Cyllideb Llywodraeth Cymru: £1bn o wariant ychwanegol

Published

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sut y byddan nhw'n gwario mwy na £17bn o fis Ebrill ymlaen.

Dan y gyllideb derfynol bydd £1.1bn yn ychwanegol yn cael ei wario yn y flwyddyn ariannol 2021-22.

Bydd dros £682m yn mynd at gynorthwyo'r gwasanaethau cyhoeddus drwy'r pandemig, gyda pheth o'r arian i gefnogi'r cynllun brechu.

Bydd yna £224m ychwanegol ar gyfer ar gyfer seilwaith fel tai, a £200m i gefnogi busnesau.

Bydd £8m hefyd yn cael ei fuddsoddi i helpu Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol atgyweirio difrod yn dilyn llifogydd yn Rhagfyr a Ionawr a diogelu cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd.

A bydd yna £20m ar gyfer llwybrau cerdded a seiclo, sy'n dod â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau teithio llesol i £75m.

Diogelu gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru yw'r nod, medd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans ynghyd â rhoi "cymorth amserol i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yn y misoedd i ddod".

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn pwyso am estyniad i'r 'gwyliau' ar drethi busnes. Mae gweinidogion Cymru eisiau aros i weld be fydd cynlluniau'r Canghellor Rishi Sunak ar gyfer Lloegr wrth gyhoeddi ei gyllideb yntau ddydd Mercher, cyn penderfynu sut i wario unrhyw arian all ddod i Gymru yn eu sgil.

Mae pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda gwerth trethiannol o £500,000 neu lai yn cael cymorth trethi ddi-ddomestig o 100% yn y flwyddyn ariannol bresennol.

Mae Plaid Cymru'n dweud fod gweinidogion Bae Caerdydd wedi "methu mynd i'r afael" ag anghyfartaledd sydd wedi'i amlygu gan y pandemig.

Dadansoddi ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick

Er bod rheolau sefydlog y Senedd yn golygu bod yn rhaid galw cyhoeddiad heddiw yn Gyllideb derfynol y gwir plaen yw y bydd y cynlluniau gwariant yn newid eto yn sgil cyllideb y DU a gyhoeddir gan Rishi Sunak yfory.

Gwell yw meddwl am y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw fel isafswm cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru gyda rhagor o gyllid yn debygol o ddod o ganlyniad i gyhoeddiadau'r Canghellor. Mae'n debyg bod y penderfyniad i beidio manylu ynghylch y cymorth ychwanegol fydd ar gael i fusnesau gan Lywodraeth Cymru yn deillio o'r angen i weld pa gymorth uniongyrchol fydd yn cael ei roi gan lywodraeth y DU.

Dyw hi ddim yn syndod mai'r gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol fydd yn derbyn y rhan fwyaf o'r adnoddau ychwanegol o ystyried y faich y mae'r pandemig wedi ei gosod ar wasanaethau cyhoeddus.

Llai i wario

Fe gwblhaodd gweinidogion Cymru y gyllideb derfynol ddydd Mawrth ar gyfer 2021-22 yn dilyn amlinelliad bras ym mis Rhagfyr.

Ym mlwyddyn ariannol gyntaf y pandemig, fe gafodd Llywodraeth Cymru £5bn yn ychwanegol i wario ar Covid-19 gan lywodraeth y DU, ond dan y cynlluniau presennol mae disgwyl i hynny ddisgyn i £766m. Dywedodd gweinidogion sut y bydden nhw'n gwario 10% ohono ym mis Rhagfyr.

Ers hynny mae £650m arall wedi ei gyhoeddi gan y Trysorlys i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i wariant ychwanegol ar Covid yn Lloegr.

Mae arian ar gyfer y pandemig ar ben y £16bn sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar faterion sydd wedi'u datganoli - iechyd, addysg, trafnidiaeth a gwariant amgylcheddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd £206.5m yn cael ei ddarparu i gronfa galedi llywodraeth leol i gefnogi gofal cymdeithasol ac i sicrhau y gall ysgolion ymdopi.

Bydd £10.5m arall yn mynd i gefnogi pobl fregus yng Nghymru tra bod £18.6m yn cael ei wario ar ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus.

Un arall o gyhoeddiadau mis Rhagfyr oedd cynnydd yn y dreth ar ail gartrefi yng Nghymru er mwyn codi £13m ar gyfer tai cymdeithasol.

image copyrightGetty Images
image captionDywedodd Andrew RT Davies fod y pandemig "wedi chwalu economi Cymru"

Gwrthbleidiau

Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood: "Mae'r pandemig wedi chwalu economi Cymru ac mae pobl a busnesau'n gweiddi am ragor o gefnogaeth gan weinidogion Llafur, fel ein bod yn gallu cefnogi teuluoedd ac achub swyddi ond, yn anffodus, mae'r galwadau hynny wedi cael eu hanwybyddu."

Ychwanegodd bod "prin reswm i gredu" y bydd y gyllideb yma'n gwneud mwy dros bobl weithgar na chyllidebau'r gorffennol dan sawl llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd.

Dywedodd llefarydd economi Plaid Cymru, Helen Mary Jones: "Mae yna fylchau mawr yn y gyllideb yma sy'n golygu y bydd y tlotaf mewn cymdeithas yn colli mas. Trwy wrthod ymestyn meini prawf prydau ysgol am ddim a rhewi'r dreth cyngor, methu mae Llafur i warchod y rhai mwyaf bregus rhag effaith y pandemig.

"Ychydig iawn hefyd sydd yna hefyd yn y gyllideb yma fydd yn rhoi eglurder ynghylch cefnogaeth i fusnesau yn y dyfodol. Swm cymharol fach yw £200m i fusnesau sydd, fel y sector lletygarwch, ar eu gliniau ac yn colli cwsg gan ofni gorfod cau a diswyddiadau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru cyn cadarnhau'r gyllideb derfynol brynhawn Mawrth: "Ein pecyn o gefnogaeth busnes yw'r mwyaf hael yn unman yn y DU, ac rydym wedi rhoi mwy o arian ar gael i fusnesau nag ydym wedi ei dderbyn o ganlyniad i wariant ar gefnogaeth fusnes yn Lloegr.

"Byddwn yn adeiladu ar fuddsoddiad 2021-22 gyda mwy na £635m i gefnogi'r GIG a chynghorau lleol dros y chwe mis nesaf.

"Nid yw Llywodraeth y DU eto wedi cadarnhau a fyddan nhw'n ymestyn cefnogaeth trethi ddi-ddomestig yn Lloegr. Rydym wedi galw arnyn nhw i wneud hynny yn y gyllideb fel bod gennym sicrwydd am y cyllid sydd ar gael i Gymru o ganlyniad.

"Rydym yn chwarae ein rhan i sicrhau bod y gefnogaeth yn cyrraedd y rhai mwyaf bregus pan maen nhw ei angen drwy ymestyn y gronfa gefnogaeth Covid am chwe mis pellach a darparu prydau bwyd am ddim i ysgolion yn ystod gwyliau ysgol hyd at Pasg 2022.

"Rydym hefyd wedi galw ar lywodraeth y DU i chwarae eu rhan nhw drwy barhau gyda'r cynnydd o £20 yr wythnos i'r Credyd Cynhwysol a'i roi ar sail barhaol."

Straeon perthnasol