Bydd ail-adeiladu GIG Cymru 'yn fwy o her na Covid'

Owain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru

Published
Pynciau Cysylltiedig
image copyrightMatthew Horwood

"Yn anffodus, mi allai bwyntio at dŷ lle mae rhywun wedi marw oherwydd y pandemig, a nid dim ond un tŷ ..."

"Mewn cymuned fel hon, y'n ni'n nabod ein gilydd... ry'n ni'n deulu."

Fe darodd Covid dref Rhymni'n galed, a chyfradd y marwolaethau ymhlith y boblogaeth sy'n byw lle gynt bu'r pyllau glo - hyd at ddwywaith yn uwch nag yn yr ardaloedd mwyaf llewyrchus.

Yn ôl Richard Pugh, sy' 'di byw yma gydol ei fywyd, mae'r pandemig wedi amlygu anghyfartaleddau iechyd yn y ffordd fwyaf creulon posib - problemau mae'r gwasanaeth iechyd a gwleidyddion wedi methu eu datrys am flynyddoedd.

"Y'n ni wedi cael problemau enfawr yn y cymunedau yma am 30 mlynedd," meddai. "Ni byth wedi siarad amdano fe, ni ddim wedi delio ag e. Mae Covid wedi dangos fod iechyd y gymuned hon mewn safle drwg iawn."

Ac yn dilyn dwy don o'r coronafeirws, mae Richard, sy'n bennaeth yr elusen Macmillan yng Nghymru, yn gweld ton arall o afiechyd ar y gorwel. Ton wedi achosi nid gan Covid ond canser.

image captionMae achosion o ganser yn dod i'r amlwg ymhlith pobl gymharol ifanc erbyn hyn, medd Richard Pugh

Mae'r elusen yn amcangyfrif fod 3,500 yn llai o bobl wedi cael diagnosis canser yn y cyfnod Covid, sy'n debygol o arwain at bwysau mawr ar wasanaethau yn y cyfnod nesaf.

"Mae Covid wedi gwneud pobl yn ofnus," meddai Richard Pugh. "Do'n nhw ddim mo'yn dod allan o'r tŷ, dydyn nhw ddim wedi bod yn gweld eu meddygon teulu...

"Ond byddan nhw mor sâl cyn bo hir bod angen ambiwlans arnyn nhw...fel arfer y'n ni'n gweld llawer iawn o achosion yn mhobl dros 65 mlwydd oed ond nawr ma' pobl llawer iawn iau yn dod ymlaen."

"Dyw canser ddim wedi mynd i ffwrdd, ddim wedi mynd ar wyliau, neu cael firebreak neu wedi bod ar furlough. Yn anffodus mae e fel tân - os y'ch chi'n ei adael e mae'n dod nôl yn fwy difrifol."

Yn sicr, fe fydd delio â hyn yn un o'r prif heriau i bwy bynnag fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf yng Nghymru.

Ond nid gwasanaethau canser yn unig fydd yn teimlo'r straen.

Wedi i'r gwasanaeth iechyd orfod gohirio nifer o driniaethau i flaenoriaethu gofal Covid a gofal brys mae rhestrau ac amseroedd aros yn gyffredinol wedi cynyddu i lefelau fyddai'n anodd dychmygu cyn dechrau'r pandemig.

Dyma her fydd yn para blynyddoedd, ac yn ôl Richard Johnson - pennaeth Cymru, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon - fe fydd angen dod o hyd i atebion pellgyrhaeddol.

"Rwy'n credu bod angen ailfeddwl yn radical," dywedodd.

"Dylem fod yn datblygu safleoedd Covid-ddiogel ym mhob rhanbarth, sef ysbytai lle nad oes unrhyw gleifion brys yn mynd i mewn iddyn nhw, sy'n gweithio'n llwyr i ddelio â'r triniaethau gafodd eu hoedi...

"Rydyn ni'n gwybod o brofiad ei bod hi'n hawdd iawn stopio gwasanaethau, ond mae'n llawer anoddach dod â nhw nôl eto. Mae angen rhyw fath o wasanaeth sy'n parhau drwyddo draw, yna bydd hynny'n ein helpu i ni symud mlaen."

Ond sut bynnag mae cyflawni'r nod mi fydd angen gofyn am ymdrech fawr eto gan staff sydd eisoes wedi blino'n lan.

Staff 'wedi blino'

Tra'n galw am gynlluniau i recriwtio a hyfforddi staff, mae Dr Olwen Williams o Goleg Brenhinol y Meddygon yn cydnabod y bydd angen i'r gwasanaeth iechyd ddatblygu dulliau newydd o weithio.

"Un o'r pethau sy' wedi digwydd oherwydd Covid yw mae o wedi rhoi'r cyfle i ni arloesi a dechre cyflwyno'r newidiadau mawr sydd angen gwneud," meddai.

image captionDywed Olwen Williams bod angen mwy o feddygon a bod y rheiny sydd yn gweithio'n barod angen "seibiant a gorffwys" oherwydd gorflinder

"Rhaid i ni beidio gwneud y pethau sy' ddim â 'gwerth' iddyn nhw.

"Rhaid i ni sbïo yn gyfan gwbwl ar sut mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio a chymryd y pethau gorau, y pethau sy'n cynnig gwerth ar gyfer y dyfodol. Ac mae hyn yn gyfle gwych i ni newid pethau."

Fe fydd 'na fanteision o ddatblygu dulliau newydd o weithio - er mae'n debygol iawn y bydd angen i'r llywodraeth nesaf wario arian mawr.

Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, fe gafodd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru £1.4bn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf gan Lywodraeth Cymru i ddelio â'r pandemig, sy'n adlewyrchu'r arian ychwanegol i Gymru oherwydd gwariant yn Lloegr. Mae'n debygol y bydd angen llawer iawn eto i adfer y gwasanaeth.

"Petai Covid heb ddigwydd bydden i wedi disgwyl i wariant iechyd gynyddu 2.1% y flwyddyn oherwydd poblogaeth sy'n tyfu a heneiddio," meddai Guto Ifan, cynorthwy-ydd ymchwil yn y ganolfan.

image captionBydd y blynyddoedd i ddod yn rhai 'eithriadol o heriol' i'r llywodraeth nesa meddai Guto Ifan

"Ond mi fydd na gostau anuniongyrchol oherwydd y pandemig yn y dyfodol - er enghraifft, ar gynhyrchedd (productivity) o gadw mesurau gwrth-heintio a phellter cymdeithasol."

"Un peth sy'n ansicr yw faint o'r bobl na chafodd eu gweld y llynedd fydd yn dod nôl mewn i'r system yn y cyfnod nesaf. Mae amseroedd aros wedi gwaethygu'n barod a bydd angen lefelau uwch o weithgaredd i ddelio â'r backlog".

O le fydd yr arian yn dod?

Fe fydd gan Lywodraeth newydd Cymru rywfaint o arian wrth gefn - tua £1bn heb ei glustnodi ar gyfer 2021/22 - yn rhannol am fod Cymru wedi cael gafael ar offer diogelwch (PPE) ac wedi cyflwyno cynlluniau Profi ac Olrhain yn rhatach nag yn Lloegr.

Ond fe allai penderfyniadau anodd fod ar y gorwel os yw llywodraeth y DU yn penderfynu, fel sy'n cael ei ragweld, i ostwng cyllid y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr i lefelau cyn pandemig y flwyddyn nesaf.

"Fe fydd pa bynnag blaid neu bleidiau fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru yn gobeithio bydd Llywodraeth Prydain yn newid cwrs yn nhermau cynlluniau gwariant ac yn gwario mwy ar iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr," medd Guto Ifan.

"Os nad fydd hynny'n digwydd fe fydd y llywodraeth nesaf yn wynebu penderfyniadau anodd iawn i gydbwyso gofynion y gwasanaeth iechyd gyda popeth arall yn y gyllideb."

Yr hyn sy'n gwbwl amlwg - ailadeiladu'r gwasanaeth iechyd ar ôl yr her fwyaf yn ei hanes fydd hefyd un o'r heriau mwyaf erioed i wynebu'r llywodraeth newydd yng Nghymru.

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd Llafur Cymru y byddai'n helpu gwasanaethau i wella trwy osod "y rhaglen adfer fwyaf y mae ein GIG wedi'i gweld erioed".

Byddai cynllun adfer GIG gwerth £1bn, meddai, yn cael ei lansio "ar y diwrnod cyntaf un".

Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies, fod coronafeirws wedi "dinistrio ein cymunedau" ac "wedi datgelu ein breuder".

Dywedodd y byddai ei blaid yn adeiladu "ysbytai gwell".

Dywedodd Plaid Cymru fod amseroedd aros y GIG yn "annerbyniol o hir" cyn y pandemig.

"Mae angen gweithredu radical a chadarn er mwyn sicrhau bod gan y gwasanaeth adnoddau a bod ganddo'r gallu i ddarparu gofal iechyd i'r miloedd o bobl sy'n aros," meddai llefarydd.

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y byddent yn sefydlu tasglu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd y cyhoedd trwy "hyrwyddo byw'n iach a dewisiadau bywyd da".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol