Mwy nag erioed ar restrau aros y GIG yng Nghymru

Owain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightGetty Images
image captionMae llawer o driniaethau wedi'u hatal wrth i'r GIG flaenoriaethu Covid-19 a gofal brys

Mae'r nifer uchaf erioed o gleifion - bron i 550,000 - ar restrau aros y GIG yng Nghymru, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae hyn yn fwy na 17% o holl boblogaeth Cymru.

Dangosai'r ffigyrau ar gyfer mis Chwefror hefyd bod bron i 218,000 wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos, naw mis, am driniaeth.

Mae hyn bron yn 40% o'r rhestr aros gyfan.

Mae hynny fwy nag wyth gwaith yn fwy na'r nifer a arhosodd fwy na naw mis ym mis Chwefror y llynedd.

Ond mae'r ffigyrau'n dangos y bu rhywfaint o welliant yn yr arosiadau hiraf ers yr uchafbwynt ym mis Tachwedd.

Yn ystod y pandemig roedd yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd flaenoriaethu gofal Covid-19 a gofal brys ac mae hynny wedi arwain at oedi mawr mewn triniaethau eraill.

Mae'n debyg mai delio â'r cynnydd aruthrol mewn rhestrau aros ac amseroedd yn ystod y pandemig fydd yr her fwyaf sy'n wynebu pwy bynnag fydd y gweinidog iechyd nesaf yng Nghymru.

Amseroedd aros am driniaeth ysbyty. Nifer yn aros i gael eu cyfeirio am driniaeth, fesul cyfnod aros.  Hyd at Chwefror 2021.

Ym mis Chwefror, yn ôl y ffigyrau diweddara', roedd 549,353 o bobl ar restr aros yng Nghymru - y ffigwr uchaf erioed a chynnydd o 19% o'i gymharu â 461,809 ym mis Chwefror y llynedd.

Ond mae'r cynnydd mwyaf aruthrol i'w weld yn y nifer sydd wedi gorfod aros misoedd lawer am driniaeth.

Ym mis Chwefror roedd 217,655 claf yng Nghymru wedi bod yn aros dros 36 wythnos.

Mae hynny'n 39.6% o bawb ar y rhestr aros - a mwy na wyth gwaith yn fwy na'r nifer ym mis Chwefror y llynedd, sef 25,634.

Ond mae 'na beth gwelliant wedi bod yn y niferoedd sydd wedi gorfod aros y cyfnod hiraf yn ystod y misoedd diwethaf.

Ym mis Tachwedd roedd y ffigyrau'n dangos fod 231,022 wedi bod yn aros dros naw mis.

Beth am y mathau gwahanol o driniaethau?

Os edrychwch chi ar amseroedd aros ar gyfer triniaethau penodol, mae maint yr her yn dod yn amlycach fyth.

Ym mis Chwefror y llynedd roedd 252 unigolyn wedi bod yn aros o leiaf naw mis am driniaeth cardioleg.

Erbyn mis Chwefror eleni roedd hynny wedi codi i 4,328.

Dros yr un cyfnod mae'r nifer sydd wedi gorfod aros dros 36 wythnos am lawdriniaeth cardiothorasig wedi codi o 44 i 188.

Mae'r nifer sy'n aros y cyfnod hiraf am lawdriniaeth gyffredinol wedi codi o 2,288 i 25,181

Ym maes deintyddiaeth adferol gwelwyd cynnydd o ddau berson i 848.

Niwroleg - cynnydd o 22 i 1,028.

Trawma ac orthopedeg wedi codi o 8,424 i 52,173.

A chynnydd ym maes offthalmoleg o 4,083 i 31,695.

Mae cyfnod y coronafeirws hefyd wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n aros am brofion diagnostig - hynny yw i gadarnhau neu ddiystyru afiechyd penodol.

Ond fe allai'r her fod yn fwy sylweddol nag y mae'r ffigyrau yma'n awgrymu.

Mae'r ystadegau'n dangos fod nifer y cleifion gafodd eu cyfeirio am driniaethau wedi gostwng yn sylweddol yn ystod ton gyntaf Covid-19.

Ac er fod y ffigyrau wedi codi ers hynny - maen nhw'n is o lawer nag yn ystod y cyfnod cyn y pandemig.

Argyfwng meddygol arall ar y gweill?

Yn ôl arbenigwyr, mae'r gostyngiad yma'n awgrymu fod rhai cleifion wedi bod yn gyndyn o fynd i weld meddyg am eu symptomau.

Mae hynny naill ai oherwydd eu bod yn ofni dal Covid, neu'n amharod i osod pwysau ychwanegol ar wasanaeth iechyd oedd eisoes dan straen.

Mae'r ffigyrau'n awgrymu fod cannoedd yn llai na'r disgwyl wedi cael eu hasesu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - ac y gallai hynny arwain at ragor o alw yn y dyfodol.

A'r hiraf mae rhywun yn aros am driniaeth, yn aml iawn y mwyaf o effaith mae'r afiechyd yn ei gael ar eu bywydau. Fe allai'r oedi, hefyd, beryglu bywydau.

Mae elusen ganser Macmillan yn awgrymu fod mwy na 3,500 o gleifion heb gael diagnosis canser yn ystod y pandemig, allai arwain at don o afiechyd a marwolaethau yn ystod y misoedd i ddod.

Y cynhara' fo rhywun yn cael diagnosis a thriniaeth canser y mwyaf tebygol y gallan nhw oroesi'r afiechyd.

Yn y cyfamser, mae ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn awgrymu fod hyd at 400,000 yn llai na'r disgwyl o bobl wedi cael eu cyfeirio am bob math o driniaethau yn ystod 2020, ac y gallai delio â'r galw ychwanegol yn ystod y cyfnod nesaf gostio cannoedd o filiynau o bunnau.

Ymateb y pleidiau

Yn ôl Llafur Cymru mae'r pandemig wedi effeithio ar bob rhan o'r gwasanaeth iechyd a hynny ym mhob un o wledydd Prydain.

"Dyna pam fod ein hymateb gofalus yma yng Nghymru mor bwysig," meddai llefarydd.

"Y gwasanaeth iechyd yw ein prif flaenoriaeth a dyna pam rydym wedi rhoi addewid o gynllun adfer gwerth £1bn fydd yn helpu staff fynd i'r afael â'r niferoedd fydd angen gofal.

"Mae'r cynllun yn cynnwys ymroddiad i hyfforddi 12,000 o staff. Mae gennym gynllun i ddod â Chymru drwy'r pandemig ac i symud y gwasanaeth iechyd yn ei flaen."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae ffigyrau heddiw yn ddiwedd pum mlynedd trychinebus arall o Lafur ar ddiwedd 22 mlynedd hir mewn grym, ac yn dangos y brys i newid tac yn radical - y gall y Ceidwadwyr Cymreig yn unig ei ddarparu - i ddelio â'r amseroedd aros 'routine', a'r rhai a ychwanegwyd oherwydd y pandemig a'r cloeon.

"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn datblygu cynllun clir i alluogi GIG Cymru i glirio ôl-groniad y rhestr aros, gan gynnwys trwy ddefnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol i gyflymu triniaeth, ynghyd â darparu pum ysbyty cymunedol newydd ac wedi'u huwchraddio dros y Senedd nesaf, yn ogystal â recriwtio 1,200 yn fwy o feddygon, 3,000 yn fwy o nyrsys, a gweithwyr proffesiynol eraill trwy ein rhaglen 'Cadw, recriwtio a hyfforddi'."

Dywedodd Plaid Cymru: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi gwneud i ni i gyd werthfawrogi ein gwasanaethau iechyd a gofal fel erioed o'r blaen.

"Rydym wedi gweld drosom ein hunain anhunanoldeb y staff sydd wedi mynd yr ail filltir ddydd ar ôl dydd ar ôl dydd i'n cadw'n ddiogel, i achub bywydau ac i ofalu am y rhai mwyaf agored i niwed.

"Ond rydym hefyd wedi bod yn dyst i eiddilwch ac anghynaladwyedd y gwasanaethau hynny, y diffyg buddsoddiad a arweiniodd at orddibyniaeth ar ewyllys da ac ymroddiad llwyr y gweithlu iechyd a gofal.

"Roedd amseroedd aros y GIG eisoes yn annerbyniol o hir hyd yn oed cyn y pandemig ac maen nhw bellach wedi eu gwaethygu gan Covid.

"Er mwyn sicrhau bod gan y gwasanaeth adnoddau ac y gallu i ddarparu gofal iechyd i'r miloedd o bobl sy'n aros, mae gan Lywodraeth Plaid Cymru gynllun pum mlynedd i recriwtio - 4,000 o nyrsys, 1,000 o feddygon a 1,000 o weithwyr iechyd proffesiynol perthynol ac i ddarparu canolfannau diagnostig newydd ar gyfer canser a chyflyrau eraill i sicrhau triniaeth gynnar, ac i greu cynaliadwyedd newydd, cadernid newydd, mewn Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cenedlaethol newydd a thrawsnewidiedig.

"Mae'n ddyletswydd arnom nawr i leddfu'r pwysau ar staff y GIG, i'w had-dalu am eu hymrwymiad yn ein hawr o angen, i roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud yr hyn y maen nhw wedi'i hyfforddi i'w wneud. I ofalu."

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'r GIG yn parhau i ddelio â'r pandemig er gwaethaf y pwysau cynyddol a roddir arno. Mae nawr yn amser da i ailfeddwl sut mae ein gwasanaeth iechyd yn gweithio.

"Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eisiau gweld mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ofal ataliol a diagnosis cynnar, ynghyd â buddsoddiad mewn technoleg a fferyllfeydd cymunedol yn darparu ystod ehangach o wasanaethau i gymryd pwysau oddi ar ysbytai ac adrannau damweiniau ac achosion brys."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol