Ydy trafnidiaeth rhwng y gogledd a'r de yn ddigon da?

Siôn Pennar
Gohebydd BBC Cymru

Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Disgrifiad o’r llun,
Mae galwadau wedi bod ers blynyddoedd maith i wella'r ffyrdd rhwng y gogledd a'r de, fel yr A470

Denodd y penderfyniad i beidio adeiladu ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd lawer o sylw yn ystod tymor diwethaf Senedd Cymru.

Mae unig draffordd y wlad, ynghyd â'r A55 yn y gogledd, yn allweddol i'n rhwydwaith ffyrdd, ac yn rhannu nodwedd bwysig; maen nhw'n cysylltu'r dwyrain a'r gorllewin, a Chymru a Lloegr.

Dydy'r A470 a'r A487, sy'n dod â gogledd a de Cymru ynghyd ddim yn cael cymaint o sylw.

Ond maen nhw'n siapio bywyd a bywoliaeth sawl un.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Meurig Jones bod yr A470 "ddim yn gyfleus" i gwmniau sydd â cherbydau mawr

Meurig Jones yw prif weithredwr cwmni gwastraff Williams a Williams Cyf, sy'n cyflogi 24 o'u pencadlys yn Y Ffôr ger Pwllheli, Gwynedd.

Mae'n teimlo bod ffyrdd Cymru yn rhwystro masnach rhwng y gogledd a'r de.

"Roedd gynnon ni job yn cario i Gaerfyrddin, ond roedd y lori yn rhy uchel i fynd o dan y pontydd trên, ac roedd y diwrnod yn mynd yn lot rhy hir," esbonia.

"Mae'n lot cyflymach i ni fynd i lefydd fel Manceinion a Burnley.

"Mae pob dim ar draws a does dim byd yn mynd o'r de i'r gogledd ac o'r gogledd i'r de i ni. Yr A470 - dydy hi ddim yn gyfleus i lorïau mawr."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Dafydd Owen yn credu bod ateb mwy syml - creu mwy o lefydd i basio cerbydau eraill ar yr A470

Dydy Dafydd Owen, sy'n rhedeg cwmni ffilmio annibynnol ffotoNant, ddim yn gallu osgoi defnyddio'r ffordd honno.

Gyda'i waith, mae'n teithio rhwng Caerdydd a'r gogledd yn wythnosol, mwy neu lai, ac mae'n galw am fwy o lefydd i basio cerbydau eraill ar yr A470.

"Dwi ddim yn meddwl y bysa' 'na lot o gefnogaeth i roi traffordd o ddiwedd y ffordd ddeuol ym Merthyr yr holl ffordd i Borthmadog," meddai.

"Ond jyst gwella'r lonydd. Mae 'na welliannau wedi bod, ond mae 'na'n dal fannau sy'n gallu adio tua hanner awr at dy siwrna, ac mi fysa' hi'n hawdd iawn osgoi hynna."

Beth am drenau?

Mae eraill yn dibynnu ar y rheilffordd i deithio o un pen Cymru i'r llall.

Mae trenau rhwng Ynys Môn a'r brifddinas yn mynd trwy Loegr ac yn galw mewn sawl gorsaf yn y Gororau.

Yn aml, rhaid i deithwyr newid yng ngorsaf Caer neu Crewe.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Dei Owen eisiau gweld rhannau o'r rhwydwaith gafodd eu cau yn y gorffennol yn cael eu hailagor

"Fel mae pethau ar hyn o bryd, does 'na'm digon o gysylltiadau drwy Gymru," meddai Dei Owen, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n wreiddiol o Bwllheli.

"Felly os ydach chi isio mynd o'r gogledd i'r de, 'dach chi'n gorfod mynd drwy Loegr ac mae'n ychwanegu amser a chostau ar bobl."

Hoffai Dei weld y cledrau'n cael eu trydanu a pholisi newydd o ailagor rhannau o'r rhwydwaith gafodd eu cau yn y gorffennol.

"'Swn i'n ailagor y llinellau sydd wedi cau yn y blynyddoedd diwetha'. 'Dan ni'n gweld yn y degawdau cyn datganoli bod 'na linellau trên rhwng Pwllheli a Bangor, er enghraifft, wedi cael eu cau a'u diddymu."

'Rhatach mynd mewn car'

Mae ei gyd-fyfyriwr Elin Roberts, sy'n wreiddiol o Lanfairpwll ar Ynys Môn, yn credu bod y trenau'n rhy ddrud i lawer o deithwyr.

"Mae'n costio rhyw £50, ddim yn cynnwys railcard," meddai.

"Mae o'n rhwystredig, oherwydd mae'n stopio chi rhag eisiau mynd adra, ac mae'n rhoi pwysau ar fy rhieni i fynd â fi yn y car yn hytrach na'r trên achos ei fod yn fwy costus ac mae'n rhatach mynd yn car."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Elin Roberts yn credu bod teithwyr yn osgoi trenau am eu bod mor ddrud

Newid prisiau fyddai blaenoriaeth Elin pe bai hi mewn grym.

"I ddechrau, faswn i'n gobeithio ei wneud o'n rhatach ac yn fwy fforddiadwy," meddai.

"Yn ogystal â hyn, mi faswn i'n agor yr hen reilffyrdd hefyd - mae 'na ddigon draciau sydd wedi cael eu cau yn y gorffennol, a mi fasa hynna'n rhywbeth 'sa'n helpu hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
3.2 pwynt gwefru ar gyfer ceir trydan sydd i bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru

Ymhlith heriau'r degawd sy'n dod mae newid sylfaenol ym mholisïau trafnidiaeth, gyda disgwyl i geir petrol a disel newydd gael eu gwahardd yn 2030.

Er bod ceir trydan yn opsiwn amgen, dywedodd arbenigwr y llynedd ei bod hi'n "anodd iawn" teithio Cymru mewn car o'r fath oherwydd diffyg pwyntiau gwefru cyflym.

Mae ystadegau diweddar gan Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y DU yn dangos mai 3.2 pwynt gwefru o'r fath sydd i bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru - y ffigwr isaf ond un ymhlith holl genhedloedd a rhanbarthau'r DU.

'Dim ateb dros nos'

'Nôl ym Mhen Llŷn, mae Meurig Jones yn credu bod angen "gwell lôn" na'r A470 fel bod busnesau fel Williams a Williams yn gallu masnachu ymhellach i'r de.

"Mae isio sbïo arno fo, ond 'dan ni ddim am gael ateb dros nos," meddai.

"Mae'n andros o job buildio lôn digon da a 'dan ni ddim haws ag altro be' sgynnon ni. Mae isio lôn newydd, rili, reit trwodd."