'Gwnewch y pethau bychain' - cerdd Ifor ap Glyn

Published
media caption'Gwnewch y pethau bychain' - cerdd arbennig i BBC Cymru i nodi dydd ein nawddsant

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi ysgrifennu cerdd arbennig i BBC Cymru i nodi dydd ein nawddsant eleni.

Ei neges yntau, fel neges Dewi ei hun, yw i 'wneud y pethau bychain', ac i annog defnyddio'r Gymraeg mewn sgwrs, er mwyn hybu dwyieithrwydd:

"Dwi'n grediniol fod y Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru," meddai'r prifardd, "a bod hi'n rhywbeth ddylai ein huno ni yn hytrach na'n rhannu ni.

"Ac er bod defnyddio ambell air o Gymraeg yn llam mawr seicolegol i lawer, mewn gwirionedd peth bach ydi o yn y bôn - ac yn un ffordd ymarferol i ni ddilyn cyngor ein nawddsant, a 'gwneud y pethau bychain'.

"Dyna dwi'n ceisio annog yn y gerdd hon - hyd yn oed os ydach chi 'mond yn gwybod cwpwl o eiriau yn Gymraeg - defnyddiwch nhw! Gallwn ni'n fuan iawn gael pobl i ddweud 'Shwmae?', 'Diolch', 'Croeso', 'Dim problem' mewn sgyrsiau Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd - a does wybod lle allai hynny arwain wedyn.

"Mae dod yn ddwyieithog yn broses sy'n dechrau hefo cwpwl o eiriau!"

'Gwnewch y pethau bychain'

A Gŵyl Ddewi'n ochneidio tua'r ail haf gwag,

'cymuned' yw ein henfys drwy smwclaw covid;

y cwlwm sydd ryngom â'r cilcyn hwn o ddaear

wrth inni geisio 'gwneud y pethau bychain'

achos bod yn hynafiaid cyfrifol yw ein gwaith

dros y cilcyn hwn o ddaear - a'r cilcyn hwn o iaith...

Lockdown's not for the loquacious

yn Saesneg, na'r Gymraeg;

mae pob cyfathrach lafar ar i lawr,

and thus, language is lost,

yn cilio fesul 'da bo' betrus, o ben draw'r ardd,

fesul sws wedi'i feimio drwy'r ffenest,

a fesul gair heb ei arfer…

Ond bydd modd eu hadfer, fesul un

os 'gwnawn y pethau bychain'…

Achos ni biau'r Gymraeg, yn rhugl ai peidio,

mae'i blas ar bob taith from Bargoed to Beddau,

Rhostyllen to Rhydymwyn,

with Lowri, Rhys or Nia.

Nid iaith ddirgel mo hon,

ond un a aeth dros gof,

felly, 'gwnawn y pethau bychain!'

- give your Welsh a cwtsh, bant â ni, dim problem,

let's start each email 'Annwyl Syr neu Fadam',

let's have 'National Diolch yn Fawr Week'

and 'Welsh on Wednesdays' - why not?

'Gwnawn y pethau bychain' ('di o'm yn gofyn lot)

ac ailgodwn yn amgenach

yng ngweriniaeth ein gwirionedd,

dan enfys newydd o eiriau amryliw

and you only need saith to make a start...

Hefyd o ddiddordeb: