Etholiad 2021: Torïaid yn cipio sedd bwysig oddi ar y Blaid Lafur

Published
Pynciau Cysylltiedig
image captionY cyfrif wedi dechrau yn y ganolfan yn Nolgellau fore Gwener

Mae'r Ceidwadwyr wedi cipio un o'u seddi targed oddi ar Lafur yn Etholiad Senedd Cymru.

Fe gipiodd y Ceidwadwyr y sedd yn Nyffryn Clwyd gyda 10,792 - mwyafrif o 366.

Ond mae'r Blaid Lafur wedi llwyddo i gadw eu sedd ym Merthyr Tudful a Rhymni.

Fe lwyddodd Llafur i ddal eu gafael ar sedd Delyn hefyd, er gwaethaf llwyddiant y Ceidwadwyr yno yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Daeth canlyniad cyntaf ddydd Gwener yn Sir Drefaldwyn am tua 13:30, ble y cadwodd y Ceidwadwr Russell George ei sedd gan ddyblu ei fwyafrif.

Mae disgwyl i fwyafrif y canlyniadau gael eu cyhoeddi yn ystod y prynhawn a gyda'r nos.

Caeodd y blychau pleidleisio am 22:00 nos Iau, ond oherwydd y pandemig fe gafodd y broses gyfrif ei gohirio tan y diwrnod canlynol.

Bu trafferthion mewn nifer o orsafoedd pleidleisio gyda chiwiau hir o bobl yn aros am oriau i fwrw pleidlais.

Roedd hon yn broblem mewn sawl man, yn cynnwys Caerdydd ac Abertawe, gyda swyddogion yn dweud mai rheolau ar gadw pellter oedd yn gyfrifol.

Roedd rhai gorsafoedd wedi gorfod aros ar agor yn hwyrach na'r 22:00 arferol er mwyn caniatáu i'r rhai oedd yn y ciw i allu pleidleisio.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol dylai "unrhyw un a oedd yn y ciw yn bydd eu gorsaf bleidleisio am 10pm wedi gallu pleidleisio".

Dywedodd Owain Williams sydd yn ymgeisydd Llafur yn y rhestrau rhanbarthol fod y ciwiau yn achos "pryder mawr yma yng Nghaerdydd neithiwr lle'r oedd llawer yn ciwio".

"Rhaid i ni ddeall pam fod hyn wedi digwydd ... pobl yn troi fyny funud olaf," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Gwener.

"Mae'n debyg dylai nhw fod wedi rhagweld hwn yn well na wnaethon nhw."

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Mewn datganiad fore Gwener dywedodd y Comisiwn Etholiadol: "Roedd pellter cymdeithasol ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio ledled Cymru, ac roedd staff yn rheoli nifer y bobl a ganiateir y tu mewn ar unrhyw un adeg.

"O ganlyniad, gofynnwyd i rai pleidleiswyr giwio i fynd i mewn i'w gorsaf bleidleisio. (Byddai) Unrhyw un a oedd yn y ciw yn bydd eu gorsaf bleidleisio am 10pm wedi gallu pleidleisio."

'Brwydro'n galed'

Mae Llafur, sydd wedi bod mewn grym yn Llywodraeth Cymru ers 22 o flynyddoedd, yn gobeithio ennill chweched tymor wrth y llyw.

Fe wnaeth eu harweinydd, a'r Prif Weinidog Mark Drakeford gyfaddef ar ddiwrnod ola'r ymgyrchu bod ei blaid yn "brwydro'n galed yng ngogledd Cymru".

Roedd Mr Drakeford wedi cadw gafael ar seddi'r "wal goch" yn y gogledd ddwyrain a gollwyd i'r Ceidwadwyr yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Roedd nifer o Geidwadwyr amlwg wedi ymweld â'r ardal dros yr wythnosau diwethaf yn y gobaith o droi'r llwyddiant yn etholiad San Steffan yn Wrecsam, Dyffryn Clwyd, De Clwyd a Delyn yn fuddugoliaethau yn y Senedd.

image captionGwirio papurau pleidleisio sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn y cyfrif yn Hwlffordd

Yn y de mae'r Ceidwadwyr yn gobeithio disodli Llafur ym Mro Morgannwg... sedd sydd wedi bod yn Geidwadol yn San Steffan ers 2010.

Cryfder Llafur yw'r 22 etholaeth y maen nhw'n dal ar draws hanner deheuol y wlad, ac fe allai colledion yn fanna gael effaith fawr ar batrwm siambr y Senedd.

Roedd hi'n ergyd i Lafur golli Rhondda i Blaid Cymru yn etholiad 2016, ac mae ffynonellau o fewn y blaid wedi bod yn mynegi hyder y gallan nhw adennill y sedd.

Yn ogystal ag amddiffyn Rhondda, mae Plaid Cymru yn targedu sedd ymylol Llanelli, sydd wedi cyfnewid dwylo rhwng Llafur a Phlaid Cymru ers 1999.

Mae sedd Geidwadol Aberconwy hefyd yn darged i Blaid Cymru.

Yn y cyfamser mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gobeithio cadw'u gafael ar eu hunig sedd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.

Nod Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yw gwneud marc ar y bleidlais ranbarthol.

O'r 60 Aelod Senedd fydd yn cael eu hethol, bydd 40 yn gwasanaethu etholaethau ac 20 yn cael eu hethol drwy'r rhestrau rhanbarthol, gyda phedwar aelod i'r pum rhanbarth - Gogledd Cymru, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru a Gorllewin De Cymru.

Bu pleidleisio hefyd am bedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd i Gymru, ac fe fydd y pleidleisiau hynny'n cael eu cyfri ddydd Sul.

Am y tro cyntaf roedd gan bobl 16 ac 17 oed bleidlais yng Nghymru, ond ar gyfer Etholiad y Senedd yn unig.

Cafodd etholiadau hefyd eu cynnal ddydd Iau ar gyfer Senedd Yr Alban a chynghorau yn Lloegr.

Bydd meiri yn cael eu dewis ar gyfer rhai dinasoedd hefyd, fel Llundain, ac mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol yn Lloegr.

Cafodd un isetholiad San Steffan ei gynnal hefyd yn Hartlepool, gyda'r Ceidwadwyr yn cipio honno oddi ar y blaid Lafur gyda mwyafrif o dros 6,900 o bleidleisiau.

Straeon perthnasol