Teyrngedau o Gymru i Ddug Caeredin

Published
image copyrightGetty Images

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i Ddug Caeredin gan Gymry blaenllaw yn dilyn ei farwolaeth yn 99 oed ddydd Gwener.

Mae'r prif bleidiau yng Nghymru oll wedi dweud y byddan nhw'n atal eu hymgyrchoedd etholiad am y tro.

Fe fydd Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Fae Caerdydd fore Llun ar gyfer sesiwn arbennig i roi teyrnged i'r Dug.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Gyda thristwch rydyn ni'n galaru am farwolaeth Ei Fawrhydi Dug Caeredin.

"Trwy ei fywyd hir a nodedig fe wasanaethodd y goron gydag ymroddiad a haelioni.

"Rydyn ni'n cydymdeimlo gydag Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, ei blant a'u teuluoedd ar yr achlysur trist yma.

"Bydd yn cael ei golli gan y nifer o sefydliadau yr oedd yn eu cefnogi fel noddwr neu lywydd dros ei ddegawdau o wasanaethu."

media captionTeyrngedau o'r byd gwleidyddol i Ddug Caeredin

Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies bod "hwn yn ddiwrnod trist iawn i'r Deyrnas Unedig".

"Arweiniodd Dug Caeredin fywyd nodedig, rhagorodd trwy ei yrfa yn y Llynges Frenhinol, roedd yn graig i'w Mawrhydi'r Frenhines ac mae wedi gadael etifeddiaeth i'r genedl trwy wobr Dug Caeredin.

"Yn ufudd, ffyddlon, a'n ddyfal, ni fyddwn yn gweld ei fath eto, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig ein cydymdeimladau dwysaf i'r Frenhines, a gweddill y Teulu Brenhinol."

image captionDros Gymru mae baneri wedi eu gostwng fel arwydd o barch, fel yma yng Nghonwy
image captionYng Nghaerdydd hefyd mae adeiladau cyhoeddus fel Neuadd y Ddinas wedi gostwng baneri

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price eu bod hwythau yn cydymdeimlo â'r Frenhines a'r Teulu Brenhinol.

"Am dros 60 mlynedd bydd nifer o bobl ifanc yng Nghymru wedi profi a chael budd o gynllun gwobr Dug Caeredin - adlewyrchiad o ddegawdau o wasanaeth cyhoeddus y Dug," meddai.

"Mae ein meddyliau gyda'r Teulu Brenhinol yn y cyfnod trist yma."

'Oes o ddyletswydd a gwasanaeth'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds: "Rydw i'n ymestyn fy nghydymdeimladau i'r Frenhines a gweddill y Teulu Brenhinol yn dilyn y cyhoeddiad yma.

"Rhoddodd Dug Caeredin oes o ddyletswydd a gwasanaeth nid yn unig i'r Frenhines ond i'r wlad hefyd.

"Ymroddodd ei fywyd i nifer o achosion parchus ac am hynny dylai'r genedl fod yn ddiolchgar am byth."

image copyrightTim Graham/PA
image captionMae'r prif bleidiau yng Nghymru oll wedi dweud y byddan nhw'n atal eu hymgyrchoedd etholiad am y tro

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, bod Dug Caeredin yn "was cyhoeddus aruthrol" a gafodd fywyd "ysbrydoledig o gefnogaeth ymroddedig i frenhiniaeth hiraf y genedl".

"Mae'n gadael etifeddiaeth ryfeddol gan gynnwys y rhaglen Gwobr Dug Caeredin a fydd yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig am flynyddoedd lawer i ddod."

Dywedodd cyn-Lywydd y Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Mae gen i atgofion melys iawn am Ddug Caeredin - i roi ei deitl Albanaidd iddo - ond Iarll Meirionydd oedd ei deitl Cymreig o, a ro'n i'n mynnu o hyd ei fod yn arwyddo ei hun fel Iarll Meirionydd pan oedd yn dod fel cymar y Frenhines i ddigwyddiadau pan oeddwn yn Llywydd y Cynulliad.

"Roedd hynny'n fater o hwyl rhyngom ni," meddai wrth BBC Radio Cymru.

"Roedd o yn wych mewn cwmni ar ôl rhyw achlysur brenhinol swyddogol. Roedd yn hoffi tynnu coes, ac yn hoffi difyrru pobl.

"Roedd rhai pobl oedd ddim wedi arfer efo ei arddull o yn meddwl ei fod yn gallu bod bach yn ffwr-bwt, yn sarhaus, ond dim dyna oedd y bwriad - y bwriad oedd dweud rhywbeth i ysgogi sgwrs, a dyna oedd ei ddawn fawr o, ysgogi pobl eraill i ateb yr hyn y bydde fo yn ei ddweud, fyddai falle ychydig yn brofoclyd."

'Cefnogaeth i Gymru'

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan bod "cyfnod maith yn hanes Prydain wedi dod i ben".

"O'i gyfnod wedi ei orsafu ym Mhwllheli ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ei sawl ymweliad yn dilyn trychineb Aberfan, a nifer lu o ymrwymiadau ac yn nawdd sawl sefydliad, dangosodd y Tywysog Philip ei gefnogaeth i Gymru.

"Bydd ei ymroddiad cadarn i fywyd cyhoeddus yn ysbrydoliaeth i lawer o gynghorwyr."

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Wrth dalu teyrnged i'r Tywysog Philip ar ran yr Eglwys yng Nghymru, dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, fod Dug Caeredin wedi byw bywyd "llawn amrywiaeth a wreiddiwyd mewn gwasanaeth i eraill, y genedl, y Gymanwlad a thu hwnt".

"Am ei ddoniau a'i dalentau, am y buddion a roddodd ei fywyd i fywydau pobl eraill, am ei ymdeimlad o ddyletswydd a galwad, ac am ei lu o nodweddion amlwg ac ardderchog, dylem ddiolch a gweddïo y caiff orffwys mewn hedd, yn rhydd o lesgedd dynol, ac mewn bywyd newydd gyda Christ," meddai.

Ychwanegodd fod ei hiwmor yn dangos "safbwynt caredig a hoffus a synnwyr digrifwch praff".

image copyrightPA Media
image captionDug Caeredin gyda'i fab, Tywysog Cymru yn 2016

Dywedodd Ruth Marvel, prif weithredwr Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru bod "gweledigaeth fythol y Dug ar gyfer pobl ifanc erioed wedi bod mor berthnasol ac angenrheidiol".

"Roedd y Dug yn eiriolwr gydol oes i bobl ifanc, gan gredu yng ngallu pob unigolyn a thrwy Wobr Dug Caeredin llwyddodd i greu 'cit personol i bawb'.

"Mae'n fraint i ni barhau â gwaith Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, i sicrhau bod pob unigolyn ifanc - yn enwedig y rhai o grwpiau ymylol - yn gallu elwa o ganlyniadau addysgiadol gwell, gobeithion o ran cyflogaeth, cysylltiadau cymunedol a gwell iechyd meddwl - oll sy'n gysylltiedig â chyflawni gwobr Dug Caeredin."

image copyrightGetty Images
image captionMae teyrngedau i'r Dug eisoes yn cael ei gadael ger giatau Palas Buckingham

Un arall fu'n rhannu ei hatgofion o'r Dug ar Radio Cymru oedd Elsa Davies, cyn-brif weithredwr Cymdeithas y Meysydd Chwarae - oedd â'r Tywysog Philip fel llywydd am 60 mlynedd.

Dywedodd y bydd hi'n ei gofio fel person oedd wastad yn gwneud ei orau i ymwneud â'r cymunedau roedd yn ymweld â nhw.

"Y tro diwethaf weles i fe, daeth e lawr i Fancyfelin ble dwi'n byw ac agor cwt chwarae i blant y pentre nôl yn 2008, ac o'n i'n meddwl 'chwarae teg iddo fe am ddod yr holl ffordd a gwneud hynna, jest i ni ym Mancyfelin'," meddai.

"O'dd e'n mynd rownd ac yn cael gair gyda phawb, ac yn enwedig ym Mancyfelin oedd e'n cael gair gyda'r plant i gyd a siarad gyda nhw.

"Oedd dim amynedd gyda fe at ffotograffwyr i neud posed photos - oedd e'n dweud 'that's it' ar ôl un neu ddau, a draw a fe i siarad gyda phobl." 

image copyrightCanolfan Mileniwm Cymru
image captionY Frenhines a Dug Caeredin yn ystod agor Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004

Yn ystod ymweliadau'r Dug â Chymru, un a wnaeth ei gyfarfod ar fwy nag un achlysur yw John Davies - cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro a chadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Wrth gael ei holi ar y Post Prynhawn dywedodd bod y Dug yn gymeriad hynaws, yn glir ei farn a bod ganddo ddiddordeb byw mewn cefn gwlad ac amaeth.

"Doedd e ddim yn gallu dioddef pobl nad oedd ar yr un donfedd ag e - ac fel aelod o'r teulu brenhinol fe wnaeth e herio'r sefydliad brenhinol sawl gwaith.

"Un o'i gyfraniadau pennaf heb os oedd sefydlu Gwobr Dug Caeredin - gwobr sydd wedi rhoi hyder i bobl ifanc o bob cefndir."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol