Dyn wedi marw yn dilyn tân ym Mhen-y-Bont ar Ogwr

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y tân wedi digwydd mewn fflat ar y llawr gwaelod yn y bloc ar Stryd Vernon ym Mhen-y-Bont ar Ogwr

Mae dyn oedrannus wedi marw yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflatiau Vernon House am 11:50 nos Fercher yn dilyn adroddiadau am dân mewn fflat ar lawr gwaelod yr adeilad.

Cafodd dyn oedrannus, a oedd yn byw yn y fflat, ei ddarganfod yn farw. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae Heddlu'r De a'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod beth achosodd y tân.

Pynciau Cysylltiedig