Cyhoeddi cyllideb gyntaf Llywodraeth y DU ers y pandemig

Published
image captionFe gododd y Canghellor Rishi Sunak ar ei draed yn Nhŷ'r Cyffredin toc wedi 12:30

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £740m yn rhagor drwy fformiwla Barnett, medd y Canghellor Rishi Sunak wrth gyhoeddi manylion cyllideb Llywodraeth y DU.

Bydd £1.2bn yn fwy i lywodraeth Yr Alban a £410m i weithgor Gogledd Iwerddon.

Dyma'r gyllideb gyntaf ers y pandemig.

Dywed Mr Sunak bod y pandemig wedi newid bywydau pobl yn sylweddol - mae 700,000 o bobl yn y DU wedi colli eu gwaith, mae'r economi wedi crebachu 10% ac mae'r benthyciadau yn enfawr.

"Ond ry'n am wneud popeth i helpu," meddai.

Nid yw'n syndod felly bod cyllideb 2021 yn canolbwyntio ar sut mae'n bosib adfer yr economi wedi Covid.

Dywed Llafur bod cyhoeddiadau heddiw yn rhy hwyr i nifer o fusnesau a dywed Plaid Cymru mai cyhoeddiadau tymor byr a gafwyd a bod angen ystyried tymor hwy.

image copyrightGetty Images
image captionY canghellor yn dal ei focs coch o flaen 11 Downing Street - ar ben ei hun eleni oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol

Mae Llywodraeth y DU wedi cael benthyg £355bn hyd yn hyn er mwyn brwydro yn erbyn y pandemig.

I gael mwy o arian yn y coffrau un o brif gyhoeddiadau y canghellor brynhawn Mercher oedd y byddai'r dreth gorfforaethol yn codi yn 2023 i 25% ond mynnodd Mr Sunak bod y DU yn parhau i fod â'r dreth isaf o blith gwledydd y G7.

"Bydd Graddfa Elw Bychan," ychwanegodd, "yn cael ei chreu er mwyn sicrhau na fydd cwmnïau sydd ag elw o llai na £250,000 yn talu cyfradd uwch o dreth na 19% - felly dim ond 10% o gwmnïau fydd yn talu y dreth lawn."

Ar ddechrau ei araith fe wnaeth y canghellor gadarnhau y bydd y cynllun ffyrlo yn para tan ddiwedd Medi.

Ond ym mis Gorffennaf bydd yn rhaid i gyflogwyr gyfrannu 10% o dâl am oriau na weithiwyd, ac yna 20% ym misoedd Awst a Medi.

media captionYmateb Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams i Gyllideb y Canghellor Rishi Sunak

Mae 178,000 o bobl - 12% o weithlu Cymru - ar ffyrlo ar hyn o bryd.

Ar draws y DU mae'r cynllun wedi diogelu 11.2 miliwn o swyddi.

Dywed Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol bod disgwyl i'r economi fod yn ôl i'r hyn oedd hi cyn Covid erbyn canol 2022 - chwe mis yn gynt na'r hyn a nodwyd ym mis Tachwedd.

280,000 yn derbyn credyd cynhwysol yng Nghymru

Fe wnaeth gadarnhau hefyd y bydd y cynnydd wythnosol o £20 i'r budd-dal credyd cynhwysol yn cael ei ymestyn tan fis Medi a bydd Cyflog Byw yn codi i £8.91 o fis Ebrill.

Mae bron i 280,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn credyd cynhwysol, a dywed nifer bod yr arian ychwanegol yma wedi bod yn "achubiaeth i deuluoedd".

image copyrightPA Media
image captionRishi Sunak a gweinidogion y Trysorlys yn Rhif 11 Downing Street yn gynharach fore Mercher

Bydd cymorth i bobl hunan-gyflogedig hefyd yn parhau tan fis Medi.

Wrth i'r economi ailagor yn yr haf, bydd y llywodraeth yn helpu y rhai sydd â'u trosiant wedi gostwng 30% neu fwy.

"Mae'r llywodraeth wedi gwario £33bn yn cefnogi pobl hunan-gyflogedig yn ystod y pandemig," medd Mr Sunak.

Trethi

Oherwydd datganoli, roedd nifer o gyhoeddiadau'r canghellor mewn meysydd fel iechyd, diwylliant a chymorth i fusnesau ar gyfer Lloegr yn unig.

Ond fe gyhoeddodd y bydd y trothwy treth incwm yn cael ei rewi.

Ni fydd pobl felly yn derbyn mwy o gyflog cyn dechrau talu treth - mae'r trothwy fel arfer yn codi ymhob cyllideb.

Bydd estyniad i'r gwyliau ardrethi busnes yn Lloegr yn parhau at ddiwedd Mehefin - am weddill y flwyddyn bydd gostyngiad o hyd at ddau draean.

Yn y gorffennol - mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi awgrymu y bydd ei lywodraeth yn gwneud yr un peth yng Nghymru.

image copyrightGetty Images

"Fydd yna ddim tollau ychwanegol ar alcohol na thanwydd fel ag a gynlluniwyd. Y bwriad yw cadw costau byw yn isel," meddai Mr Sunak.

Wrth gyfeirio at TAW (Treth ar Werth), dywedodd y canghellor y bydd y gyfradd ostyngol o 5% yn para am chwe mis hyd at 30 Medi - ac yna fe fydd cyfradd dros dro (12.5%) yn para am chwe mis arall. Fydd y gyfradd arferol ddim yn dychwelyd tan Ebrill flwyddyn nesaf.

Fel arfer mae gwariant yn Lloegr yn arwain at arian cyfatebol i Lywodraeth Cymru wario fel maen nhw eisiau.

Ond oherwydd lefel anarferol o uchel y gwariant yn ystod y pandemig yma, mae'r Trysorlys wedi bod yn rhoi swm o flaen llaw i'r llywodraethau datganoledig.

Ym mis Chwefror fe gyhoeddwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn £650m, ddaeth â chyfanswm y cyllid a drosglwyddwyd o San Steffan i Gaerdydd ers y pandemig i £5.85bn.

I'ch ardal leol

Mae'r Trysorlys wedi cyhoeddi hefyd y bydd £150m ar gael i helpu cymunedau ar draws y DU i gymryd rheolaeth o dafarndai, canolfannau celfyddydol a chlybiau chwaraeon.

image copyrightGetty Images
image captionMae'r canghellor eisoes wedi cyhoeddi cynllun peilot ar gyfer hwb hydrogen ar Ynys Môn

Nod cyllideb eleni yw sicrhau y bydd yna gymorth i hybu'r economi ym mhob rhan o'r DU.

Felly mae San Steffan eisoes wedi dweud y bydd £93m ar gyfer prosiectau yng Nghymru i "hybu adferiad yr economi werdd".

Roedd yna gyhoeddiad hefyd bod cyllid ar gyfer canolfan cynhyrchu hydrogen yng Nghaergybi, mwy o arian ar gyfer cytundebau twf yn y gogledd, y canolbarth ac Abertawe, yn ogystal â chymorth ariannol ar gyfer canolfan profi trenau yn ne Cymru.

Ymateb y pleidiau

Wrth ymateb ar raglen Dros Ginio dywedodd Nia Griffith, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur mai yr hyn sydd ei angen nawr yw "help mawr i fusnesau ac i bobl i gael yr economi i fynd".

"Rydyn ni croesawu beth mae'r canghellor yn neud nawr i helpu yr economi. Y ffaith yw, yn anffodus, bod rhai busnesau wedi colli mas drwy'r flwyddyn a gobeithio bydd hi ddim yn rhy hwyr i rai ohonyn nhw.

"Ni wedi gweld gyda'r rhaglen kickstart, er enghraifft, hanner miliwn o bobl ifanc ar draws Prydain heb swyddi a dim ond dwy fil sydd wedi cael eu helpu.

"So beth ni ishe gweld nawr yw sut mae'r rhaglenni mae'r canghellor wedi sôn amdanyn nhw yn mynd i weithio mas."

'Effaith tymor hir'

Dywedodd AS Arfon, Hywel Williams: "Da ni'n gweld lot o bethau tymor byr... estyniad ar raddfa Treth ar Werth ar 5%, er enghraifft, ond mae'n codi i 12.5% ym mis Medi ac yn ôl i'r raddfa lawn wedi hynny.

"Mae'r trothwy treth incwm wedi rhewi, ac os gawn ni'r chwyddiant ydan ni'n disgwyl bydd hynny'n ergyd sylweddol iawn ymhob blwyddyn tan 2026 a thu hwnt. Mae effeithiau tymor hir i benderfyniadau fel hyn."

'Y balans yn iawn'

Dywedodd Tomos Dafydd, Is-gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Rwy'n andros o hapus gyda'r hyn glywais i p'nawn yma, yn enwedig clywed am ymestyn y cynllun ffyrlo sydd wedi sicrhau cymaint o swyddi dros y pandemig, a hynny tan fis Medi.

"Dwi'n falch hefyd o weld y buddsoddiad yma drwy'r cynllun twf. Dwi'n falch hefyd o'r penderfyniad i beidio codi trethi... yn y tymor byr o leia'.

"Fe fydd pethau'n gorfod digwydd [yn y dyfodol] ond dwi'n credu fod e wedi cael y balans yn iawn mewn cyfnod cyn i'r economi gryfhau'n iawn. Byddai gwneud mwy nawr yn rhy gynnar."

Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau gwariant.

Straeon perthnasol