Y côr merched o 1901 fu'n teithio i godi arian i streicwyr

Published
image copyrightAmgueddfa Cymru - Archif Sain Ffagan
image captionCôr Merched y Penrhyn, tua 1902

Gant ac ugain o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth côr o ferched ifanc - o bosib y cyntaf yn Nyffryn Ogwen - godi pac a theithio ledled Prydain i godi pres i gefnogi teuluoedd y fro yn ystod streic chwerw Chwarel y Penrhyn 1900-1903.

Gyda thref Bethesda yn dathlu ei 200 mlwyddiant yn 2020/21 mae cyfle o'r newydd i roi sylw i'r bennod ryfeddol hon yn hanes yr ardal.

Yng ngwanwyn 1901, cafodd Côr Merched y Penrhyn ei ffurfio ar gais pwyllgor cronfa'r streic fel ffordd o geisio dod ag arian i mewn i'r gymuned.

Ond o'r angen yma am gefnogaeth i'r streicwyr a'u teuluoedd cafodd y menywod ifanc yma gyfle prin i deithio a chael profiadau newydd ymhell o gartref.

Am dair blynedd, bu'r aelodau i ffwrdd am wythnosau ar y tro yn cynnal cyngherddau elusennol a chael derbyniad gwych gan gynulleidfaoedd dros y ffin.

Yn eu plith, roedd un dyn, y cyfeilydd Robert Owen Jones Owen, oedd hefyd yn hyfforddi'r côr.

Dyddiadur Mary Ellen

Arweinydd y côr oedd Mary Ellen Parry, soprano 23 mlwydd oed o Fethesda a nain i'r awdures Brenda Wyn Jones.

"Mi wnaeth hi gadw dyddiadur yn dweud lle roeddan nhw ym mhob cyngerdd am y tair blynedd; mae'r dyddiadur gen i," meddai Brenda sy'n byw yn Nhregarth.

"Roeddan nhw i ffwrdd am ryw fis, weithiau mwy na hynny. Wrth gwrs roedd rhaid iddyn nhw fynd o ardaloedd y chwareli, doedd 'na ddim arian yn fa'ma i dalu i fynd i gyngerdd, felly roeddan nhw'n mynd i lefydd drwy Gymru a de Cymru, y cymoedd ac i Loegr lawer iawn.

image copyrightBrenda Wyn Jones
image captionLlun drwy garedigrwydd Brenda Wyn Jones o'i nain, Mary Ellen Parry, arweinydd Côr Merched y Penrhyn

"Roeddan nhw'n cerdded i lawr i'r orsaf yn Bethesda wedyn yn mynd ar drên i Gaer, a newid yn fanno i lle bynnag roeddan nhw'n mynd.

Fe fydden nhw'n aml yn cael cynnig llety am ddim gan ddieithriaid ac yn codi degau o bunnau mewn cyfraniadau gan bobl oedd yn eu clywed yn canu.

"Roedd pobl yn hael iawn yn y llefydd yma yn Lloegr, pobl oedd yn gwybod be' oedd streicio a gweithio'n galed. Roedd 'na lawer iawn o gydymdeimlad," meddai Brenda Wyn Jones.

"Byddai Nain yn dweud wrtha i: 'Pan oeddan ni'n mynd i rywle diarth, y peth cynta o'n i'n 'neud ar ôl cyrraedd y 'stafell lle o'n i i fod i gysgu oedd rhoi fy watsh yn y gwely'.

"Pam? Rhag ofn bod y gwely'n damp. Tasai'r gwely yn damp mi fysai gwydr y watsh wedi cymylu a wedyn roedd hi'n cysgu mewn cadair achos ei fod mor beryg cael gwely tamp."

Brenda Wyn Jones
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
...dyma nhw rŵan yn cael rhyddid a chael gweld pethau na fasan nhw byth yn cael eu gweld fel arfer yn eu bywyd.
Brenda Wyn Jones

Aeth eu teithiau â nhw i drefi mawr fel Lerpwl, Manceinion, Birmingham, Coventry, Caerlŷr, Northampton a Brighton a hefyd i bentrefi bach mwy di-nod.

Fis Hydref 1902 fe dreulion nhw bythefnos yn Llundain lle buon nhw'n swyno cynulleidfaoedd mawr - 5,000 ym Mharc Battersea yn ôl un adroddiad - a chael taith dywys o amgylch Tŷ'r Cyffredin.

"Yn Llundain mi gafodd fy nain baton yn anrheg gan y Maer ac mae'r baton gen i, mae'n un mawr trwm. 'Wnes i erioed ei ddefnyddio fo 'sti, pensel oedd gen i' meddai Nain wrtha i!"

Roedd rhain i gyd yn brofiadau na fyddai merch ddosbarth gweithiol o ogledd Cymru fyth wedi gallu ei gael fel arall ar droad y ganrif ddiwethaf.

"Fel arfer, morynion oeddan nhw, ddim wedi cael llawer o addysg, y rhan fwyaf ohonyn nhw, ac wedi cael eu gyrru i weini fel morynion mewn tai, ond dyma nhw rŵan yn cael rhyddid a chael gweld pethau na fasan nhw byth yn cael eu gweld fel arfer yn eu bywyd.

"Merched sengl di-briod oeddan nhw i gyd wrth gwrs, fysa mamau ddim yn medru gadael eu plant am dair blynedd, na merched priod."

Dim corau merched

Mae Caleb Rhys Jones yn fyfyriwr llais sydd wedi sgrifennu traethawd hir ar hanes cryf canu corawl Dyffryn Ogwen ar gyfer ei radd.

Mae wedi cyhoeddi ei ymchwil i'r côr merched ar wefan Merched y Chwarel.

Nid yn unig roedd yn anarferol yn y cyfnod i ferched gael cyfle i deithio eu hunain ond roedd corau merched eu hunain yn bethau newydd, meddai Caleb.

Pan ffurfiwyd y côr roedd corau meibion lleol eisoes yn cynnal cyngherddau elusennol i'r streicwyr yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr.

"Ti'n trio rhoi cyd-destun i'r holl beth achos does 'na ddim lot o sôn am ferched a gwragedd y chwarelwyr, maen nhw'n cael eu stereoteipio yn aml," meddai Caleb, sydd wedi bod yn gweithio ar ddathliadau 200 mlwyddiant Bethesda gyda Phartneriaeth Ogwen.

"Mae'r penderfyniad i fynd a gadael adref yn benderfyniad mawr. Doeddan nhw ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl ac yn gadael diniweidrwydd cefn gwlad ar ôl ac yn mynd am y trefi mawr.

"Roeddan nhw mor dlawd hefyd, oni bai am y teithiau yma fyddai ganddyn nhw ddim arian i fod yn gwneud hyn.

"Yn y 19eg ganrif fysa merched ddim yn cael canu yn y capel hyd yn oed - y dynion oedd yn codi'r canu. Roedd y cyfleoedd oedd ar gael i ferched i ganu yn gyhoeddus yn brin.

"Yr unig gôr merched adnabyddus yn ystod y cyfnod hwn oedd côr Clara Novello Davies [mam Ivor Novello] a gafodd ei sefydlu yn 1893. Mi wnaethon nhw deithio yn 1893 i ffair y byd yn Chicago a dwi'n meddwl mai hwnna ydy'r côr merched swyddogol cyntaf yng Nghymru."

image captionIvor Novello a'i fam, Clara Novello Davies, gyda chôr y Royal Welsh Ladies roedd Clara yn ei arwain - roedd corau merched yn anarferol iawn yn y cyfnod

Fe gododd y côr dros £8,000. Ar ôl tynnu costau teithio a byw o ryw £5,000 roedd yr elw terfynol yn £2,658, sydd gyfwerth â £325,000 heddiw, meddai Caleb.

Profiadau newydd

Ar wahân i gofnod gwerthfawr Mary Ellen Parry, ychydig o gofnodion personol sydd o'r teithiau felly fedr rhywun ond dychmygu straeon y merched o'u profiadau yn teithio ledled y wlad gyda'i gilydd.

"Mi faswn i'n dychmygu eu bod nhw wedi cael amser da," meddai Caleb. "Dwi'n aelod o Gôr Meibion y Penrhyn ac rydan ni'n cael hwyl - mae'r teimlad yna o deulu yn eithriadol o arbennig, yn enwedig iddyn nhw, mor bell o adra' ac yn yr oes honno.

"Mae'n siŵr bod 'na deimlad gwarchodol o'i gilydd. Roeddan nhw'n naïf, does 'na ddim amheuaeth o hynny. Ond fe gawson nhw'r profiad arbennig yma."

image copyrightCymdeithas Ddinesig Bangor/Colin Parfitt
image captionLlun o'r côr o un o raglenni eu cyngherddau. Rhoddwyd i Gymdeithas Ddinesig Bangor gan Colin Parfitt

Yn ogystal â thaith o amgylch Tŷ'r Cyffredin, mae dyddiadur Mary Ellen yn dangos eu bod wedi ymweld â ffatri cocoa Rowntree yn Efrog, a chael eu gwahodd gan edmygwyr i de ac ar deithiau cwch.

Mae cofnod papur newydd yn dangos eu bod wedi ymweld â charchar ar Ynys Portland hefyd a chael eu heffeithio'n fawr gan y profiad.

Wedi'r teithio

Daeth Streic y Penrhyn i ben yn 1903 ac fe ddaeth teithiau'r côr i ben, wedi iddyn nhw gyfrannu miloedd o bunnau at gadw bwyd ar y bwrdd i deuluoedd y chwarelwyr.

Aeth un o aelodau'r côr, Megan Llechid, ymlaen i fod yn gantores fyd-enwog oedd yn defnyddio'r enw Madame Telini. Cafodd ei hyfforddi gan y bariton operatig o'r Eidal Ernesto Caronna a bu'n byw a gweithio yn Llundain a'r Eidal.

Nid hi oedd unig dalent lleisiol blaenllaw'r côr: cafodd dwy chwaer, Clarissa ac Edith Davies, merched cigydd Bethesda, Price Davies, glod mawr am eu cyfraniadau nhw fel unawdwyr hefyd.

A beth am Mary Ellen, yr arweinydd ifanc?

"Roedd ganddi hi lais soprano da iawn. Iddi hi wnaeth RS Hughes, y cyfansoddwr - oedd yn organydd yn y capel ym Methesda yn y cyfnod - ysgrifennu'r gân Elen Fwyn," meddai Brenda Wyn Jones.

image copyrightHawlfraint y Goron: CBHC
image captionDaeth y syniad o greu'r côr merched a dau gôr dynion er mwyn codi arian gan bwyllgor cronfa'r streic - mae'r paentiad yma yn darlunio pwyllgor y chwarelwyr ger bron Arglwydd Castell Penrhyn

Ond pan ddaeth y côr adref a'r streic i ben fe briododd gyda'i chariad Gruffudd Parry, chwarelwr oedd wedi bod ar streic drwy'r cyfnod.

Oherwydd hynny doedd dim bywoliaeth i gadw Gruffudd a'i wraig ym Methesda.

"Wrth gwrs doedd dynion ar streic ddim yn cael eu gwaith yn ôl yn y chwarael, os nad oeddech chi'n fradwr," meddai Brenda.

"Felly be' wnaethon nhw fel cannoedd o chwarelwyr eraill ar ôl priodi ond mynd i lawr i'r de i weithio yn y pyllau glo. Mi gafodd y plant eu geni i lawr yn y de.

"Doedd 'na ddim côr wedyn, roedd hi'n rhy brysur yn magu plant! Ond roedd hi'n dal i fwynhau canu ac roedd hi'n mwynhau Caniadaeth y Cysegr ar y radio a phethau felly - wrth ei bodd."

Ond, ynghanol trallod a chaledi cyfnod y streic, fe gafodd Mary Ellen dair blynedd ar antur ryfeddol gyda chriw o ferched ifanc Bethesda wrth wneud eu rhan yn cefnogi a chynnal eu cymuned nôl adref.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig