Goroesi anorecsia ar ôl 'cau fy hun i ffwrdd rhag y byd'

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr

Gyda marwolaeth diweddar seren Big Brother, Nikki Grahame, o anorecsia, mae anhwylderau bwyta wedi bod o dan y chwyddwydr fwy nag erioed.

Dyma stori dwy o ferched ifanc sydd wedi goroesi, a seicotherapydd sydd wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy'n dioddef.

'Casáu sut o'n i'n edrych'

Er nad yw hi'n cofio amser pan nad oedd hi'n hapus gyda'i chorff, un sy'n parhau i frwydro gyda thueddiadau o anhwylder bwyta ydy Manon Usher, 26, o Gaerdydd.

Iddi hi, yn yr ysgol uwchradd aeth pethau allan o reolaeth.

"Ro'n i'n edrych braidd yn goofy beth bynnag, gyda thrwyn mawr a dannedd cam, ac acne ofnadwy o wael," meddai.

"Felly wrth gwrs, daeth y bwlio. Dechreuodd fy ffrindiau gorau o'r ysgol gynradd rowlio'u llygaid a siarad tu ôl i fy nghefn, ac ysgrifennu pethau cas gyda phob bwriad i mi eu darllen."

Buan iawn y trodd yr ymosodiadau geiriol yn rhai corfforol, gyda'r plant yn taflu pethau ati a'i tharo, wnaeth beri i weddill y flwyddyn wneud yr un peth.

Roedd anorecsia yn fy rheoli i."
Manon Usher

"Ro'n i ofn fy nghysgod yn y diwedd, ac yn casáu sut o'n i'n edrych, a dyma'r adeg pan ddechreuodd yr anhwylder bwyta go iawn," meddai.

"Yn fwriadol, fydden i ddim yn bwyta trwy'r dydd. Ar y dechrau, do'n i ddim yn siŵr iawn beth oedd fy nod, ond do'n i byth yn cael brecwast, ac yna roedd rhaid i fi brofi fy hun fy mod i'n gallu mynd trwy'r dydd heb fwyta - a ro'n i'n llwyddo."

Roedd hi'n teimlo dan reolaeth, meddai, ac yn teimlo'n dda am ei hun, a hithau'n goroesi ar rhy ychydig o galorïau y diwrnod.

"Ro'n i'n teimlo fel fy mod i wedi twyllo pawb, er gwaetha'r hyn ro'n nhw'n ei wneud i fi. Ro'n i wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth, a do'n nhw methu mynd â hynny oddi wrtha i."

'Dinistrio fy hun'

Erbyn iddi droi'n 16, roedd hi'n pwyso ei hun sawl gwaith y dydd, gyda'r nod o weld y rhif yn gostwng.

"Ro'n i'n ymarfer corff yn ormodol, ddim yn cysgu llawer a ro'n i mewn poen cyson," meddai. "Ond yr unig beth oedd ar fy meddwl oedd sut i golli pwysau, sut i fwyta llai. Roedd anorecsia yn fy rheoli i.

"Ro'n i'n cau fy hun i ffwrdd o'r byd, ddim eisiau gweld neb na siarad gyda neb. Do'n i ddim eisiau cael fy ngweld."

Ffynhonnell y llun, Manon Usher

Roedd fel pe bai ganddi gyfrinach, meddai, ac roedd hyn yn bwerus, yn gyffrous hyd yn oed.

"Roedd bob dydd yn gyfle arall i fi lwyddo, a gwella fy hun. Bob tro ro'n i'n mesur fy nghanol, roedd yn mynd yn llai ac yn llai - roedd e fel cyffur. Ro'n i'n teimlo mor gryf a ro'n i'n ysu am gael y 'cic' dro ar ôl tro."

Ond buan iawn daeth y teimlad ei bod hi'n boddi, mae'n cyfaddef.

"Bob eiliad o'r dydd ro'n i eisiau sgrechian, ond methu. Ro'n i'n ysu am gael cymorth, ond methu," meddai.

"Ynghyd â'r anhwylder bwyta, ro'n i'n hunan-niweidio hefyd. Roedd gen i'r ysfa gyson i rwygo fy nghroen i ffwrdd. Do'n i byth eisiau marw, ond yn bendant, ro'n i eisiau dinistrio fy hun."

'Magu plwc'

Chafodd Manon ddim cymorth proffesiynol am nad oedd hi'n llawn sylweddoli bod hynny'n opsiwn.

"Er mor anhwylus o'n i, ar y pryd do'n i ddim yn gweld hynny," meddai.

"Dwi'n gystadleuol iawn, sy'n gallu bod yn fendith ac yn felltith. Roedd yr elfen yna'n danwydd mawr i fy anhwylder bwyta, ond wnes i weithio'n galed i ddefnyddio fy egni i ymladd yn ôl.

"Wnes i fagu plwc, i raddau, a gwrthod cael fy nghuro gan anorecsia."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Nikki Grahame ddechrau fis Ebrill 2020. Roedd hi wedi diodde' o anorecsia ers blynyddoedd

Er ei bod hi'n dipyn gwell erbyn hyn, meddai, mae hi'n dal i weld pethau'n anodd.

"Mae gen i euogrwydd mawr wrth fwyta o hyd, a dw i'n galed iawn ar fy hun. Ond nawr fe alla i fwyta pethau, a'u mwynhau, gan wybod fy mod i'n gofalu am fy nghorff ac yn cadw fy hun yn gryf."

Mae ymarfer corff yn bwysig iddi, a gyda champfeydd ar gau am y rhan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf, mae hynny wedi effeithio arni.

"Roedd hyn yn trigger enfawr i fi, a des i'n agos iawn i ddisgyn yn ôl i arferion gwael," meddai.

"Ond diolch byth, roedd gen i'r arian i brynu ambell gyfarpar fy hun, er mwyn fy nghadw i'n actif bob dydd."

Cynnydd mewn niferoedd o ddioddefwyr

Fel rhywun sy'n trin ac yn cynnal sesiynau therapi un i un gydag unigolion mae Sara Mai o Redloxx Wellbeing wedi gweld cynnydd yn y niferoedd sy'n dioddef o anhwylderau bwyta.

"Mae pobl yn teimlo allan o reolaeth efo sefyllfa'r byd fel y mae, ac yn teimlo'r angen i gael y rheolaeth yn ôl," meddai'r seicotherapydd a'r hyfforddwr personol o Sir Fôn.

Y cam cyntaf at geisio gwellhad yw siarad, meddai.

"Dw i'n gwrando, ac yn trio ffeindio gwraidd y broblem os yn bosib, a bod yno fel cymorth ar hyd y daith wellhad. Fel therapydd, dw i'n gallu helpu'r unigolyn i weld pethau neu'r sefyllfa mewn golau newydd er mwyn symud ymlaen a phrosesu'r mater."

Mae'n neis cael siarad gyda rhywun heb deimlo'n euog..."
Cadi Springer

Mae colli'r gallu i fynd i gampfeydd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ergyd, yn ôl Sara Mai, ac wedi cael effaith ar unigolion yn feddyliol ac yn gorfforol.

"Mae'r gym yn rhywle pwysig iawn i lawer un sy'n dioddef efo problem iechyd meddwl o unrhyw fath," meddai.

"Mae ymarfer corff yn anti-depressant naturiol am ei fod yn sbarduno endorffins, sef y cemegyn good mood yn yr ymennydd.

"Mae colli'r gallu i wneud hyn wedi cael effaith mawr ar unigolion yn feddyliol ac yn gorfforol."

Mae cynnal sesiynau therapi ar-lein wedi bod yn fendith iddi, meddai, ond nid yw'n addas i bawb.

"Nid yw pawb yn gyfforddus i gael sesiynau ar-lein, neu maen nhw'n brwydro i ddeall technoleg, sy'n golygu bod rhai yn colli allan ac efallai'n cymryd cam yn ôl o ran gwella."

Cwnsela'n werth chweil

Un a welodd werth mewn sesiynau cwnsela oedd Cadi Springer, 17 oed o Landysul, pan aeth pethau'n drech arni wrth ddychwelyd i'r ysgol.

"Fis Medi diwethaf, dechreuais i gyfyngu ar fy mwyd, am nad o'n i'n teimlo fy mod i dan reolaeth o fy mywyd fy hun," meddai'r ferch o Landysul, sydd wedi casáu ei chorff a'i delwedd ers oedd hi'n 13 oed.

"Dwi wedi cael cyfnodau o fynd ar ddeiet, ond buan iawn ro'n i'n mynd nôl i fwyta'n normal."

Ffynhonnell y llun, Cadi Springer

Ond roedd mis Medi'n wahanol, meddai - daeth blinder mawr drosti, a doedd ganddi ddim yr egni i wneud llawer o ddim.

"Ro'n i'n teimlo mor isel, a daeth y gorbryder i'r amlwg hefyd. Ro'n i'n meddwl am nifer y calorïau a'r ffordd ro'n i'n edrych bron bob eiliad.

"Bydden i'n mynd ar Google i weld faint o galorïau oedd ym mhob bwyd er mwyn sicrhau nad oeddwn i'n mynd dros fy limit dyddiol, ac roeddwn i'n gwneud fy hun yn sâl os oeddwn wedi bwyta gormod."

Doedd cyfryngau cymdeithasol ddim yn helpu, mae'n cyfaddef.

"Y trigger mwyaf i fi oedd y cyfryngau cymdeithasol, sy'n swnio'n cliché, ond ro'n i'n cymharu fy nghorff i gyda phobl eraill ar-lein."

Yn dilyn sesiynau cwnsela a CAMHS (gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc), mae hi wedi dod i ddysgu bod siarad yn help.

"Mae'n neis cael siarad gyda rhywun heb deimlo'n euog fy mod i'n gwneud fy nheulu'n drist," meddai.

"Mae'r broses o newid fy meddylfryd wedi cymryd amser, ond roedd fy nheulu'n gefn, ac roedd CAMHS yn werthfawr. Diolch iddyn nhw, 'sa i'n dioddef rhagor a dwi'n gallu mwynhau heb boeni am sut dwi'n edrych.

"Mae cael help mor bwysig, ac i'r rheini sy'n dioddef ar hyn o bryd, fy neges i iddyn nhw fyddai nad yw eich pwysau na'r ffordd ry'ch chi'n edrych yn eich diffinio chi."

Stori: Llinos Dafydd

Hefyd o ddiddordeb: