Prif eiconau hanes LGBT+ yng Nghymru

Published

Fel rhan o fis dathlu hanes LGBT+ mae'r hanesydd Mair Jones yn trafod rhai o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol arwyddocaol yng Nghymru.

Mae Mair, sy'n rhedeg blog a chyfri Twitter Queer Welsh Stories, wedi dewis rhannu straeon Cranogwen, Nina Hamnett, E. Prosser Rhys a Jan Morris.

image caption"Mae Cranogwen yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl nawr"

Cranogwen

Roedd Cranogwen (Sarah Jane Rees) yn enwog am sawl rheswm - roedd hi'n morio gyda'i thad yn ifanc yn Llangrannog, daeth hi'n athrawes i forwyr yn Aberystwyth, roedd hi'n fardd ac wedyn yn olygydd, ac mae hi dal yn ysbrydoliaeth am nifer o resymau.

Enillodd yr Eisteddfod Genedlaethol gyda'i cherdd Y Fodrwy Briodasol - ennill yn erbyn nifer o ddynion oedd yn llawer mwy enwog na hi. Wedyn daeth hi'n olygydd ar Y Frythones, cylchgrawn i fenywod Cymru gan fenywod Cymru.

Beth sy'n aml yn cael ei adael allan o'r stori yw roedd Cranogwen yn lesbiaidd. Ei phartner oedd Jane Thomas, a chyn hynny Fanny Rees a fu farw yng nghartref Cranogwen o tuberculosis.

Roedd y gerdd fuddugol Y Fodrwy Briodasol yn barnu priodas, yn enwedig camdrin mewn priodas.

Mae Fy Ffrind yn gerdd sy'n amlwg am berthynas Cranogwen gyda menyw arall, falle Jane Thomas, ei phartner neu falle Fanny Rees cyn hynny, neu hyd yn oed menyw dydyn ni ddim yn gwybod amdani.

Mae Cranogwen yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl nawr.

image copyrightGetty Images
image caption"Roedd Nina Hamnett yn enwog fel brenhines bohemia"

Nina Hamnett

Roedd yr arlunydd Nina Hamnett yn dod o Ddinbych y Pysgod. Treuliodd ei phlentyndod gyda'i mam-gu yn byw bywyd eitha' rhydd. O Sir Benfro hefyd oedd Gwen John (o Hwlffordd) ac roedd y ddwy yn artistiaid aeth i Ffrainc ac a oedd, mae'n debyg, yn ddeurywiol.

Ond lle oedd Gwen John yn eitha' crefyddol, roedd Nina Hamnett yn enwog fel brenhines bohemia.

Ysgrifennodd gofiant The Laughing Torso, daeth yr enw o gerflun o torso go iawn o Nina Hamnett. Roedd hi'n modelu i artistiaid fel Modigliani a Roger Fry. Roedd hi'n agos i'r grŵp Bloomsbury ac roedd hi hefyd yn yfed gyda phobl fel Cedric Morris a Dylan Thomas.

Roedd hi'n gymeriad mawr ar y pryd mewn hanes ond mae'n bwysig hefyd cofio roedd hi'n dalentog iawn. Mae'n werth edrych ar ei phortreadau o nifer o bobl sy'n brydferth yn eu hunain.

Roedd hi'n llwyddiannus iawn yn Llundain a Ffrainc, er mi roedd hi yn eitha' tlawd drwy gydol ei hoes. Er i'w chofiant ddod ag enwogrwydd iddi hi, fe wnaeth hi ddioddef o achos y cofiant yna. Fe wnaeth Aleister Crowley ei siwio hi am ysgrifennu fod e'n cymryd rhan yn y black arts. Collodd hi bopeth.

Cariodd ymlaen fel person amlwg iawn yn y scene bohemia yn Llundain ac ysgrifennodd gofiant arall yn hwyrach, Is She a Lady?

Bu farw yn Llundain yn 1956 pan gwympodd o ffenest ei fflat pan oedd yn ei 60au ond mae dal yn enwog fel ffigwr pwysig yn hanes Cymru a gobeithio gall hefyd fod yn enwog am ei thalent.

E. Prosser Rhys

Ganwyd Edward Prosser Rhys yn 1901 ger Mynydd Bach, Ceredigion lle mae 'na heneb yn dathlu pedwar bardd lleol a gafodd lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Prosser Rhys yw un o'r pedwar bardd yna.

Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1924 gydag Atgof, cerdd oedd yn sôn am berthynas dyn ifanc â rhyw ac am ei berthynas gyda menyw ac hefyd gyda dyn.

Yn sicr wnaeth e syfrdanu rhywfaint ar y pryd, nid yn unig am ei fod yn sôn am berthynas gyda dyn arall ond am fod y gerdd yn sôn am rhyw o gwbl.

Er fod Prosser Rhys eisoes yn rhan o'r gwaed ifanc mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg ar y pryd, teitl ei gyfrol 1923 oedd Gwaed Ifanc, sy'n dangos sut oedd Prosser Rhys yn gweld ei hunan ar y pryd.

Credwyd fod rhan o'r gerdd am berthynas Prosser Rhys gyda dyn arall yn ymwneud â Morris T. Williams, sef gŵr yr awdures Kate Roberts. Mae rhai wedi ysgrifennu efallai fod Kate Roberts ei hun yn ddeurywiol neu lesbiaidd ond does dim gwybodaeth sicr am hynny.

Cafodd Prosser Rhys yrfa lwyddiannus fel golygydd Y Faner yng Ngwasg Aberystwyth. A cyhoeddwyd ei gerddi, gan gynnwys Atgof a rhai cherddi eraill â naws queer yn 1950.

Priododd Prosser Rhys â Mary Prudence Hughes a chael un merch gyda'i gilydd. Bu farw yn 1945 a bu farw Morris T. Williams yn 1946. Mae ychydig wedi ei ysgrifennu am ei perthynas nhw.

Roedd e'n ymddangos yn ddeurywiol achos ei berthynas gyda Morris T. Williams ac hefyd ei briodas gyda Mary Prudence Hughes.

Ond mae'r gerdd Atgof, i fi, yn sicr yn gerdd ddeurywiol. Mae'n ysgrifennu am berthynas gyda menyw a pherthynas gyda dyn.

image caption"Roedd Jan Morris yn ysbrydoliaeth mawr am nifer o resymau - i Gymry, fel awdur ac fel person traws dros y byd i gyd"

Jan Morris

Daeth y newyddiadurwr a'r awdures Jan Morris o Somerset yn wreiddiol - roedd ganddi fam o Loegr a thad o Gymru.

Aeth i ysgol breswyl a Rhydychen ac yna daeth yn newyddiadurwr. Ysgrifennodd am Edmund Hillary a'r criw cyntaf i ddringo Everest yn 1953 ac am argyfwng Suez, ac ysgrifennodd lyfrau teithio hefyd.

image copyrightRoyal Geographical Society
image captionGweithio fel newyddiadurwr yn 1953

Priododd Elizabeth Tuckniss yn 1949. Cafon nhw bump o blant gan gynnwys y bardd Twm Morys a byw yn Llanystumdwy am dros 50 mlynedd.

Dechreuodd Jan Morris ei thrawsnewid ac ailbennu rhywedd yn 1964 ym Morocco. Daethon nhw nôl i'r Deyrnas Unedig lle roedd rhaid i Jan Morris ac Elizabeth gael ysgariad oherwydd doedd eu priodas na phartneriaeth sifil ddim yn gyfreithlon ar y pryd.

Cyhoeddodd yr hunangofiant Conundrum yn 1974. Roedd yn trafod ei thrawsnewid a'i hunaniaeth rhywedd. Roedd hi'n dair neu pedair oed pan sylweddolodd hi fod hi wir yn ferch. A dyna ei chof cyntaf.

Roedd Conundrum yn ysbrydoliaeth mawr i nifer. Roedd yn ddylanwadol iawn fel un o'r llyfrau cyntaf i drafod y pwnc yma gyda'r fath onestrwydd. Wrth edrych ar lythyrau Jan Morris yn y Llyfrgell Genedlaethol roedd llawer yn ei chamenwi ond roedd y gefnogaeth yn fawr ar y pryd.

Yn 2008 ymunodd Jan ac Elizabeth mewn partneriaeth sifil, i wneud eu partneriaeth yn un cyfreithlon eto. Wrth gwrs, roedden nhw yn y bartneriaeth honno am tua 70 o flynyddoedd mewn gwirionedd.

Bu farw Jan Morris ar Tachwedd 20 2020 yn 94 oed. Roedd y diwrnod hwnnw hefyd yn ddiwrnod coffa pobl trawsrywiol sef diwrnod bob blwyddyn i gofio pobl traws sy' wedi colli eu bywydau oherwydd trawsffobia.

Yn sicr mae'n bwysig hefyd i ddathlu pobl LGBT+ gan gynnwys pobl traws. Roedd Jan Morris yn ysbrydoliaeth mawr am nifer o resymau - i Gymry, fel awdur ac fel person traws dros y byd i gyd.

Yn un o'i chyfweliadau olaf a ddyfynnir yn aml, dywedodd: "Everything that's good in the world is kindness."

image copyrightTwm Morys
image captionElizabeth a Jan Morris

Gwrandewch ar Mair Jones yn trafod pobl arwyddocaol yn hanes LGBT+ yng Nghymru mewn rhaglen arbennig yn trafod Rhywioldeb, Recordiau Rhys Mwyn ar Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig