ar draws Cymru fe bleidleisiodd 47% o etholwyr - y canran uchaf erioed mewn etholiad datganoledig yng Nghymru.

O blith y seddi etholaethol, dim ond tair wnaeth newid lliw.

Cipiodd y Ceidwadwyr sedd darged Dyffryn Clwyd oddi ar Lafur ac unig sedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2016, Brycheiniog a Maesyfed.

Llwyddodd Llafur i ddisodli cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fel AS Rhondda.

Llwyddodd y Blaid Lafur i ddal gafael ar fwyafrif seddi 'wal goch' y gogledd, wedi i'r Ceidwadwyr - yn wahanol i'r llwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol 2019 - ond llwyddo i gipio un o bedair sedd darged.

Mewn etholiad a welodd cymaint o Aelodau Senedd blaenorol yn dychwelyd i Gaerdydd, yr unig sedd wnaeth Llafur golli oedd Dyffryn Clwyd - hen sedd cyn-Ddirprwy Lywydd y Senedd, Ann Jones wnaeth ddim sefyll eleni ar ôl cynrychioli'r etholaeth ers 1999.

Ond gydag Elizabeth 'Buffy' Williams yn cipio Rhondda - sedd cyn arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood - doedd dim newid yng nghyfanswm seddi Llafur yn y 40 etholaeth, o'i gymharu â 2016, sef 27.

Fe lwyddodd y blaid wedyn i sicrhau ei sedd ranbarthol gyntaf erioed yn y gogledd, yn rhannol yn sgil colli Dyffryn Clwyd.

Yn ogystal â Ms Williams mae gan Lafur ddau wyneb newydd arall yn y Senedd - Sarah Murphy, sy'n olynu'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones ym Mhen-y-bont, a Carolyn Thomas ar restr rhanbarthol y gogledd.

image copyrightGetty Images
image captionRoedd hi'n fuddugoliaeth ysgubol i Elizabeth 'Buffy' Williams a'r Blaid Lafur yn y Rhondda

Yn ôl un a fu'n sefyll dros y blaid mae'r sylw y mae Mark Drakeford wedi ei gael dros gyfnod y pandemig wedi rhoi hwb iddyn nhw.

"Mae'n sicr yn ran fawr o'r peth," meddai Owain Williams, un o ymgeiswyr rhestr y blaid Lafur yn rhanbarth Canol De Cymru, ar Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Sadwrn.

"Dwi'n meddwl ei fod e'n ganlyniad rhyfeddol mewn amgylchiadau rhyfeddol. Dyw hwn ddim yn digwydd yn wleidyddol, yw e, plaid sydd yn llywodraethu am amser hir yn cynyddu'r bleidlais, yn cynyddu nifer y seddi, dyw e ddim yn digwydd. Mae'r ffaith ei fod e wedi digwydd yn ei wneud yn wirioneddol rhyfeddol."

"Dwi'n meddwl bod yna gamgymeriadau strategol mawr gan rai o'n gwrthwynebwyr ni yn dewis ymgyrch arlywyddol, falle'n dewis pwysleisio ar annibyniaeth yn yr etholiad yma, dwi'n meddwl bod hynny'n gamgymeriad, ond y peth mawr yw Mark Drakeford."

image copyrightGetty Images
image captionCynyddodd Mark Drakeford ei bleidlais yn sylweddol wrth ddal gafael ar sedd Gorllewin Caerdydd

Mae Mr Drakeford wedi cael mwy o amlygrwydd ledled Prydain nag erioed wrth arwain ymateb Cymru i'r pandemig, ac fe gynyddodd ei bleidlais yn sylweddol wrth ddal gafael ar sedd Gorllewin Caerdydd.

Dywedodd y byddai'n "gwneud beth bynnag y galla'i" i sicrhau bod gan Gymru "lywodraeth sefydlog a blaengar" unwaith y bydd yr holl ganlyniadau wedi eu cadarnhau.

Ychwanegodd wrth siarad â BBC Cymru y byddai'n well ganddo sefyllfa "ble mae gyda chi lywodraeth sydd â mwyafrif i gymryd y camau angenrheidiol ar lawr y Senedd.

"Gawn ni weld pa mor agos y down ni at hynny... sut mae'r pleidiau eraill wedi gwneud yn yr etholiad.

"Yna, heb geisio rhuthro penderfyniad... fe wnawn ni gymryd ychydig ddyddiau i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y penderfyniad gorau bosib i Gymru."

image captionPaul Davies a Sam Kurtz yn dathlu cael eu hethol i gynrychioli Preseli Penfro a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dathlu cipio Dyffryn Clwyd oddi ar Lafur, a Brycheiniog a Maesyfed - unig sedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad 2016.

Ond chwalwyd gobeithion o ailadrodd llwyddiant etholiad cyffredinol 2019, pan gipiodd y blaid sawl sedd 'wal goch' y gogledd-ddwyrain.

Mae hanner yr 16 gwleidydd gafodd eu hethol gan y Ceidwadwyr yn bobl sydd heb fod yn aelodau o'r Senedd o'r blaen.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ar Twitter ei fod "wrth ei fodd ei fod wedi ennill seddi etholaethol yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth Cymru, a gweld ein cyfran o'r bleidlais ledled y wlad yn cynyddu".

"Ond ar ran y blaid rwy'n cynnig fy llongyfarchiadau gorau i Mark Drakeford a Llafur Cymru ar ymgyrch lwyddiannus."

Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Sadwrn dywedodd y cyn-aelod seneddol Glyn Davies bod angen i'r blaid edrych ar eu strategaeth, ond ei fod yn fodlon gyda'r canlyniad.

"Ry'n ni i gyd yn gwbod, y blaid sydd wedi rhedeg Covid yng Nghymru, Lloegr ac yn yr Alban sydd wedi gwneud yn dda", meddai, "a ni'n gwbod bod pobl eisiau stability, a mae hynny'n un rheswm."

"Ond mae ganddon ni fwy o aelodau yn y Senedd nac ydyn ni wedi eu cael erioed, mae 'na lot o aelodau newydd gyda'r Ceidwadwyr yn y siambr, a dwi'n optimistig. Mae'n base dda i symud ymlaen nawr."

image captionCollodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood sedd Rhondda

Llwyddodd Plaid Cymru i ddal gafael ar gadarnleoedd fel Arfon a Cheredigion, ac mae wedi ennill pedwar o seddi rhanbarthol hyd yn hyn, ond roedd colli sedd Rhondda'n ergyd.

Methodd y blaid hefyd wrth dargedu seddi Llanelli ac Aberconwy, a hynny'n ganlyniad "siomedig" yn ôl eu harweinydd.

Ond dywedodd Adam Price bod y blaid wedi cynyddu ei chyfran o'r bleidlais mewn rhai ardaloedd, a'i fod "erioed wedi cael ymateb mor bositif" gan bleidleiswyr.

Dywedodd hefyd wrth BBC Cymru nad yw pobl wedi gwrthod safbwynt y blaid ynghylch annibyniaeth.

"Mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod annibyniaeth ar y cyfan yn fater positif i ni," meddai.

Ategu hynny wnaeth aelod seneddol y blaid yng Ngheredigion, Ben Lake AS ar Dros Frecwast fore Sadwrn: "Ry'n ni'n gwbod o'r arolygon barn bod dros hanner y pleidleiswyr 2019 o'r blaid Lafur yng Nghymru yn gefnogol o'r syniad o annibyniaeth yng Nghymru - felly dwi credu bod ni wedi bod yn iawn i ffocysu i temtio nhw draw."

"Mae'n edrych yn go debygol y bydd na fwyafrif yn yr Alban rhwng y Gwyrddion a'r SNP dros annibyniaeth.

"[Felly] mae'n bosib iawn bydd materion cyfansoddiadol yn dominyddu gwleidyddiaeth ynysoedd Prydain am flynyddoedd i ddod - ac ar y cwestiwn hynny, felly, mae'n iawn bod y Blaid gyda safbwynt eitha' clir a chadarn ar rhywbeth fydd mor dyngedfennol."

image captionDywed Adam Price nad yw'n ystyried ei safle fel arweinydd

Pan ofynnwyd i Mr Price a yw'n ystyried ei safle fel arweinydd, dywedodd nad oedd yn "cerdded i ffwrdd o ddim byd, oherwydd dyma'r foment y mae angen arweiniad ar Gymru".

"Mae hwn yn her hanesyddol, oherwydd y ffordd y mae gwleidyddiaeth yn symud ar yr ynys yma, ond mae hefyd yn gyfle hanesyddol i ni.

"Gallwn symud ein cenedl yn ei blaen... ac rwy'n edrych ymlaen at chwarae rhan.

"Mae gen i ran i'w chwarae, mae gyda ni oll ran i'w chwarae a dyna sy'n gyffrous ynghylch gwleidyddiaeth ar y foment.

"Mae Cymru'n symud, mae Cymru ar ymdaith. Rwy'n mynd i fod yn rhan o hynny."

image copyrightGetty Images

Roedd colli hen sedd y cyn-weinidog addysg Kirsty Williams, Brycheiniog a Maesyfed i'r Ceidwadwyr, yn ergyd i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond fe lwyddodd y blaid i sicrhau sedd ranbarthol yn y canolbarth a'r gorllewin, sy'n golygu bod ei harweinydd yng Nghymru, y cyn-Aelod Seneddol Jane Dodds ar ei ffordd i Fae Caerdydd.

Dywedodd Ms Dodds: "Mae angen adferiad arnom â chynllun i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac adferiad sy'n blaenoriaethu iechyd meddwl a lles.

"Gall, a rhaid i Lywodraeth Gymru nesaf weithredu ar y materion hyn."

Wrth siarad ar raglen S4C yn ddiweddarach brynhawn Sadwrn, ychwanegodd Ms Dodds y gallai gydweithio gyda Llafur os oedd angen ond na fyddai cytundeb ffurfiol rhwng y ddwy blaid fel a gafwyd gyda Kirsty Williams yn y Senedd ddiwethaf.

"Fydd dim clymblaid o gwbl, dwi'n sicr o hynny," meddai.

Pleidiau llai

Doedd hi ddim yn noson dda i'r pleidiau llai, gydag UKIP yn colli pob un o'r saith sedd rhanbarthol a enillon nhw yn 2016.

Ni lwyddodd Plaid Diddymu'r Cynulliad i sicrhau unrhyw seddi rhanbarthol chwaith, er gwaethaf polau piniwn yn gynharach yn yr ymgyrch oedd wedi awgrymu y gallen nhw wneud.

Chafodd y Blaid Werdd ddim llwyddiant ar y rhestr chwaith, ond fe lwyddodd y blaid i gynyddu canran eu pleidlais ym mhob un o ranbarthau Cymru.

"Fe fyddwn ni'n cario hynny i mewn i etholiadau'r cyngor y flwyddyn nesaf, ble mae pethau'n edrych yn dda," meddai eu harweinydd Anthony Slaughter.

Straeon perthnasol