Ysbryd y Nos: "'Dydy cân dda byth yn dyddio"

Published
image copyrightCleif Harpwood

Mae'n gân eiconig i genedlaethau o Gymry a nawr mae Ysbryd y Nos wedi cael ei dewis fel hoff gân y Cymry mewn arolwg newydd i ddathlu Dydd Mamiaith Ryngwladol UNESCO.

Fel un o gyfansoddwyr y gân, mae Cleif Harpwood yn dweud ei fod wrth ei fodd ei bod wedi cael ei chynnwys fel rhan o ddathliadau'r diwrnod.

Nôl ar ddechrau'r 70au y cafodd y gân ei chyfansoddi, ac mae Cleif yn egluro mai yng ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog oedd e pan gafodd yr ysbrydoliaeth i'w sgwennu.

"Ro'n i'n un o staff haf gwersyll yr Urdd yn Llangrannog," meddai, "a phan fydde'r cyfle'n codi ro'n i wrth fy modd yn cerdded llwybre'r clogwyni uwch Ynys Lochtyn gerllaw'r gwersyll."

image copyrightCleif Harpwood
image captionGolchi llestri: Cleif wrth ei waith yn Llangrannog

'Presenoldeb hynaws'

Roedd Cleif wrth ei fodd yn eistedd yn edrych dros y bae ar olau Ynys Enlli yn y pellter a gwrando ar sŵn y tonnau ar draeth yr ynys islaw: "Ro'dd unigedd a naws y lle'n apelio'n fawr ac yn rhyfedd iawn ro'n i'n synhwyro rhyw bresenoldeb hynaws ar led yno.

"Wedi dychwelyd i'r gwersyll un noson dyma fwrw ychydig eirie ar bapur o'dd yn cyfleu'r profiad a syniad am gân."

image copyrightCleif Harpwood
image captionYnys Lochtyn: Cleif yn 2017

Haf 1975 oedd hi ac roedd ei fand Edward H Dafis wedi rhyddhau eu hail albwm, Ffordd newydd Eingl-Americanaidd grêt o fyw. Roedd e'n edrych mlaen at recordio albwm arall rhywbryd yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd: "Pan dda'th y cyfle, a ninne'n chwilio am ddeunydd newydd, dyma ystyried y syniad anorffenedig am Ynys Lochtyn.

"Aeth Edward H i'r stiwdio ym mis Mai, 1976, ond fe benderfynwyd creu albym thematig, 'sneb yn becso dam, am hanes Lisa'r ferch o Bantdu a do'dd baled unigol fel cân Ynys Lochtyn ddim yn gweddu i'r albym honno."

Chafodd Ysbryd y Nos 'mo'i rhyddhau tan 1979 yn y diwedd - yn ystod ail gyfnod Edward H a chafodd ei chynnwys yn yr albym Yn Erbyn y Ffactore.

image copyrightEdward H

"Ro'dd angen tipyn o waith datblygu arni," meddai Cleif, "a gyda chymorth Hefin Elis fe grëwyd Ysbryd y Nos. Fel band doeddwn ni ddim yn ei hystyried yn gân arbennig iawn ac fe'n synnwyd gan ymateb y gynulleidfa ar y pryd."

Nid fe yw'r unig un sy'n synnu am boblogrwydd y gân.

"Dwi'n synnu mewn ffordd achos mae wedi cael ei chanu gymaint mewn corau ac eisteddfodau a ballu 'sa chi'n meddwl bod hynny wedi'i lladd hi," meddai'r cerddor ifanc Marged Gwenllian gan chwerthin.

Ond a dweud y gwir, mae'n credu bod dylanwad y gân yn enfawr: "Dwi'm yn meddwl bod hi'n bosib mesur dylanwad cân fel 'ma."

Mae Marged, sy'n ffan mawr o Edward H ac yn gweithio i'r Urdd ym Meirionnydd, wedi dawnsio i'r gân mewn disgos yng ngwersylloedd yr Urdd, ac wedi ei chanu sawl tro.

"Dwi 'di chanu hi mewn côr mewn steddfod ysgol. A deud y gwir, dwi'n meddwl i mi arwain y côr!" meddai, ac ar ôl holi, mae'n cyfaddef i'w chôr hi ennill. "Hyd yn oed yn y brifysgol yn Aberystwyth. O'dd 'na noson Sŵn yn yr Undeb ac o'dd Ysbryd y Nos bob tro yn cael ei chwarae a phawb yn ei morio hi!

"Mae bron ar yr un lefel a Sosban Fach o ran mor anthemig ydi hi."

Mae fersiwn newydd Marged Gwenllian a'i band newydd sbon, Ciwb, o 'Smo Fi Ishe Mynd newydd fod yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru yr wythnos hon. Mae'n egluro bod y band mor newydd, doedd dim enw ganddo tan i Radio Cymru ofyn am un erbyn dydd Llun 15 Chwefror.

Roedd hi a chyd-aelodau ei band, (Gethin Griffiths ar yr allweddellau, Elis Derbyn ar y gitâr, Carwyn Williams ar y dryms a Marged ar y gitâr fas, a Malan Fôn yn gwneud ymddangosiad arbennig i ganu) wedi recordio'r gân yn wreiddiol ar gyfres cyfres Lŵp ar S4C.

Perfformio mewn stafell wely

Roedd y pedwar wedi cael cais i wisgo'n smart, ac wedi recordio ar wahân yn eu stafelloedd gwely. Roedden nhw ond yn gweld ei gilydd - a'r gantores, Malan Fôn, dros sgwariau'r fideos a dyna ysbrydolodd yr enw Ciwb.

Mae Marged yn hynod ymwybodol o ba mor wahanol yw hi i gerddorion ifanc nawr a'r adeg pan oedd Cleif Harpwood yn cyfansoddi clasuron nôl yn y saithdegau: "Dwi'n meddwl yn aml am ba mor anferth oedd Edward H ar y pryd.

"Pan oeddan nhw yn perfformio ym Mhafiliwn Corwen oeddan nhw yn perfformio i dorfeydd na fedran ni fyth ddychmygu perfformio iddyn nhw. Odd 'na fysys yn dod o bob man i'w gwylio nhw. Odd miloedd yna! A 'dan ni'n perfformio i neb yn ein stafelloedd gwely."

image copyrightCleif Harpwood

Roedd Marged a gweddill y band wedi dewis 'Smo fi ishe mynd gan Edward H gan ei bod yn teimlo bod y gân honno yn andros o fodern ar y pryd, a dal yn fodern heddiw: "'Dydy cân dda byth yn dyddio. Mae'n wir am lot o'i caneuon nhw. Os ti'n siarad efo pobl ifanc heddiw ac yn siarad am eu caneuon nhw, pishyn pishyn a phetha fel 'na. Ma nhw i gyd yn eu nabod nhw!"

Mewn sgwrs ddiweddar ar BBC Radio Cymru, bu Huw Antur, cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glanllyn, yn trafod sut mae gwreiddiau sin roc Gymraeg yng ngwersyll Glan-llyn, ond mae'n amlwg bod gwersyll Llangrannog hefyd wedi gwneud cyfraniad enfawr hefyd.

image copyrightCleif Harpwood
image captionSwogs a staff Llangrannog, gan gynnwys Cleif ei hun, yn 1971

"Mae sawl cawr o'r genedl wedi derbyn y profiad o fod yn staff haf yma yn Llangrannog, gan gynnwys neb llai na Cleif Harpwood," meddai Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog.

"Ry'n ni yn teimlo'r balchder mwyaf o wybod fod Gwersyll yr Urdd Llangrannog wedi chwarae rhan mor bwysig yn ei fywyd, ac wedi ei ysbrydoli i ysgrifennu'r gân arbennig Ysbryd y Nos, ynghyd â nifer o glasuron eraill.

"Er bod tipyn o newid yma ers y 70au, fel yr en suites yn lle'r pebyll, mae'r gân yn cael ei chwarae'n wythnosol yma, ac ry'n ni'n edrych ymlaen at ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf unwaith eto yn Haf 2021!"

image copyrightCleif Harpwood
image captionCleif yn arwain y chwarae yn Llangrannog

Wedi i gannoedd ymateb i'r arolwg, mae UNESCO yn rhyddhau fideo newydd o ail-drefniant o'r gân yn cael ei chanu ar y cyd rhwng artistiaid a disgyblion ysgol.

Osian Huw Williams sydd wedi bod yn gyfrifol am ail-drefnu cân Ysbryd y Nos ar gyfer y fersiwn newydd. Mae disgyblion ar draws y byd wedi cymryd rhan yn y fideo, drwy ffilmio eu hunain mewn llefydd mor bell â Dubai a Patagonia.

Bydd y gân a'r fideo yn cael ei chwarae gyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig