Tirlithriad Nefyn: 'Lwcus iawn bod hi ddim yn waeth'

Published
media captionDyma'r foment y digwyddodd tirlithriad ar draeth Nefyn

Roedd hi'n "lwcus iawn" na ddigwyddodd tirlithriad mawr ym Mhen Llŷn ddiwrnod ynghynt pan roedd "miloedd" o ymwelwyr yn yr ardal, meddai aelod o dîm RNLI lleol.

Cafodd gerddi dau dŷ eu sgubo ymaith pan gwympodd darn enfawr o glogwyn uwchben traeth Nefyn ddydd Llun.

Mae'r heddlu a'r cyngor yn parhau i annog pobl i gadw draw o'r safle wrth i'r gwaith asesu a diogelu barhau.

Daw wrth i ddaearegwr sy'n byw yn lleol rybuddio bod "dim rheswm" i'r erydu sy'n achosi tirlithriadau ddod i ben.

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi cynghori preswylwyr o eiddo cyfagos i symud dros dro, a chysylltu â nifer o berchnogion ail gartrefi gerllaw.

media captionTirlithriad Nefyn: Roedd Mandy Stubbs lathenni o'r clogwyn pan ddigwyddodd y tirlithriad

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar ôl y digwyddiad am tua 10:30 fore Llun.

Ar Dros Frecwast, dywedodd Mali Parry-Jones o dîm RNLI Porthdinllaen bod y traeth yn "eithriadol o brysur" ddyddiau ynghynt, a "lwcus iawn fuon ni ddoe bod hi ddim yn waeth".

"Tasa fo wedi digwydd dros y penwythnos pan oedd hi'n eithriadol o brysur, nid yn unig yma yn Nefyn, Morfa Nefyn, Porthdinllaen, ond ar draws Pen Llŷn i gyd, falle fydde 'di bod yn stori wahanol.

"Mae'r tywydd braf 'di denu fawr iawn o bobl i'r ardal, does w'bod faint o filoedd o'dd ar draeth Nefyn dros y penwythnos.

"Lwcus iawn fuon ni ddoe bod hi ddim yn waeth, ond does w'bod be' sy' o'n blaenau ni dros fisoedd yr haf, felly mae gofyn bod gofal yn cael ei gymryd yn sicr dros yr wythnosau os nad misoedd nesa'."

image copyrightMali Parry-Jones
image captionDywedodd Mali Parry-Jones bod y traeth yn "eithriadol o brysur" ddyddiau ynghynt

Dywedodd daearegwr sy'n byw yn yr ardal, Daniel Evans, ei fod yn disgwyl mwy o dirlithriadau yn y dyfodol.

"Mi fydd 'na ragor mae'n siŵr, mae'r prosesau 'ma 'di bod yn mynd ymlaen am rai miloedd o flynyddoedd a does 'na ddim rheswm i feddwl y byddan nhw'n dod i ben rŵan."

Fel arfer, darnau dipyn llai, neu "blisgyn" sy'n disgyn, meddai.

Ond yn yr achos yma, "mae hwn yn broses bach yn wahanol, ac yn rhyw o rotational slip... ac mae o wedi cymryd darn mawr iawn allan o'r clogwyn".

"Y tywod sydd fel pe bai wedi llithro ar dop y mwd sydd ar y gwaelod - dyna ydy'r rotational slip.

"Maen nhw wedi bod yn gweithio mewn llawer lle i drio gwella lle mae'r plisgyn yn dod o'na - maen nhw yn gallu rhoi rhyw net i angori fo i drio stopio hynny - ond gawn ni weld."

image copyrightChristian Pilling

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd brynhawn Mawrth: "Mae tirlithriad yn Nefyn wedi arwain at gyfran sylwedd o wyneb clogwyn a thir preifat cyfagos gwympo ar y traeth.

"Mae swyddogion y Cyngor wedi cynghori preswylwyr o eiddo cyfagos i adleoli dros-dro. Rydym hefyd yn cysylltu â pherchnogion ail gartrefi gerllaw i'w gwneud yn ymwybodol o'r sefyllfa.

"Rydym mewn cysylltiad ag Ystad y Goron sy'n gyfrifol am y rhan dan llanw uchel o'r traeth.

"Mae arwyddion rhybuddio yn cael eu gosod yn yr ardal, ac fel mesur rhagofalus rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i gadw draw o'r rhan yma o'r arfordir ar hyn o bryd."

'Sychu'n grimp'

Yn gynharach, dywedodd Robert Jones o griw bad achub Porthdinllaen: "Mae o'n broblem, yr arfordir o ochrau Pistyll, Nefyn i Forfa Nefyn, rhyw hen allt ydy hi - boulder clay - ac felly mae'n digwydd erioed.

"Ond di'o ddim wedi digwydd i'r fath eithaf a hon - dwi ddim wedi gweld cymaint â hyn erioed.

"Ac mae'r tai wrth gwrs ar ben yr allt fan hyn, maen nhw wedi colli darnau mawr o'r gerddi."

Cyfuniad o gyfnod o law cyn cyfnod pan mae hi wedi "sychu yn grimp" sydd wedi achosi'r tirlithriad, meddai.

"Mae hynny wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf 'ma, darnau mawr wedi disgyn, dim mor fawr wrth gwrs, ond mae hwn wedi bod yn sioc i bawb, faint o hwn sydd wedi gollwng."

image captionRoedd y traeth yn dawel fore Mawrth, ond roedd Gwylwyr y Glannau'n parhau ar y safle

Ddydd Llun, dywedodd yr heddlu eu bod yn "ymwybodol fod pobl yn ymgasglu i dynnu lluniau" o'r digwyddiad, gan annog pobl i "osgoi'r ardal hyd nes y clywir yn wahanol".

Roedd Cyngor Gwynedd hefyd yn annog pobl i gadw draw yn sgil y "tirlithriad sylweddol".

"Mae trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad cychwynnol o'r clogwyn yn ei le ac rydym yn annog pobl i gadw'n glir ac i beidio mynd yn agos i'r ardal cwymp ar hyn o bryd," meddai'r cyngor.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol