'Nes i sylwi faint o'r Gymraeg 'nes i golli'

Published
image copyrightSara Yassine

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Llyfr, mae Sara Yassine o Gaerdydd yn ysgrifennu am ei phrofiad o ddarganfod llyfrau Cymraeg eto a sut bod darllen wedi ei helpu i ail-gydio yn yr iaith:

Pan o'n i'n iau, roedd gen i obsesiwn â llyfrau.

O'n i'n treulio pob munud sbâr y dydd yn darllen llyfr. Er bod fy rhieni o hyd yn prynu rhai newydd i mi, o'n i'n dal i fynd i'r llyfrgell leol yn aml (ac yn grac eu bod nhw ddim yn gadael i chi fenthyg mwy na 10 llyfr ar y tro).

O'n i'n gallu gorffen cannoedd o dudalennau mewn penwythnos ac yn mwynhau ysgrifennu adolygiadau byr ar ddiwedd pob llyfr. Wnaeth hyn arwain at ddechrau clwb darllen gyda ffrindiau, yn benthyca llyfrau ac yn cadw golwg ar bwy oedd â beth.

O'n i hyd yn oed yn fonitor y llyfrgell ysgol ar un adeg ac yn browd iawn o allu gwisgo'r bathodyn. Ac ar ben hynny i gyd, os ydy'r uchod heb bwysleisio faint o bookworm (a geek) o'n i, roedd fy rhieni yn cymryd llyfrau oddi wrtha i am ychydig oriau os o'n i'n camfihafio…

image copyrightSara Yassine
image captionRoedd Sara yn rhoi nodiadau am y llyfrau roedd hi'n eu darllen pan oedd hi'n blentyn cyn symud ymlaen at y gyfrol nesaf

'Cysylltu'r Gymraeg gyda bywyd ysgol'

Ond er y darllen yma i gyd, doedd dim un o'r llyfrau yn rhai Cymraeg.

Dwi'n credu mai'r rheswm dros hynny oedd oherwydd wnes i gysylltu Cymraeg â'r ysgol. Yr unig lyfrau Cymraeg o'n i'n darllen oedd y rhai roedd yr athrawon yn dewis mewn gwersi. Doedd gen i ddim awydd darllen rhai ar fy liwt fy hun.

Dwi'n cofio joio'r Clwb Cysgu Cŵl (roedd cymeriad o'r enw Sara felly o'n i'n hoff o'r un yna) ond o'n i dal ddim yn ffeindio'r rheiny yn gymaint o hwyl â llyfrau Enid Blyton neu Jacqueline Wilson.

Erbyn i fi fynd i'r ysgol uwchradd o'n i'n astudio llyfrau fel Traed Mewn Cyffion a'r Stafell Ddirgel (o'n i hefyd yn mwynhau), ond eto, o'n i'n darllen nhw oherwydd mai dyna oedd ffocws y gwersi Cymraeg.

Yn anffodus, gan mai Saesneg oedd iaith y tŷ, dyna oedd yr iaith a oedd yn teimlo'n fwyaf naturiol i ddarllen ynddi pan o'n i gartref.

'Nes i sylwi faint o'r Gymraeg 'nes i golli'

image copyrightSara Yassine
image captionAeth Sara i fyw dramor a dechrau colli ei Chymraeg

Rhywbryd rhwng TGAU a phrifysgol, roeddwn yn meddwl... darllen mwy o lyfrau ar ôl gorffen darllen ar gyfer traethodau neu arholiadau? Dim siawns! Felly o'n i ddim yn darllen mewn unrhyw iaith yn fy amser hamdden, nid jyst Cymraeg.

Ond, ar ôl graddio, wnes i symud dramor am ychydig flynyddoedd... felly o'n i bron byth yn siarad nac yn clywed Cymraeg o gwbl. 'Nes i gymryd yn ganiataol y byddwn i'n gallu siarad yr iaith i'r un safon am byth, ond pan ddes i nôl blwyddyn ddiwethaf 'nes i sylwi faint o'r Gymraeg 'nes i golli.

Roedd trio cynnal sgyrsiau yn y Gymraeg yn anodd. Roedd e'n teimlo fel roedd angen defnyddio lot mwy o brain power wrth siarad. O'n i'n edmygu pobl a oedd yn gallu meddwl am y geiriau cywir yn syth ac o hyd yn cofio treiglo.

Trwy fy ngyrfa fel athrawes o'n i'n gwybod mai darllen oedd un ffordd i wella safon iaith, felly nes i fynd ati i brynu llyfrau ar lein (rhaid cyfaddef, 'nath e gymryd amser eitha' hir i fi ddechrau darllen y llyfrau ar ôl eu prynu nhw).

image copyrightSara Yassine
image captionTrwy ddarllen y llyfrau yma mae Sara wedi ail-gychwyn ar ei thaith i fwynhau nofelau Cymraeg

Treheli gan Mared Lewis oedd yr un cyntaf. Dwi'n caru llyfrau dirgel felly ges i fy nenu at stori'r dref fach. Roedd yn hawdd dilyn ac yn ddiddorol gweld sut roedd bywydau sawl cymeriad gwahanol yn cysylltu. Mae yna rai themâu trwm yn y llyfr, a rhai ysgafn hefyd.

'Dydi llyfrau Cymraeg ddim yn ddiflas'

Ond, y peth gorau 'nath y llyfr yma ei wneud oedd dangos bod llyfrau Cymraeg ddim yn ddiflas. Mae'n amlwg i fi nawr bod genres gwahanol hefyd yn bodoli yn y Gymraeg… a jyst achos o'n i ddim yn hoffi un llyfr, doedd hynny ddim yn meddwl y dylwn i stopio darllen yn Gymraeg yn gyfan gwbl.

Cyn Treheli, o'n i'n sicr y byddai'n cymryd oesoedd i fi orffen llyfr Cymraeg ac yn teimlo fel gwaith, ond nes i orffen hwn yn gyflym iawn a mwynhau!

Nawr fy mod i wedi dechrau, dwi'n edrych ymlaen at ddarllen mwy. Ar hyn o bryd dwi hanner ffordd trwy Un O Ble Wyt Ti? gan Ioan Kidd. Dwi'n ei chael hi'n ddiddorol i weld sut mae Caerdydd yn edrych i rywun o wlad arall, a dwi'n dysgu lot o idiomau newydd (e.e. 'daw bola'n gefen' - un grêt i ddefnyddio yn y cyfnod clo!).

Ac mae gen i Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros yn barod i fynd ar ôl i mi orffen.

image copyrightSara Yassine

Er bod hi'n anodd cael tawelwch yn y tŷ gyda phawb adref, dwi'n gwneud ymdrech ymwybodol i roi'r sgriniau i ffwrdd a chodi llyfr.

Pwy a ŵyr, falle wnâi ysgrifennu un fy hun rhyw ddydd!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig